Text only

Y cyfeiriadur

pasta jars big

Os wyt ti’n credu bod gennyt alergedd neu anoddefiad bwyd, mae’n bwysig cael diagnosis cywir. Paid â thorri grwpiau bwyd allan o’th ddeiet heb gyngor meddygol, oherwydd gelli fod yn colli allan ar faethynnau pwysig.

Clicia ar alergedd neu anoddefiad bwyd ar ochr dde'r dudalen i gael mwy o wybodaeth.



Beth yw’r gwahaniaeth rhwng alergedd ac anoddefiad?

Mae alergedd bwyd ac anoddefiad bwyd yn fathau o sensitifrwydd i fwyd. Pan fydd gan rywun alergedd bwyd, mae eu system imiwnedd yn adweithio i fwyd penodol fel pe bai’n anniogel. Os oes gan rywun alergedd bwyd difrifol, gall hyn achosi adwaith sy’n peryglu bywyd. Mae hyn yn golygu bod angen i bobl ag alergeddau bwyd, yn enwedig alergedd i bysgnau, fod yn hynod ofalus beth maen nhw’n ei fwyta.

Nid oes a wnelo anoddefiad bwyd â’r system imiwnedd ac nid yw’n fygythiad i fywyd yn gyffredinol. Ond os yw rhywun yn bwyta bwyd na allant ei oddef, gall hyn wneud iddynt deimlo’n sâl neu effeithio ar eu hiechyd hirdymor.

Pa fwydydd sy’n achosi alergedd bwyd?

Mewn egwyddor, gall unrhyw fwyd achosi alergedd bwyd. Ond mewn gwirionedd dim ond llond dwrn o fwydydd sydd ar fai am 90% o adweithiau alergaidd i fwyd yn y DU. Dyma restr:

  • seleri
  • grawnfwydydd sy’n cynnwys glwten (gan gynnwys gwenith, rhyg, barlys a cheirch)
  • cramenogion (gan gynnwys crancod a chorgimwch)
  • wyau
  • pysgod
  • bysedd y blaidd
  • llaeth
  • molysgiaid (fel cregyn gleision a wystrys)
  • mwstard
  • cnau (gan gynnwys cnau Brasil, cnau’r gollen, cnau almon a chnau Ffrengig)
  • pysgnau (cnau daear neu gnau mwnci)
  • hadau sesame
  • soia
  • sylffwr deuocsid neu sylffitau
Mae rheolau labelu’n golygu pan fydd unrhyw un o’r cynhwysion hyn yn cael eu hychwanegu’n fwriadol at fwydydd wedi’u pecynnu ymlaen llaw, rhaid iddynt gael eu rhestru ar y label.

Mewn oedolion, mae’r rhan fwyaf o adweithiau alergaidd i bysgnau, cnau, pysgod, cregyn bysgod a gwenith.

Plant ac alergedd bwyd

Mewn plant, dyma’r adweithiau alergaidd mwyaf cyffredin i fwyd:
  • wyau
  • llaeth
  • cnau
  • pysgnau
  • soia
  • gwenith
Fel arfer, mae plant yn tyfu allan o’r rhan fwyaf o fathau o alergeddau bwyd yn eu plentyndod cynnar.