Alergedd i seleri
Seleri yw un o’r mathau mwyaf cyffredin o fwyd sy’n achosi syndrom alergedd geneuol mewn oedolion mewn gwledydd fel y Swistir, Ffrainc a’r Almaen. Gweler yr adran am alergedd i ffrwythau a llysiau i gael mwy o wybodaeth am syndrom alergedd geneuol.Mae alergedd i seleriac (gwreiddyn seleri) yn fwy cyffredin nag alergedd i seleri (coesyn y planhigyn), ond weithiau gall y ddau achosi adweithiau difrifol. Mae symptomau’n amrywio o rai llai difrifol, fel syndrom alergedd geneuol, i sioc anaffylactig. Mae peth tystiolaeth yn awgrymu bod sbeis seleri yr un mor debygol o achosi adwaith mewn pobl sensitif â seleri amrwd.
Ers mis Tachwedd 2005, mae rheolau labelu bwyd yn ei wneud yn ofynnol i fwyd a becynnir ymlaen llaw yn y DU, a gweddill yr Undeb Ewropeaidd, ddangos yn eglur ar y label ei fod yn cynnwys seleri (neu os bydd un o’i gynhwysion yn ei gynnwys). Cofia, mae'n bosibl bod rhai bwydydd a gynhyrchwyd cyn y dyddiad hwn yn dal i fod ar y silffoedd heddiw.





