Text only

Prynu bwyd


shopping list Os oes gen ti alergedd neu anoddefiad bwyd, neu dy fod yn prynu bwyd i rywun arall sydd ag alergedd neu anoddefiad bwyd, mae’n hanfodol dy fod yn darllen labeli unrhyw fwyd a becynnir ymlaen llaw yn ofalus. Hyd yn oed os wyt ti wedi prynu’r cynnyrch o’r blaen, dylet bob tro ddarllen y label, gan ei bod yn bosibl bod y rysáit wedi newid.


Gwiriwch y cynhwysion


Cymer gip ar y cynhwysion

Rhaid i unrhyw fwyd a becynnir ymlaen llaw ddangos rhestr o gynhwysion. Cymer gip ar y cynhwysion bob tro i weld a yw’n cynnwys y bwyd y mae’n rhaid i ti ei osgoi.

Chwilia am ddatganiadau neu flychau sy’n ymwneud ag alergeddau

Yn ogystal â’r rhestr o gynhwysion, bydd gan lawer o gynhyrchion bwyd ddatganiad neu flwch cyngor alergedd ar y label sy’n datgan eu bod yn cynnwys bwyd penodol, er enghraifft cnau, llaeth neu wyau. Bydd rhai manwerthwyr yn defnyddio symbolau i ddangos hyn.

Ond nid yw’n orfodol i labeli bwyd roi’r math hwn o ddatganiad. Felly os nad oes datganiad alergedd ar y label, paid â chymryd yn ganiataol bod y cynnyrch yn rhydd o’r bwyd yr wyt ti’n sensitif iddo. Cymer gip ar y cynhwysion bob amser.

Rhybuddion Alergedd


Pan fydd gwybodaeth am alergedd ar labeli bwyd ar goll neu'n anghywir, neu os bydd risg alergedd arall, rhaid tynnu'r bwydydd yr effeithir arnynt yn ôl oddi ar y silffoedd. Pan fydd hyn yn digwydd, bydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn rhoi gwybod i bobl drwy gyfrwng Rhybudd Alergedd.

Os wyt ti am gael gwybod pan fydd bwyd yn cael ei dynnu'n ôl o ganlyniad i risg alergedd, cei gofrestru i dderbyn negeseuon testun SMS neu negeseuon e-bost yn rhad ac am ddim.

Rhestri archfarchnadoedd


Rhestri archfarchnadoedd

Mae’r rhan fwyaf o’r prif gadwyni archfarchnadoedd yn cynhyrchu rhestri o’r cynhyrchion y maent yn eu gwerthu nad ydynt yn cynnwys bwydydd penodol yn fwriadol (fel cnau, llaeth, wyau a glwten), ac a gynhyrchir mewn ffordd sy’n rhwystro’r cynhwysion hyn rhag mynd i’r cynhyrchion ar ddamwain. Cysylltwch â’r archfarchnad i gael mwy o wybodaeth.

O bryd i’w gilydd, bydd y rhestri hyn yn dyddio wrth i gynhyrchion gael eu lansio neu eu dileu, neu wrth i ryseitiau newid. Felly gwiriwch label pob cynnyrch bwyd a brynir gennych bob tro, hyd yn oed os bydd wedi’i gynnwys yn un o’r rhestri hyn.

Mae llawer o archfarchnadoedd a siopau bwydydd iach yn gwerthu ystodau arbennig o gynhyrchion nad ydynt yn cynnwys bwydydd penodol fel gwenith, glwten neu gynhyrchion llaeth, ond gall y rhain fod yn ddrud iawn. Cofiwch y gall rhai bwydydd, nad ydynt yn cael eu marchnata’n benodol ar gyfer pobl ag alergedd neu anoddefedd i fwyd, fod yn rhydd o’r bwyd rydych yn sensitif iddo beth bynnag. Gwiriwch y cynhwysion bob tro.

Prynu bwyd ar-lein

Mae’r rhan fwyaf o wefannau sy’n gwerthu bwyd yn rhoi gwybodaeth am eu cynhyrchion. Bydd hyn yn dy helpu i ddewis cynhyrchion nad ydynt yn cynnwys y bwyd y mae’n rhaid i ti ei osgoi. Ond o bryd i’w gilydd, efallai na fydd yr wybodaeth hon yn gyfoes, felly cymer gip ar y label bob tro y bydd y bwyd yn cyrraedd.

Prynu bwydydd nad ydynt wedi’u pecynnu ymlaen llaw

Nid oes yn rhaid labelu bwyd sydd heb ei becynnu ymlaen llaw â’r un wybodaeth â bwyd sydd wedi’i becynnu ymlaen llaw, felly efallai na fydd modd i ti weld y cynhwysion. Mae bwydydd nad ydynt yn cael eu pecynnu ymlaen llaw yn cynnwys bwydydd a werthir mewn bwyty, popty/becws, cownter delicatessen neu far salad, brechdanau a werthir i’w bwyta ar unwaith, a bwydydd a gaiff eu pwyso a’u gwerthu’n rhydd.

Mae’n bosibl y bydd symiau bach o’r bwyd y mae’n rhaid i ti ei osgoi wedi mynd i un o’r cynhyrchion hyn, er enghraifft, trwy gael ei osod yn agos at fwyd arall, o gyllell neu lwy, neu o gael ei lapio mewn papur neu fag sydd wedi cyffwrdd â bwyd arall. Yn gyffredinol, os bydd gen ti alergedd difrifol, bydd yn well osgoi’r bwydydd hyn.

Rheolau labelu


Mae’n ofynnol i’r holl fwyd a becynnir o flaen llaw a werthir yn y DU neu yng ngweddill yr Undeb Ewropeaidd (UE) ddangos yn glir ar y label os yw’n cynnwys un o’r canlynol (neu os bydd un o’r cynhwysion yn cynnwys un o’r rhain neu wedi’i wneud ohonynt):
  • seleri
  • grawnfwydydd sy’n cynnwys glwten (gan gynnwys gwenith, rhyg, barlys a cheirch)
  • cramenogion (gan gynnwys corgimychiaid, crancod a chimychiaid)
  • wyau
  • pysgod
  • bysedd y blaidd
  • llaeth
  • molysgiaid (gan gynnwys cregyn gleision ac wystrys)
  • mwstard
  • cnau fel cnau almon, cnau cyll, cnau Ffrengig, cnau Brasil, cnau cashiw, cnau pecan, cnau pistasio a chnau macadamia
  • pysgnau
  • hadau sesame
  • ffa soia
  • sylffwr deuocsid a sylffitau (deunyddiau cadw a ddefnyddir mewn rhai bwydydd a diodydd) ar lefelau uwchlaw 10mg ym mhob kg neu ymhob litr
Mae rhai pobl yn sensitif i fwydydd nad ydynt ar y rhestr hon, felly cofia ddarllen y cynhwysion yn ofalus.

Labelu 'Gallai gynnwys' (May contain)

Mae rhai labeli bwyd yn nodi 'gallai gynnwys cnau' (may contain nuts) neu 'gallai gynnwys hadau' (may contain seeds). Er nad yw cnau neu hadau wedi'u cynnwys yn y bwyd ar bwrpas, ni all y gweithgynhyrchwr fod yn hollol siŵr nad yw'r cynnyrch yn cynnwys ychydig bach o gnau neu hadau. Os oes gen ti alergedd i gnau neu hadau, fe ddylet ti osgoi'r cynhyrchion bwyd hyn.

Os wyt ti'n amau nad yw cynnyrch bwyd wedi'i labelu'n gywir, cofia gysylltu â gwasanaeth safonau masnach dy awdurdod lleol.

Bwyta deiet iach


Mae’n bwysig i bawb fwyta deiet iach a chytbwys. O bryd i’w gilydd, bydd pobl sydd ag alergedd neu anoddefedd i fwyd yn poeni y bydd y ffaith na allant fwyta bwyd penodol yn niweidio eu hiechyd. Ond cydbwysedd cyffredinol eich deiet sy’n bwysig.

Felly os na allwch fwyta bwydydd penodol, mae bwydydd eraill y gallwch eu bwyta a fydd yn rhoi’r maeth sydd ei angen arnoch. Os byddwch yn pryderu am eich deiet, mae’n syniad da siarad â deietegydd, a fydd yn gallu rhoi cyngor i chi ynghylch bwyta deiet iach wrth osgoi’r bwydydd yr ydych chi’n sensitif iddynt.

Gallwch gysylltu â deietegydd drwy’ch ysbyty neu feddygfa teulu leol. I ddod o hyd i fanylion deietegwyr cofrestredig sy’n gweithio mewn meddygfeydd preifat yn eich ardal chi, ewch i wefan 'Dietitians Unlimited' neu anfonwch amlen barod â stamp gan nodi 'meddygfa breifat' arno at The British Dietetic Association, 5th Floor, Charles House, 148/9 Great Charles St, Queensway, Birmingham B3 3HT.

Cofiwch, peidiwch â thorri grwpiau bwyd o’ch deiet heb gael cyngor meddygol yn gyntaf.