Text only

Alergedd i rawnfwyd (cereal)


oats Gall nifer o fathau gwahanol o rawnfwydydd achosi adweithiau mewn pobl sy’n sensitif iddynt. Mae anoddefiad neu alergedd i wenith yn fwy cyffredin yn y DU nag alergedd i haidd (barley), rhyg (rye), ceirch, indrawn (maize)/corn a reis.

Mae alergedd i reis yn gyffredin yn Siapan a rhannau eraill o’r byd lle mae reis yn cyfrif am ran sylweddol o’r deiet. I gael mwy o wybodaeth am hyn, cer i’r adran ar alergedd i reis.

I bobl sy’n sensitif i indrawn (a elwir hefyd yn gorn), mai hi'n gallu bod yn anodd iawn ei osgoi, gan y defnyddir llawer ar gynhwysion a wneir o indrawn mewn amrywiaeth eang o gynhyrchion fel bisgedi, cynhyrchion grawnfwyd, cymysgeddau ar gyfer cacennau, conau hufen iâ, a rhai mathau o gytew (batter). Os oes gen ti alergedd i indrawn, gofynna i weithiwr iechyd proffesiynol am gyngor.

Anoddefiad i glwten, sef protein sydd yn bresennol mewn gwenith a nifer arall o rawnfwydydd gan gynnwys rhyg a haidd, yw clefyd seliag. Gweler yr adran am glefyd seliag i gael rhagor o wybodaeth. Mae clefyd seliag yn wahanol i alergedd i wenith. Gweler yr adran am alergedd i wenith i gael rhagor o wybodaeth.

Weithiau gall bobl gae adwaith i fwy nag un fath o rawn.