Text only

Anoddefiad i ychwanegion


cola cans open

Caiff ychwanegion bwyd eu hychwanegu at fwydydd i'w lliwio neu eu cadw'n hirach. Mewn rhai pobl, gallant achosi adwaith alergaidd neu orfywiogrwydd.

I gael cyngor ar liwiau bwyd artiffisial penodol, cer i'r adran 'Ychwanegion bwyd a gorfywiogrwydd' isod.




Beth yw ychwanegion bwyd?


Mae ychwanegyn bwyd yn sylwedd o unrhyw fath a gaiff ei ychwanegu’n fwriadol at fwyd er diben penodol (er enghraifft, er mwyn ei gadw neu ei liwio) nad yw fel arfer yn cael ei fwyta fel bwyd nac fel cynhwysyn nodweddiadol mewn bwyd.

Mae’n rhaid i ychwanegion bwyd naturiol ac artiffisial gael eu hasesu’n drylwyr er diogelwch, a’u cymeradwyo, ac mae’n rhaid iddynt gydymffurfio â deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd (UE). Dim ond os yw’r arbenigwyr yn penderfynu eu bod yn angenrheidiol ac yn ddiogel y caniateir eu defnyddio.

Fodd bynnag, gall rhai pobl gael adwaith i ychwanegion penodol, yn yr un modd ag y mae rhai pobl yn cael adwaith i fwydydd y gall pobl eraill eu bwyta heb iddynt gael unrhyw effaith arnynt. Yn aml, mae gan bobl sy’n cael adwaith i ychwanegion alergeddau eraill neu asthma hefyd. Fel arfer, bydd adwaith i ychwanegion yn achosi pwl o asthma neu frech danadl poethion (‘nettle rash’ neu urticaria). Mae sylffitau, bensoadau a tartrasin oll yn fathau o ychwanegion sy’n gallu achosi’r symptomau hyn.

Gwahanol fathau o ychwanegion


Sylffitau

Defnyddir sylffwr deuocsid (E220) a sylffitau eraill (E221, E222, E223, E224, E226, E227 ac E228) fel deunyddiau cadw mewn ystod eang o fwydydd, yn arbennig diodydd meddal, selsig, byrgyrs, a ffrwythau a llysiau sych.

Caiff sylffwr deuocsid ei gynhyrchu’n naturiol wrth wneud gwin a chwrw, ac yn aml caiff ei ychwanegu at win i’w atal rhag parhau i eplesu yn y botel. Fel arfer, sylffwr deuocsid fydd y rhan fwyaf o’r gwagle (y rhan o’r botel nad yw wedi’i llenwi â gwin) mewn potel o win.

Gall unrhyw un sy’n dioddef asthma adweithio i anadlu sylffwr deuocsid. Mae ychydig bach o bobl ag asthma wedi cael pwl ar ôl yfed diodydd asidig sy’n cynnwys sylffitau, ond ni ystyrir bod hyn yn gyffredin iawn.

Mae rheolau labelu bwyd yn ei wneud yn ofynnol i fwyd a becynnir ymlaen llaw yn y DU, ac yng ngweddill yr Undeb Ewropeaidd, ddangos yn eglur ar y label os yw’n cynnwys sylffitau ar lefelau uwchlaw 10mg y kg neu'r litr (neu os bydd un or cynhwysion yn ei gynnwys). Cofiwch y gallai bwydydd fod ar y silffoedd o hyd a gynhyrchwyd cyflwyno’r gyfraith hon (ym mis Tachwedd 2005).

Bensoadau

Defnyddir asid bensoaidd (E210) a bensoadau eraill (E211, E212, E213, E214, E215, E216, E217, E218 ac E219) fel deunydd cadw bwyd i atal burum a llwydni rhag tyfu, mewn diodydd meddal gan amlaf. Maent i’w cael yn naturiol mewn ffrwythau a mêl. Gall bensoadau waethygu symptomau asthma ac ecsema mewn plant sy’n dioddef y cyflyrau hyn eisoes.

Tartrasin

Lliw melyn yw tartrasin (E102) a ddefnyddir mewn ystod o fwydydd, gan gynnwys diodydd meddal, losin a sawsiau. Mae astudiaethau wedi dangos y gall bwyta bwydydd neu yfed diodydd sy’n cynnwys tartrasin achosi brech y danadl (wrticaria), dermatitis (cyflwr alergaidd ar y croen), asthma, neu rinitis (trwyn sy’n rhedeg) mewn nifer fach iawn o bobl. Mae’r arfer o ddefnyddio tartrasin wedi gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Ychwanegion bwyd a gorfywiogrwydd


child's party Os yw dy blentyn yn dangos arwyddion gorfywiogrwydd neu Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD), dylet geisio osgoi rhoi’r lliwiau artiffisial canlynol iddo, gan y gallai hyn helpu i wella ei ymddygiad.

  • melyn machlud (E110)

  • melyn cwinolîn (E104)

  • carmoisine (E122)

  • coch ‘allura’ (E129)

  • tartrasin (E102)

  • ponceau 4R (E124)
Defnyddir y lliwiau hyn mewn nifer o fwydydd, gan gynnwys diodydd meddal, melysion, teisennau a hufen iâ.

Pan gaiff lliwiau eu defnyddio mewn bwyd, rhaid eu datgan ar y rhestr gynhwysion yn 'lliw', yn ogystal â naill ai enw neu E rif y lliw hwnnw. Felly, os byddi di'n penderfynu osgoi ychwanegion penodol, gelli wneud hyn trwy wirio’r label.

Os byddi di'n prynu unrhyw fwydydd a werthir heb eu pecynnu, bydd yn rhaid i ti wirio gyda’r sawl sy’n gwerthu’r cynnyrch neu gyda’r gweithgynhyrchwr.

Mae'r Asiantaeth yn annog gweithgynhyrchwyr i weithio tuag at ddefnyddio opsiynau gwahanol i’r lliwiau hyn. Mae rhai gweithgynhyrchwyr a manwerthwyr eisoes yn gweithredu ar hyn.

Beth yw gorfywiogrwydd?

Term cyffredinol yw gorfywiogrwydd, a ddefnyddir i ddisgrifio anawsterau ymddygiadol sy’n effeithio ar y gallu i ddysgu, cofio, symud, gallu ieithyddol, ymatebion emosiynol a phatrymau cwsg. Yng nghyd-destun y cyngor hwn, mae’n golygu plentyn gorfywiog, sy’n methu â chanolbwyntio ac sy’n gweithredu’n unol â dymuniadau sydyn heb feddwl am y dewisiadau eraill. Nid oes prawf penodol i wneud diagnosis ar gyfer gorfywiogrwydd. Mae arbenigwyr o’r farn ei fod yn effeithio ar rhwng 2 a 5% o blant yn y DU. Mae’r ffigurau yn uwch yn yr Unol Daleithiau.

Mae'n bwysig cofio bod gorfywiogrwydd hefyd yn cael ei gysylltu â nifer o ffactorau eraill ar wahân i ychwanegion. Mae'r rhain yn cynnwys plant sy'n cael eu geni cyn eu hamser, geneteg a magwraeth.

Mae anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) yn fwy nag ymddygiad gorfywiog yn unig. Mae’n gysylltiedig â phatrwm ymddygiad penodol, gan gynnwys llai o allu i ganolbwyntio ac anawsterau canolbwyntio sy’n effeithio ar allu’r plentyn i ddysgu a gweithredu yn y cartref a’r ysgol. Yn aml, bydd gan blant ag ADHD anawsterau dysgu a phroblemau ymddygiadol.

Sut y cytunwyd ar y cyngor ar liwiau?

Cyhoeddwyd y cyngor hwn ar ychwanegiadau bwyd a gorfywiogrwydd yn dilyn gwerthusiad gan y Pwyllgor annibynnol ar Wenwyndra, ac Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA) ar waith ymchwil a gomisiynwyd gan yr Asiantaeth. I gael rhagor o wybodaeth am yr astudiaeth hon, cer i'r ddolen isod.

Mae'n rhaid i bob ychwanegyn bwyd fod yn destun asesiad diogelwch a threfniadau cymeradwyo trylwyr, ac mae'n rhaid iddynt gydymffurfio â deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd. Mae EFSA yn adolygu diogelwch yr holl liwiau bwyd a ganiateir eu defnyddio yn yr Undeb Ewropeaidd.

Dolenni allanol

Nid yw'r ASB yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol