Alergedd i bysgod
Yn aml, gall alergedd i bysgod achosi adweithiau difrifol, gan gynnwys anaffylacsis. Mae oedolion yn fwy tebygol na phlant o ddioddef alergedd i bysgod a physgod cregyn, fel arfer oherwydd bod oedolion yn bwyta’r bwydydd hyn yn amlach.
Mae pobl a chanddynt alergedd i un fath o bysgodyn, fel penfras, yn aml yn adweithio i fathau eraill o bysgod hefyd, fel cegddu, corbenfras, macrell a gwyniad y môr. Y rheswm am hyn yw bod yr alergenau yn y pysgod hyn yn eithaf tebyg. Ni ellir dinistrio alergenau mewn pysgod drwy'u coginio. Yn wir, gall rhai pobl a chanddynt alergedd i bysgod adweithio i bysgod wedi’u coginio ond nid pysgod amrwd.
Ers mis Tachwedd 2005, mae rheolau labelu bwyd yn ei wneud yn ofynnol i fwyd a becynnir ymlaen llaw a werthir yn y DU, ac yng ngweddill yr Undeb Ewropeaidd, ddangos yn glir ar y label os yw’n cynnwys pysgod (neu os yw'n un o’r cynhwysion). Cofiwch y gallai fod rhai bwydydd ar y silffoedd a gynhyrchwyd cyn y dyddiad hwn.
Gelwir y cemegyn a gynhyrchir gan y corff fel rhan o adwaith alergaidd yn histamin. Os na fyddant wedi’u prosesu’n briodol neu heb eu cadw ar dymheredd digon oer, gall rhai pysgod gynnwys histamin. (Caiff ei ffurfio wrth i facteria weithredu ar gnawd y pysgodyn.) Gallai hyn achosi adwaith sy’n debyg i adwaith alergaidd, ond gall gwenwyn histamin pysgod effeithio ar unrhyw un, nid yn unig pobl ag alergeddau.





