Text only

Clefyd seliag


wheat

Gelwir clefyd seliag yn anoddefiad glwten neu’n sensitifrwydd glwten hefyd. Mae hefyd yn glefyd hunanimiwn, sy’n golygu bod system imiwnedd y corff yn ymosod ar ei hun. Mae’r math o adwaith a achosir ganddo yn wahanol i alergedd bwyd - nid yw’n achosi anaffylacsis. Ni fydd llawer o bobl sy’n dioddef clefyd seliag yn sylweddoli hynny.

Pan fydd pobl â chlefyd seliag yn bwyta bwydydd sy’n cynnwys glwten, bydd yn difrodi amwisg y coluddyn bach, sy’n atal y corff rhag amsugno maethynnau. Gall hyn arwain at ddolur rhydd, colli pwysau ac, yn y pen draw, diffyg maeth.



Bwydydd i’w hosgoi

Protein yw glwten sydd i'w gael mewn gwenith a hefyd mewn nifer o rawnfwydydd eraill, gan gynnwys rhyg a barlys, yw glwten. Felly, os wyt ti'n dioddef o glefyd seliag, bydd yn rhaid i ti osgoi bwydydd a wnaed o’r grawnfwydydd hyn, gan gynnwys mwyafrif y mathau o fara, pasta, pizza, pastai bisgedi a theisennau.

Defnyddir cynhwysion gwenith mewn llawer o fwydydd, fel selsig a byrgyrs cartref, a llawer o wahanol fathau o saws. Nid yw bwydydd mewn cytew (batter) neu friwsion bara yn addas i bobl sy’n dioddef o glefyd seliag ychwaith. Os wyt ti'n dioddef o glefyd seliag, edrycha ar gynhwysion y bwydydd y byddi di'n eu prynu bob tro. Bydd yn rhaid i ti osgoi rhai diodydd alcohol a wneir o farlys, fel cwrw a lagyr, hefyd.

Ers mis Tachwedd 2005, mae rheolau labelu bwyd yn ei wneud yn ofynnol i fwyd a becynnir ymlaen llaw a werthir yn y DU, neu yng ngweddill yr Undeb Ewropeaidd, ddangos yn eglur ar y label os yw’n cynnwys grawnfwydydd sy’n cynnwys glwten, gan gynnwys gwenith, rhyg, barlys a cheirch (neu os bydd un o’i gynhwysion yn cynnwys y rhain).

Mae llawer o fwydydd yn rhydd o glwqten yn naturiol. Nid yw reis, tatws nac ŷd yn cynnwys glwten, ac maent yn ffynonellau da o garbohydrad â starts. Nid oes glwten mewn ffrwythau, llysiau na chig heb ei brosesu ychwaith. Gelli hefyd brynu cynhyrchion arbennig sy’n addas i bobl sy’n dioddef o glefyd seliag, fel pasta a bara heb glwten.

O Ionawr 2009 mae'r rheolau ar labelu bwydydd ar gyfer pobl ag anoddefiad i glwten yn newid. Bydd ystyr benodol i'r termau 'heb glwten' (gluten free) ac 'isel iawn mewn glwten' (very low gluten). Bydd 'heb glwten' yn cael ei ddefnyddio ar fwydydd sy'n cynnwys llai nag 20 rhan o glwten ar gyfer pob miliwn a bydd pobl sy'n dioddef o glefyd seliag yn gallu bwyta'r rhain. Byd cynhyrchion sy'n dwyn label 'isel iawn mewn glwten' yn addas ar gyfer cynhyrchion sy'n cynnwys math arbennig o starts sydd wedi'i drin i gael gwared ar y rhan fwyaf o'r glwten. Yn gyffredinol, bydd y cynhyrchion hyn yn cynnwys mwy o glwten na'r cynnyrch 'heb glwten' (hyd at 100 o rannau fesul miliwn). Ni fydd y bwydydd hyn yn addas i bawb, felly mae'n bwysig dy fod yn siarad â meddyg cyn cyflwyno'r bwydydd hyn i dy ddeiet.

Weithiau bydd pobl sy'n dioddef o glefyd seliag yn methu â bwyta ceirch. Mae ceirch yn cynnwys protein sy’n debyg i glwten, ond nad yw’n union yr un peth. Mae hefyd yn bosibl i symiau bach o rawnfwydydd eraill, fel gwenith, fynd i gynhyrchion ceirch wrth i’r cnwd dyfu, neu wrth iddo gael ei gynaeafu neu ei gludo. Mae ymchwil wedi dangos na all rhai pobl sy’n dioddef clefyd coeliag oddef ceirch neu gynhyrchion ceirch. Ar hyn o bryd, nid oes gan arbenigwyr meddygol ddigon o dystiolaeth i benderfynu a ddylai pawb sy’n dioddef o glefyd seliag osgoi ceirch. Mae'r rheolau newydd yn caniatau i gynhyrchion sy'n cynnwys ceirch ddwyn label 'gluten free', ond dim ond os yw lefel y glwten yn y ceirch yn llai nag 20 rhan fesul miliwn.

Os wyt ti'n dioddef o glefyd seliag, mae'n debygol y byddi di wedi cael cyngor i osgoi ceirch, yn ogystal â gwenith, rhyg a barlys, yn arbennig pan wneir y diagnosis gyntaf. Dylet drafod â'th weithiwr iechyd proffesiynol a ddylet ddechrau bwyta ceirch eto, oherwydd efallai na fydd ceirch yn addas i rai pobl sy’n dioddef clefyd seliag.

Mae’n bwysig deall nad yw cynhyrchion a labelir 'heb wenith' yr un peth â chynhyrchion a labelir 'heb glwten'. Efallai y bydd cynhyrchion heb wenith yn cynnwys grawnfwydydd eraill, fel rhyg neu farlys, felly efallai na fydd y rhain yn addas i rywun â chlefyd seliag (oni bai y cânt eu labelu fel bod 'heb glwten' hefyd).

Mae'n bwysig cofio nad yw cynhyrchion sy'n dwyn label 'heb wenith' yr un peth â chynhyrchion sydd' heb glwten' neu 'isel iawn mewn glwten'. Gall cynhyrchion sydd heb wenith gynnwys grawnfwydydd eraill, megus rhyg neu farlys, ac nid yw'r rhain yn addas i rywun sy'n dioddef o glefyd seliag, oni bai eu bod hefyd yn dwyn label 'gluten free' neu 'very low gluten'.

Gall cynhyrchion 'heb glwten' ac 'isel iawn mewn glwten' gynnwys proteinau eraill sydd i’w canfod mewn gwenith (albwminau, globwlinau a phroteinau gronyn starts). Felly efallai na fydd y rhain yn addas i bobl sydd ag alergedd neu anoddefiad i wenith.

Mae Coeliac UK, sef elusen sy’n cefnogi pobl ag anoddefedd glwten, yn gweithio gyda gweithgynhyrchwyr i gynhyrchu rhestr a ddiweddarir yn rheolaidd o fwydydd nad ydynt yn cynnwys glwten.

Yr hyn sy’n achosi clefyd seliag

Nid ydym yn deall yn llawn pam fod rhai pobl yn dioddef y cyflwr hwn, ond yn aml mae'n ymddangos ei fod yn rhedeg mewn teuluoedd. Yn aml, mae doctor yn rhoi diagnosis clefyd seliag ar ôl i blentyn gael ei diddyfnu, pan gaiff grawnfwydydd eu cyflwyno i’r deiet, ond mae llawer o bobl yn cael y diagnosis hwn yn hwyrach mewn bywyd hefyd.

Mae peth ymchwil yn awgrymu bod peidio â rhoi bwydydd sy'n cynnwys gwenith, fel bara, blawd gwenith, grawnfwydydd brecwast a 'rusks' i blentyn cyn ei fod yn chwe mis oed yn golygu ei fod yn llai tebygol o ddatblygu clefyd seliag. (Ar hyn o bryd, rydym yn dy gynghori i beidio â rhoi unrhyw fwydydd solet i dy faban tan eu bod yn chwe mis, oni bai bod dy feddyg teulu neu'r ymwelydd iechyd yn dy gynghori i wneud hynny).

Mae'n bosibl bod pobl sy'n dioddef o gyflyrau meddygol penodol yn fwy tebygol o ddatblygu clefyd seliag, er enghraifft, pobl â diabetes Math 1, problemau thyroid, colitis briwiol, a phroblemau niwrolegol penodol, fel epilepsi.

Mae profion gwaed sy’n gallu helpu i ganfod a yw rhywun yn dioddef o glefyd seliag, ond yr unig ffordd o wybod yn bendant yw trwy gynnal biopsi, lle caiff darn bach o’r coluddyn bach ei dynnu a’i archwilio o dan ficrosgop.

Tan yn ddiweddar, credir bod clefyd seliag yn effeithio ar tua un o bob 1,500 o bobl yn y DU. Fodd bynnag, mae tystiolaeth a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2004 yn awgrymu bod tua 1 o bob 100 o bobl yn dioddef o'r cyflwr. Mae'r ffigur hwn yn seiliedig ar brofion gwaed mewn plant, ac nid yw wedi’i gadarnhau gan fiopsïau. Mae'n bosibl felly nad yw clefyd seliag mor gyffredin ag y mae’r ymchwil yn awgrymu, ond mae’n debygol bod llawer o bobl yn dioddef o'r cyflwr ond heb fynd at y doctor eto i gael diagnosis.

Nid oes modd cael gwared ar glefyd seliag. Yr unig ffordd o osgoi’r symptomau yw peidio â chael bwydydd a diodydd sy’n cynnwys glwten. Os na fydd y rhai sy'n dioddef o glefyd seliag yn rheoli eu cyflwr, gall arwain at anemia, clefyd yr esgyrn ac, mewn achosion prin, mathau penodol o ganser. Gall hefyd achosi problemau tyfu mewn plant.