Text only

Bwyta allan


Chickpea curry

Mae'n rhaid i rai pobl fod yn fwy gofalus nag eraill i osgoi’r bwyd y maent yn sensitif iddo. Mae hyn oherwydd y gallai’r mymryn lleiaf achosi iddynt fod yn sâl iawn neu achosi adwaith a allai beryglu eu bywydau. Mae’r cyngor yn yr adran hon yn arbennig ar gyfer unigolion gydag alergeddau bwyd mwy difrifol neu glefyd coeliag difrifol.

Os oes gen ti alergedd difrifol neu glefyd coeliag difrifol, cofia nad oes modd i ti fod yn hollol siŵr nad yw pryd yn cynnwys y bwyd yr wyt ti'n sensitif iddo os yw'r bwyd wedi'i baratoi gan rywun arall, er enghraifft, mewn bwyty.

Mae rhai pethau y gelli di eu gwneud er mwyn lleihau’r peryglon.




Cofia ddweud wrth y bwyty…

  • Pan fyddi di’n archebu bwrdd mewn bwyty, cofia ddweud wrthynt am dy alergedd bwyd a gofyn iddynt gadarnhau gyda’r cogydd eu bod yn gallu gweini pryd i ti heb y cynhwysion yr wyt ti’n sensitif iddynt. Os nad ydynt yn sicr, mae’n well mynd i rywle arall.
  • Pan fyddi di’n cyrraedd bwyty, gwna’n siŵr fod y sawl sy’n gweini yn gwybod am dy alergedd a pha mor ddifrifol ydyw. Os nad wyt ti’n hyderus eu bod yn deall pa mor bwysig yw hi dy fod yn osgoi’r bwyd hwnnw, mae’n well peidio â bwyta yno.
  • Gelli helpu i sicrhau fod staff mewn bwytai yn gwybod pa fwydydd y mae gen ti alergedd iddynt drwy roi ‘cerdyn cogydd’ iddynt. Gelli ddefnyddio’r ffurflen isod i nodi’r bwyd(ydd) y mae gen ti alergedd iddynt, argraffu’r dudalen, torri’r cardiau allan a’u cario gyda thi. Y tro nesaf y byddi di mewn bwyty, gelli roi un o’r cardiau defnyddiol hyn i’r staff gweini.


Cofia holi am y prydau...

  • Darllena'r fwydlen yn ofalus i weld a oes sôn am y bwyd yr wyt ti'n sensitif iddo yn enw'r prydau neu'r disgrifiad ohonynt. Mae'n bosibl na fydd unrhyw sôn am y bwyd, felly gofynna i'r sawl sy'n gweini bob tro er mwyn gwneud yn siwr.
  • Rho wybod iddynt pa brydau yr wyt ti'n bwriadu eu harchebu a gofynna iddynt sicrhau gyda'r prif gogydd nad ydynt yn cynnwys y bwyd y mae’n rhaid i ti ei osgoi. Os yw'n bosibl, cer i siarad â’r cogydd. Os nad yw'r staff yn ymddangos yn hollol siŵr nad oes dim o'r bwyd hwnnw yn y pryd, byddai'n well archebu rhywbeth arall.
  • Os oes gen ti alergedd i gnau neu hadau, cofia holi pa olewau sy'n cael eu defnyddio mewn dresin salad ac a oes unrhyw gnau neu hadau yn y garnais.


Bydda'n ofalus gyda'r cynhwysion ‘cudd’

  • Bydda'n ymwybodol o'r bwydydd hynny sy’n cynnwys y bwyd yr wyt ti'n sensitif iddo, er enghraifft, cnau almon mewn marsipán, cnau daear mewn saws satay, peilliaid mewn sawsiau, saws wystrys mewn bwyd Tsieineaidd, saws pysgod mewn prydau Thai, llaeth mewn rhai mathau o greision neu hadau sesame mewn houmous.
  • Os oes gen ti alergedd i gnau neu gnau daear, bydda'n arbennig o ofalus wrth ddewis pwdin, oherwydd mae cnau yn aml yn cael eu defnyddio mewn teisennau, treifflau ac ati, ac mae'n bosibl na fyddant wedi’u cynnwys yn enw neu ddisgrifiad y pwdin.


Bydda'n barod!


  • Os oes gen ti alergedd i fwyd, cofia gario dy feddyginiaeth gyda thi bob tro. Os wyt ti’n teimlo yn ystod y pryd dy fod yn adweithio i'r bwyd, rho'r gorau i fwyta a chymra dy feddyginiaeth. Os wyt ti'n teimlo dy fod yn dioddef adwaith difrifol, gofynna i dy ffrindiau, dy deulu neu staff y bwyty ffonio am ambiwlans gyda pharafeddyg.
Os oes gen ti alergedd i gnau, hadau neu gnau daear, dylet fod yn arbennig o ofalus gyda phrydau Malaysiaidd, Thai, Tsieineaidd ac Indiaidd, oherwydd mae’n gyffredin i’r rhain gynnwys cnau neu gnau daear, neu iddynt gael eu coginio mewn olewau sydd wedi’u gwneud o gnau, hadau neu gnau daear. Mae llawer o brydau llysieuol yn cynnwys cnau hefyd.

Cofia y gall cnau fod wedi’u malu'n fân, sy'n golygu ei bod yn bosibl nad wyt ti'n gallu eu gweld. Er enghraifft, gellir defnyddio cnau almon wedi’u malu neu flawd cnau daear i dewhau sawsiau mewn bwyd Indiaidd, ac efallai na fydd y cogydd yn ystyried y rhain yn gnau neu’n gnau daear pan fyddi di’n holi am gynnwys y pryd.

Os nad wyt ti'n hyderus bod y prydau’n rhydd o gnau, hadau a chnau daear (ac nad ydynt wedi’u coginio mewn olew cnau, cnau daear na sesame) mae’n fwy diogel osgoi prydau a bwyd parod o’r math hyn.

Cofia, nid yw prydau'n cael eu paratoi yn yr un ffordd bob tro, felly os wyt ti wedi bwyta pryd penodol mewn un bwyty, paid â chymryd yn ganiataol y bydd yn iawn i’w fwyta y tro nesaf neu mewn bwyty gwahanol.

Mannau hunanwasanaeth

Mae gan rai bwytai a chaffis fannau hunanwasanaeth lle mae bwyd ar gael mewn cynwysyddion agored. Er ei fod yn bosibl na fydd rhai prydau’n cynnwys y bwyd yr wyt ti'n sensitif iddo, mae’n hawdd i ychydig bach ohono fod mewn pryd yn ddamweiniol, naill ai am fod cynwysyddion yn agos at ei gilydd, neu am fod pobl yn defnyddio’r un llwyau ar gyfer prydau gwahanol. Os oes gen ti alergedd difrifol i fwyd, mae’n fwy diogel osgoi bwyta bwyd o’r math hwn mewn mannau hunanwasanaeth.




Cardiau alergedd
Rho un o'r cardiau defnyddiol hyn i'r sawl sy'n gweini er mwyn rhoi gwybod i'r cogydd pa fwydydd y mae gen ti alergedd iddynt.

 

Dolen i food.gov.uk