Text only

Alergedd i wyau


eggs Fel y rhan fwyaf o alergeddau bwyd, mae alergedd i wyau'n fwy cyffredin yn ystod plentyndod, ac ni fydd tua hanner y plant sy’n dioddef ohono'n blentyn yn ei ddioddef erbyn y byddant yn dair blwydd oed. Mewn rhai achosion, gall alergedd i wyau achosi anaffylacsis.

Prif achosion alergedd i wyau yw’r tri phrotein yn y gwynwy, sef ofomwcoid, ofalbwmin a chonalbwmin. Gall coginio ddinistrio rhai o’r alergenau hyn, ond nid pob un ohonynt, sy’n golygu y gall rhai pobl adweithio i wyau amrwd ond nid wyau wedi’u coginio.

Ers mis Tachwedd 2005, mae rheolau labelu bwyd yn ei wneud yn ofynnol i fwyd a becynnir ymlaen llaw a werthir yn y DU, ac yng ngweddill yr Undeb Ewropeaidd, ddangos yn glir ar y label os yw’n cynnwys wyau (neu a yw yn un o’r cynhwysion). Cofiwch y gallai fod rhai bwydydd ar y silffoedd a gynhyrchwyd cyn y dyddiad hwn.

Weithiau, gall rhywun adweithio i wyau am fod ganddynt alergedd i gig cyw iâr, sofliar neu dwrci, neu i blu adar. Gelwir hwn yn syndrom aderyn-wy.