Clefyd seliag


wheat Mae clefyd seliag hefyd yn cael ei alw'n anoddefiad i glwten neu’n sensitifrwydd i glwten. Mae'n glefyd hunan-imiwn (auto-immune), sy’n golygu bod system imiwnedd y corff yn ymosod ar ei hun. Mae’r math o adwaith sy'n cael ei achosi gan glefyd seliag yn wahanol i alergedd bwyd - nid yw’n achosi i chi gael sioc anaffylactig. Nid yw llawer o bobl sy’n dioddef o glefyd seliag yn sylweddoli hynny.

Pan fydd pobl â chlefyd seliag yn bwyta bwydydd sy’n cynnwys glwten, mae'n difrodi amwisg neu leinin y coluddyn bach, sy’n atal y corff rhag amsugno maethynnau. Gall hyn arwain at ddolur rhydd, colli pwysau ac, yn y pen draw, diffyg maeth.


Bwydydd i’w hosgoi

Protein yw glwten sydd i'w gael mewn gwenith a hefyd mewn nifer o rawnfwydydd eraill, gan gynnwys rhyg a barlys, yw glwten. Felly, os wyt ti'n dioddef o glefyd seliag, bydd yn rhaid i ti osgoi bwydydd a wnaed o’r grawnfwydydd hyn, gan gynnwys y mwyafrif o fathau o fara, pasta, pizza, pastai bisgedi a theisennau.

Defnyddir cynhwysion gwenith mewn llawer o fwydydd, fel selsig a byrgyrs cartref, a llawer o wahanol fathau o saws. Nid yw bwydydd mewn cytew (batter) neu friwsion bara yn addas i bobl sy’n dioddef o glefyd seliag ychwaith. Os wyt ti'n dioddef o glefyd seliag, edrycha ar gynhwysion y bwydydd y byddi di'n eu prynu bob tro. Bydd yn rhaid i ti osgoi rhai diodydd alcohol a wneir o farlys, fel cwrw a lagyr, hefyd.

Mae rheolau labelu bwyd yn ei wneud yn ofynnol i fwyd a becynnir ymlaen llaw a werthir yn y DU, neu yng ngweddill yr Undeb Ewropeaidd, ddangos yn eglur ar y label os yw’n cynnwys grawnfwydydd sy’n cynnwys glwten, gan gynnwys gwenith, rhyg, barlys a cheirch (neu os bydd un o’i gynhwysion yn cynnwys y rhain).

Mae llawer o fwydydd yn rhydd o glwten yn naturiol. Nid yw reis, tatws nac ŷd yn cynnwys glwten, ac maent yn ffynonellau da o garbohydrad â starts. Nid oes glwten mewn ffrwythau, llysiau na chig heb ei brosesu ychwaith. Gelli hefyd brynu cynhyrchion arbennig sy’n addas i bobl sy’n dioddef o glefyd seliag, fel pasta a bara heb glwten.

Mae'r rheolau ar labelu bwydydd sydd wedi'u paratoi'n arbennig ar gyfer pobl ag anoddefiad i glwten wedi newid.

Mae ystyr benodol i'r termau 'heb glwten' (gluten free) ac 'isel iawn mewn glwten' (very low gluten). Mae 'heb glwten' yn cael ei ddefnyddio ar fwydydd sy'n cynnwys llai nag 20 rhan o glwten ar gyfer pob miliwn ac ma pobl sy'n dioddef o glefyd seliag yn gallu bwyta'r rhain. Mae cynhyrchion sy'n dwyn label 'isel iawn mewn glwten' yn addas ar gyfer cynhyrchion sy'n cynnwys math arbennig o starts sydd wedi'i drin i gael gwared ar y rhan fwyaf o'r glwten. Yn gyffredinol, bydd y cynhyrchion hyn yn cynnwys mwy o glwten na'r cynnyrch 'heb glwten' (hyd at 100 o rannau fesul miliwn). Nid yw'r bwydydd hyn yn addas i bawb, felly mae'n bwysig dy fod yn siarad â meddyg cyn cyflwyno'r bwydydd hyn i dy ddeiet.

Mae glwten yn helpu i roi ansawdd elastig i fara a gwaed cnoadwy. Er mwyn cael bara, gwaelodion pizza ac ati gyda rhai o'r rhinweddau hyn, mae ail gategori o gynhyrchion sy'n dwyn y label 'isel iawn mewn glwten' wedi'i ganiatáu. Bydd hyn yn cynnwys dim ond y cynhyrchion hynny sydd wedi'i gweithgynhyrchu gan ddefnyddio math arbenig o starts sydd wedi'i drin i dynnu'r rhan fwyaf o'r glwten allan ohono. Bydd cynhyrchion yn y categori hwn yn cynnwys lefel uwch o glwten - sef hyd at 100 o rannau fesul miliwn. Er bod mwy op glwten yn y cynhyrchion hyn, ni fwriedir i ti fwyta llawer o'r bwyd sydd yn y categori hwn o ddydd i ddydd.

Bydd yr honiadau newydd ar y label yn dy alluogi i ddewis yn bennaf bwyd sy'n 'rhydd o glwten' (gluten free) a llai o'r bwydydd sy'n dwyn y label 'isel iawn mewn glwten' (very low gluten). Fodd bynnag, ni fydd pawb yn gallu bwyta bwydydd 'isel iawn mewn glwten' gan fod y 100 rhan fesul miliwn yn eu gwneud yn dost, felly mae'n bwysig siarad gyda meddyg neu ddeietegydd cyn eu cyflwyno i dy ddeiet am y tro cyntaf.

Mae'n bosibl na fydd rhai gweithgynhyrchwyr yn gallu bodloni'r lefelau hyn gan fod cynhyrchion eraill y maent yn eu cynhyrchu yn halogi bwyd wedi'i becynnu ymlaen llaw wrth ei gludo, ei storio neu ei gynhyrchu. Yn yr achos hwn, mae'n bosibl y byddant yn dewis nodi nad yw'r bwyd yn cynnwys unrhyw gynhwysion sy'n cynnwys glwten, gan adael i ti benderfynu p'un a fyddai'r lefel o halogiad damweiniol yn rhy uchel i ti ei fwyta ai peidio. Ni fydd unrhyw awgrym o faint o glwten sydd yn y cynnyrch ac felly mae'n bosibl y byddi di'n teimlo nad yw'n ddiogel cymryd y risg.

Weithiau bydd pobl sy'n dioddef o glefyd seliag yn methu â bwyta ceirch. Mae ceirch yn cynnwys protein sy’n debyg i glwten, ond nad yw’n union yr un peth. Mae hefyd yn bosibl i symiau bach o rawnfwydydd eraill, fel gwenith, fynd i gynhyrchion ceirch wrth i’r cnwd dyfu, neu wrth iddo gael ei gynaeafu neu ei gludo. Mae ymchwil wedi dangos na all rhai pobl sy’n dioddef clefyd coeliag oddef ceirch neu gynhyrchion ceirch. Ar hyn o bryd, nid oes gan arbenigwyr meddygol ddigon o dystiolaeth i benderfynu a ddylai pawb sy’n dioddef o glefyd seliag osgoi ceirch. Mae'r rheolau newydd yn caniatau i gynhyrchion sy'n cynnwys ceirch ddwyn label 'gluten free', ond dim ond os yw lefel y glwten yn y ceirch yn llai nag 20 rhan fesul miliwn.

Os wyt ti'n dioddef o glefyd seliag, mae'n debygol y byddi di wedi cael cyngor i osgoi ceirch, yn ogystal â gwenith, rhyg a barlys, yn arbennig pan wneir y diagnosis gyntaf. Dylet drafod â'th weithiwr iechyd proffesiynol a ddylet ddechrau bwyta ceirch eto, oherwydd efallai na fydd ceirch yn addas i rai pobl sy’n dioddef clefyd seliag. Mae dau reswm posibl dros hyn - mae'n bosibl bod rhai pobl yn cael adwaith i brotein mewn ceirch sy'n debyg iawn i glwten, neu efallai bod symiau bach o rawnfwydydd eraill, megis gwenith, wedi dod i gysylltiad â'r cynhrychion ceirch wrth i'r gnwd dyfu, cael ei gynaeafu neu ei gludo. Ar hyn o bryd, nid oes gan arbenigwyr meddygol ddigon o dystiolaeth i benderfynu p'un a addylai pawb sy'n dioddef o glefyd seliag osgoi ceirch. Fodd bynnag, dylet fod yn ymwybodol bod y rheolau newydd yn pennu mai dim ond ceirch sydd ag 20 rhan fesul miliwn neu sy'n cael ei labelu fel 'rhydd o glwten' neu eu ddefnyddio mewn cynhrychion sy'n dwyn y label 'rhydd o glwten' neu 'isel iawn mewn glwten'.

Mae’n bwysig deall nad yw cynhyrchion a labelir 'heb wenith' yr un peth â chynhyrchion a labelir 'heb glwten'.

Mae'n bwysig cofio nad yw cynhyrchion sy'n dwyn label 'heb wenith' yr un peth â chynhyrchion sydd' heb glwten' neu 'isel iawn mewn glwten'. Gall cynhyrchion sydd heb wenith gynnwys grawnfwydydd eraill, megus rhyg neu farlys, ac nid yw'r rhain yn addas i rywun sy'n dioddef o glefyd seliag, oni bai eu bod hefyd yn dwyn label 'gluten free' neu 'very low gluten'.

Gall cynhyrchion 'heb glwten' ac 'isel iawn mewn glwten' gynnwys proteinau eraill sydd i’w canfod mewn gwenith (albwminau, globwlinau a phroteinau gronyn starts). Felly efallai na fydd y rhain yn addas i bobl sydd ag alergedd neu anoddefiad i wenith.

Mae Coeliac UK, sef elusen sy’n cefnogi pobl ag anoddefedd glwten, yn gweithio gyda gweithgynhyrchwyr i gynhyrchu rhestr a ddiweddarir yn rheolaidd o fwydydd nad ydynt yn cynnwys glwten.

Yr hyn sy’n achosi clefyd seliag

Nid ydym yn deall yn llawn pam fod rhai pobl yn dioddef y cyflwr hwn, ond yn aml mae'n ymddangos ei fod yn rhedeg mewn teuluoedd. Yn aml, mae doctor yn rhoi diagnosis clefyd seliag ar ôl i blentyn gael ei diddyfnu, pan gaiff grawnfwydydd eu cyflwyno i’r deiet, ond mae llawer o bobl yn cael y diagnosis hwn lawer hwyrach mewn bywyd hefyd.

Mae peth ymchwil yn awgrymu bod peidio â rhoi bwydydd sy'n cynnwys gwenith, fel bara, blawd gwenith, grawnfwydydd brecwast a 'rusks' i blentyn cyn ei fod yn chwe mis oed yn golygu ei fod yn llai tebygol o ddatblygu clefyd seliag. (Ar hyn o bryd, rydym yn dy gynghori i beidio â rhoi unrhyw fwydydd solet i dy faban tan eu bod yn chwe mis, oni bai bod dy feddyg teulu neu'r ymwelydd iechyd yn dy gynghori i wneud hynny).

Mae'n bosibl bod pobl sy'n dioddef o gyflyrau meddygol penodol yn fwy tebygol o ddatblygu clefyd seliag, er enghraifft, pobl â diabetes Math 1, problemau thyroid, colitis briwiol, a phroblemau niwrolegol penodol, fel epilepsi.

Mae profion gwaed sy’n gallu helpu i ganfod a yw rhywun yn dioddef o glefyd seliag, ond yr unig ffordd o wybod yn bendant yw trwy gynnal biopsi, lle caiff darn bach o’r coluddyn bach ei dynnu a’i archwilio o dan ficrosgop.

Tan yn ddiweddar, credir bod clefyd seliag yn effeithio ar tua un o bob 1,500 o bobl yn y DU. Fodd bynnag, mae tystiolaeth a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2004 yn awgrymu bod tua 1 o bob 100 o bobl yn dioddef o'r cyflwr. Mae'r ffigur hwn yn seiliedig ar brofion gwaed mewn plant, ac nid yw wedi’i gadarnhau gan fiopsïau. Mae'n bosibl felly nad yw clefyd seliag mor gyffredin ag y mae’r ymchwil yn awgrymu. Fodd bynnag, mae llawer o bobl yn dioddef o glefyd seliag heb yn wybod iddynt, a thybir mai dim ond 1 o bob 8 sydd â'r cyflwr sydd wedi cael diagnosis gan feddyg.

Nid oes modd cael gwared ar glefyd seliag. Yr unig ffordd o osgoi’r symptomau yw peidio â chael bwydydd a diodydd sy’n cynnwys glwten. Os na fydd y rhai sy'n dioddef o glefyd seliag yn rheoli eu cyflwr, gall arwain at anemia, clefyd yr esgyrn ac, mewn achosion prin, mathau penodol o ganser. Gall hefyd achosi problemau tyfu mewn plant.

Ffynonellau posibl o glwten

Mae glwten yn brotein a geir mewn gwenith a hefyd mewn nifer o rawnfwydydd eraill gan gynnwys rhyg a haidd. Felly os wyt ti'n dioddef o'r clefyd seliag, mae angen i ti osgoi bwydd sydd wedi'u gwnedu o'r grawnfwydydd hyn, gan gynnwys:
  • cytew neu friwsion bara
  • bisgedi
  • bara
  • byrgyrs
  • cacennau
  • chapattis
  • siytni
  • fajita
  • harissa
  • saws marchruddygl
  • hufen iâ
  • nwdls
  • toes
  • pasta
  • pizza
  • dresin salad
  • selsig
  • sawsiau
  • saws soy
  • ciwbiau stoc
  • sos coch
  • piwri tomato
  • saws Worcestershire






URL: http://www.eatwell.gov.uk/healthissues/foodintolerance/foodintolerancetypes/coeliacdisease/lang=cy&?lang=cy