Text only

Adweithiau alergaidd i fwyd


supermarket shopping

Gelwir y sylwedd mewn bwyd sy’n achosi adwaith alergaidd mewn pobl benodol yn alergen. Fel arfer, proteinau fydd alergenau, ac fel arfer bydd mwy nag un math o alergen ym mhob bwyd.

Mae’r rhan fwyaf o adweithiau alergaidd i fwyd yn ysgafn, ond weithiau gallant fod yn ddifrifol iawn. Os bydd gan rywun alergedd i fwyd, gallant adweithio i’r mymryn lleiaf o’r bwyd y maent yn sensitif iddo.




Symptomau adwaith alergaidd


Gall symptomau adwaith alergaidd amrywio, a gall yr adweithiau fod yn fwy neu’n llai difrifol ar achlysuron gwahanol. Hyd yn oed os byddwch yn ymdrechu’n galed iawn i osgoi’r bwyd rydych chi’n sensitif iddo, efallai y byddwch o hyd yn ei fwyta ar ddamwain.

Mae symptomau mwyaf cyffredin adwaith alergaidd yn cynnwys:
  • pesychu
  • gwddf a thafod sych a choslyd

  • croen coslyd neu frech

  • cyfog a theimlo’n chwyddedig

  • dolur rhydd a/neu chwydu

  • gwichian ar y frest a theimlo’n fyr o anadl

  • gwefusau a gwddf chwyddedig

  • trwyn sy’n rhedeg neu sydd wedi’i rwystro
  • llygaid poenus, coch a choslyd
Gall symptomau ymddangos mewn munudau, neu hyd at sawl awr ar ôl i rywun fwyta’r bwyd y mae ganddo alergedd iddo. Yn gyffredinol, ni fyddwch yn dioddef yr holl symptomau hyn ar yr un pryd, a chofiwch y gall rhai o symptomau adwaith alergaidd fod yn symptomau afiechydon o fath arall hefyd.

Anaffylacsis

Gall pobl ag alergeddau difrifol ddioddef adwaith o’r enw anaffylacsis (a yngenir ana-ffyl-acsis), a elwir weithiau’n sioc anaffylactig. Pan fydd rhywun yn cael adwaith anaffylactig, gallant ddioddef symptomau mewn rhannau gwahanol o’r corff ar yr un pryd, gan gynnwys brechau, gwefusau a gwddf chwyddedig, ei chael yn anodd anadlu, gostyngiad sydyn yn eu pwysedd gwaed a mynd yn anymwybodol.

Gall anaffylacsis achosi marwolaeth os na chaiff ei drin ar unwaith, gyda phigiad adrenalin (epineffrin) fel arfer. Dyma pam y mae’n hynod o bwysig i bobl ag alergedd difrifol fynd â’u meddyginiaeth gyda nhw ble bynnag yr ânt.

Gall symptomau cyntaf anaffylacsis ddatblygu o fewn munudau o fwyta’r bwyd, ond gall symptomau eraill, fel problemau anadlu difrifol, ddatblygu hyd at nifer o oriau’n ddiweddarach. Gall llawer o adweithiau anaffylactig fod yn gamarweiniol o ysgafn ar y cychwyn, felly mae’n well cymryd gofal a pheidio â thrin y perygl â diffyg parch. Mae pobl ag alergeddau difrifol sy’n dioddef asthma hefyd yn fwy tebygol o gael adwaith difrifol ac sy’n effeithio ar yr ysgyfaint.

Gall pethau hefyd achosi anaffylacsis hefyd, fel pigiadau gwenyn neu bicwn ac alergedd i gyffuriau, ond alergedd i fwyd yw un o’r achosion mwyaf cyffredin. Yn y DU ac Ewrop, cnau daear, llaeth, wyau a physgod yw’r bwydydd mwyaf cyffredin sy’n achosi anaffylacsis. Gall cnau, hadau sesame a chregynbysgod achosi anaffylacsis hefyd.

Syndrom alergedd geneuol

Gall bwydydd penodol, yn arbennig ffrwythau a llysiau, achosi adweithiau fel cosi neu frechau pan fyddant yn cyffwrdd â’r gwefusau a’r geg. Gelwir hyn yn syndrom alergedd geneuol, ac mae’n un o symptomau alergedd i fwyd. Fel arfer, bydd yr adweithiau hyn yn digwydd mewn pobl sy’n dioddef clefyd y gwair ac sy’n sensitif i baill, er enghraifft paill o goed bedw, glaswellt, neu blanhigion yn nheulu llygad y dydd fel y bratlys a’r bleidiog lwyd. Y rheswm am hyn yw bod alergenau yn y mathau hyn o baill i’w canfod mewn rhai ffrwythau a llysiau hefyd.

Er enghraifft, efallai y bydd unigolyn sy’n sensitif i baill bratlys yn datblygu brechau neu bothelli ar y gwefusau pan fyddant yn bwyta melon, ac efallai y bydd rhywun sy’n sensitif i baill coed bedw’n adweithio i afalau. Yn aml, bydd coginio’n dinistrio’r alergenau sy’n achosi’r math hwn o adwaith mewn ffrwythau a llysiau ffres, felly efallai y bydd pobl sy’n adweithio i afalau heb eu coginio, er enghraifft, yn gallu bwyta afalau sydd wedi’u coginio.

Alergedd bwyd a achosir gan ymarfer corff

Cyflwr anarferol yw hwn lle bydd rhywun yn dioddef adwaith alergaidd pan fyddant yn gwneud ymarfer corff o fewn rhai oriau ar ôl bwyta bwyd penodol. Fel arfer, bydd pobl sy’n sensitif fel hyn yn gallu bwyta’r bwyd gan ddioddef adwaith ysgafn yn unig, neu ddim adwaith o gwbl, ond efallai y byddant yn dioddef adwaith difrifol (gan gynnwys anaffylacsis) os byddant yn ei fwyta yn union cyn gwneud ymarfer corff. Nid yw arbenigwyr yn deall yn llawn pam y bydd rhai pobl yn adweithio fel hyn.

Croesadweithedd alergaidd

O bryd i’w gilydd, os bydd gan rywun alergedd i rywbeth penodol, gall ddatblygu alergedd i bethau eraill hefyd. Gall hyn ddigwydd am fod ganddynt dueddiad i ddatblygu alergeddau (a elwir yn gyflwr atopig). Yn yr achos hwn, gallant adweithio i nifer o alergenau nad ydynt yn perthyn, er enghraifft cnau daear a chathod. Gall pobl eraill adweithio i fwydydd gwahanol sy’n cynnwys naill ai’r un alergen neu alergen ac iddo strwythur tebyg iawn, sy’n golygu y gallant achosi adweithiau alergaidd gwahanol. Gelwir hyn yn groesadweithedd alergaidd.

Mae croesadweithedd alergaidd yn golygu y gall rhywun ddioddef adwaith alergaidd hyd yn oed pan fydd yn osgoi’r bwydydd mae’n ymwybodol fod ganddo alergedd iddynt. Er enghraifft, os bydd gan rywun alergedd i gnau daear, efallai y byddant yn adweithio i fwydydd eraill yn nheulu’r codlysiau hefyd, fel soia, pys, ffacbys a ffa. Gall croesadweithiau alergaidd ddigwydd hefyd rhwng ffrwythau neu lysiau penodol a latecs (a elwir hefyd yn syndrom latecs-bwyd), neu’r paill sy’n achosi clefyd y gwair.

Meddyginiaeth


Nid oes iachâd ar gyfer alergedd i fwyd neu anoddefiad bwyd, felly yr unig ffordd o atal adwaith yw osgoi’r bwyd rydych chi’n sensitif iddo.

Bydd llawer o blant ag alergedd i fwyd yn gwella wrth iddynt dyfu. Fodd bynnag, fel arfer bydd pobl ag alergeddau i gnau daear, cnau, pysgod a chregynbysgod yn dioddef y cyflwr trwy gydol eu bywydau.

Mae’n bwysig i rywun sy’n tybio y gallant fod yn dioddef anoddefedd bwyd neu alergedd i fwyd drafod y mater â’i feddyg teulu, a fydd yn gallu ei gyfeirio i gael profion a diagnosis llawn, os bydd yn briodol. Ar ôl gwneud y diagnosis, dylai osgoi’r bwyd neu’r bwydydd y mae’n sensitif iddynt.

Mwy na thebyg, os oes gennych alergedd difrifol i fwyd, rhoddir cyffuriau gwrth-histamin i chi ar bresgripsiwn, a phin sy’n cynnwys adrenalin (a elwir yn epineffrin). Diben hwn yw er mwyn i chi allu rhoi chwistrelliad i chi’ch hun os byddwch yn dioddef adwaith. Peidiwch byth â mynd i unrhyw le heb eich meddyginiaeth.

Os rhoddir pin adrenalin i chi neu’ch plentyn, bydd eich gweithiwr iechyd proffesiynol yn dangos i chi sut i’w ddefnyddio. Os na fyddwch chi’n siŵr beth i’w wneud, holwch iddynt am gyngor.

Dylai pobl a chanddynt alergedd difrifol i fwyd wisgo breichled neu fwclis hefyd sy’n rhoi manylion am eu halergedd, fel y bydd staff meddygol yn ymwybodol ohono mewn argyfwng.

Cyfeillion a theulu


Sicrhewch fod eich teulu, cyfeillion a chydweithwyr yn gwbl ymwybodol o’ch alergedd bwyd a’r hyn i fod yn wyliadwrus yn ei gylch wrth brynu bwyd i chi. Os bydd gennych alergedd difrifol, dylech sicrhau hefyd eu bod yn gwybod beth i’w wneud os byddwch yn dioddef adwaith.

Os bydd gennych blentyn sydd wedi cael diagnosis ei fod yn dioddef alergedd bwyd, mae’n arbennig o bwysig eich bod chi ac unrhyw un sy’n gofalu amdano (gan gynnwys athrawon a rhieni cyfeillion y byddant, o bosibl, yn ymweld â nhw) yn gwybod sut i osgoi’r bwydydd y mae’n sensitif iddynt a beth i’w wneud os bydd yn dioddef adwaith alergaidd, gan gynnwys sut i ddefnyddio ei bin adrenalin.

Dylai fod gan ysgolion gynlluniau i ymdrin ag argyfwng, ond dylech drafod anghenion eich plant yn fanwl â’r ysgol.

Pam mae pobl yn dioddef alergedd bwyd


Nid ydym yn gwybod yn union pam mae rhai pobl yn dioddef alergedd ac nad yw eraill. Ond mae rhywun yn fwy tebygol o ddatblygu alergedd i fwyd os bydd ganddynt riant, brawd neu chwaer ag alergedd o unrhyw fath.

Mae plant o dan dair blwydd oed yn fwy tebygol nag oedolion o ddatblygu alergeddau. Bydd llawer o alergeddau bwyd yn cychwyn yn ystod plentyndod ond yn diflannu wrth i’r plentyn dyfu. Fodd bynnag, ni fydd alergeddau rhai pobl byth yn gwella, a bydd eraill yn datblygu alergedd bwyd pan fyddant yn oedolion.

Ystyrir fod arferion bwyta, er enghraifft pa mor aml y mae unigolyn wedi bwyta bwyd penodol, yn bwysig hefyd. Efallai mai dyma pam y mae alergeddau at fwydydd penodol yn fwy cyffredin mewn gwledydd lle cânt eu bwyta’n aml, er enghraifft, alergedd i bysgod mewn gwledydd Sgandinafaidd, alergedd i reis yn Siapan ac alergedd i gnau daear yn yr UDA. Efallai bod y ffordd y caiff bwyd ei baratoi yn bwysig hefyd. Er enghraifft, gall pobl ag alergedd i gnau daear adweithio i niferoedd llai o gnau daear wedi’u rhostio na chnau daear heb eu coginio neu wedi’u berwi.

Ond nid yw’n ymddangos bod arferion bwyta yn cyfleu’r darlun yn llawn. Er enghraifft, mae alergedd i gnau daear naill ai’n anghyffredin iawn neu’n gwbl absennol yn Indonesia a rhannau o Affrica, er y caiff cnau daear eu bwyta’n gyffredin yn y gwledydd hyn. Mae rhai arbenigwyr o’r farn bod alergeddau yn fwy cyffredin mewn rhai gwledydd nag eraill erbyn hyn oherwydd ffordd o fyw. Ymddengys bod pobl mewn gwledydd gorllewinol mwy cefnog yn fwy tebygol o ddatblygu pob math o alergedd na phobl mewn gwledydd datblygol.

Ymddengys bod nifer y bobl sy’n dioddef alergeddau bwyd mewn gwledydd datblygedig wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond nid oes gennym wybodaeth bendant ynglŷn â hyn. Os yw alergeddau bwyd wedi bod ar gynnydd, byddai hyn yn cyd-fynd â chynnydd diweddar mewn clefydau alergaidd fel asthma, ecsema a chlefyd y gwair.

Nid ydym yn gwybod yn union faint o bobl yn y DU sy’n dioddef alergedd bwyd. Mae rhwng tua 20 a 30% o’r farn bod ganddynt anoddefedd i un math o fwyd neu fwy. Fodd bynnag, mae profion yn dangos mai dim ond rhwng tuag 1 a 2% o boblogaeth y DU sy’n oedolion sy’n dioddef alergedd i fwyd - tua 1 filiwn o bobl. Rydym o’r farn yr achosir tua 10 marwolaeth yn y DU gan alergedd i fwyd.