Meddyginiaethau milfeddygol
Defnyddir meddyginiaethau milfeddygol i drin anifeiliaid sâl neu i atal clefydau mewn buchesi neu breiddiau o anifeiliaid.
Weithiau mae olion o'r meddyginiaethau hyn i'w cael yn ein bwyd. Mae'r defnydd ohonynt yn cael ei reoli i sicrhau nad ydynt yn peri unrhyw berygl i'r cyhoedd, yr anifeiliaid na'r amgylchedd.


Y modd y cânt eu rheoleiddio
Caiff meddyginiaethau milfeddygol eu rhoi i anifeiliaid sâl yn yr un modd ac mae'r doctor yn rhoi presgripsiwn i ni ar gyfer salwch neu haint. Mae meddyginiaethau milfeddygol yn cynnwys trochfa ddefaid (sheep dips), triniaethau ar gyfer chwain neu lyngyr, unrhyw eli neu chwistrell ar gyfer croen neu garnau heintiedig, brechiadau a chyffuriau gwrthfiotig.Sut mae meddyginiaethau milfeddygol yn effeithio ar ein bwyd?
Mae symiau bach iawn o feddyginiaethau milfeddygol weithiau i'w cael yn ein bwydydd, a hynny oddi wrth anifeiliaid sy'n cael eu trin, mewn cynhyrchion megis cig, pysgod, wyau, mêl a llaeth. Mae'r rhain yn cael eu galw'n weddillion, sef yr hyn sydd dros ben o'r feddyginiaeth a ddefnyddwyd i drin yr anifail. Nid yw pob cynnyrch anifeiliaid yn cynnwys y gweddillion hyn, ac yn bwydydd hynny lle maent yn bresennol, mewn lefelau isel iawn mae hynny fel arfer.Er mwyn sicrhau bod ein bwyd yn ddiogel i'w fwyta, ar gyfer llawer o feddyginiaethau, mae'n rhaid i gyfnod penodol o amser basio cyn y gellir lladd unrhyw anifail a gafodd ei drin i'w bwyta neu cyn y gellir casglu unrhyw gynhyrchion megis wyau a llaeth. Y rheswm am hyn yw am ei bod hi'n bosibl fod y gweddillion hyn yn dal i fod yn bresennol, hyd yn oed os yw'r milfeddyg wedi rhoi'r ddos gywir. Caiff y cyfnod hwn ei adnabod fel y 'cyfnod cadw o'r gadwyn fwyd'.
A yw gweddillion meddyginiaeth milfeddygol yn cael eu gwirio?
Ydy. Mae'n rhaid i unrhyw gwmni sydd am gyflwyno meddyginiaeth filfeddygol newydd gyflwyno cais sy’n cynnwys gwybodaeth am unrhyw effeithiau posibl ar iechyd pobl. Mae'n rhaid i'r cwmni hefyd gyflenwi manylion ynghylch ansawdd y feddyginiaeth filfeddygol a pha mor effeithiol ydyw, gan nodi a yw’n ddiogel i’r bobl a fydd yn trin yr anifeiliaid, yr anifeiliaid eu hunain a’r amgylchedd.Caiff meddyginiaethau milfeddygol eu hasesu yn y DU gan y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol, sy'n gweithio â'r Asiantaeth ar y broses gymeradwyo. Maent hefyd yn cael eu cymeradwyo i'w defnyddio yn yr Undeb Ewropeaidd gan yr Awdurdod Gwerthuso Meddyginiaethau Ewropeaidd (EMEA). Yn yr achos hwn, caiff y data ei asesu gan y Pwyllgor ar gyfer Cynhyrchion Meddygol at Ddibenion Milfeddygol (CVMP).
Mae’r Asiantaeth yn sicrhau y rhoddir blaenoriaeth i ddiogelwch bwyd yn ystod y prosesau awdurdodi a monitro. Rydym yn cydnabod bod defnyddwyr yn disgwyl bod unrhyw weddillion o'r mathau hyn mewn bwyd mor isel ag sy'n ymarferol bosibl ac o fewn terfynau diogel.
Mae'n rhaid cymeradwyo pob meddyginiaeth filfeddygol cyn y gellir ei werthu neu ei ddefnyddio ar anifeiliaid yn y DU. Mae hyn yn cynnwys cynnal profion llym i sicrhau na fydd yn peri risg i bobl sy'n bwyta bwyd sy'n deillio o anifeiliaid sy'n cael eu trin â'r feddyginiaeth. Ar gyfer bwyd sy'n cynnwys gweddillion meddyginiaeth arbennig, caiff Uchafswm Gweddillion (Maximum Resudue Limit neu MRL) ei gyfrifo. MRL yw'r crynodiad mwyaf o weddillion a ganiateir yn gyfreithiol neu sy'n dderbyniol mewn bwyd. Caiff diogelwch defnyddwyr ei ystyried wrth bennu’r MRLs hyn.
Mae amrywiaeth o fwydydd yn cael eu gwirio'n rheolaidd gan y Llywodraeth i sicrhau mad oes unrhyw weddillion ynddynt sydd dros y lefelau diogel. Mae'r rhain yn dangos yn y DU nad yw gweddillion o'r mathau hyn i'w cael yn aml, ac maent bron bob tro i'w cael mewn lefelau isel sydd ddim yn beryglus i'n hiechyd.
Os canfyddir lefelau anghyfreithlon o weddillion mewn bwydydd, nid roddir caniatâd i'w gwerthu. Os yw'r bwydydd hyn eisoes wedi'u dosbarthu, mae'r Asiantaeth yn gweithio gyda'r busnesau a'r archfarchnadoedd priodol i'w galw nhw yn ôl lle bo'n bosibl.
Y defnydd o hormonau ac ychwanegion fel meddyginiaethau milfeddygol
Mae gan bob un ohonom hormonau. Maent yn bodoli'n naturiol mewn pobl ac anifeiliaid. Maent yn cael eu cynhyrchu gan chwarennau yn y corff ac yn sbarduno adweithiau penodol - maent yn gwneud i ni dyfu er enghraifft. Mae hi hefyd yn bosibl cynhyrchu hormonau’n synthetig.Mae'r defnydd o hormonau megis steroidau i wneud i anifeiliaid dyfu wedi'i wahardd yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae nifer prin iawn o sylweddau hormonaidd yn cael eu defnyddio o dan oruchwyliaeth filfeddygol i drin rhai cyflyrau mewn anifeiliaid. Maent yn cael eu rhoi mewn dosau isel a’u rheoli’n ofalus i sicrhau na fydd unrhyw weddillion yn effeithio ar iechyd pobl.
Caiff ychwanegion porthiant (feed) eu hychwanegu at fwyd anifeiliaid yn ystod y broses weithgynhyrchu. Mae rhai, er enghraifft, yn atal y porthiant rhag mynd yn ddrwg. Mae eraill, fel fitaminau, yn ychwanegu at werth maeth y bwyd anifeiliaid er mwyn hybu tyfiant. Fodd bynnag, mae rhai ychwanegion yn cael yn defnyddio mewn porthiant i drin neu atal clefydau.
Er nad yw ychwanegion porthiant yn cael eu hystyried i fod yn feddyginiaethau milfeddygol yn ôl y gyfraith, maent yn cael eu rheoli a'u hasesu'n llym o ran diogelwch gan yr UE.
Rhagor o wybodaeth
Y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol sy’n goruchwylio'r broses o gymeradwyo a chadw llygad ar feddyginiaethau milfeddygol yn y DU. Mae dolen i'w gwefan isod, sy’n cynnwys rhagor o wybodaeth a dolenni at safleoedd defnyddiol eraill gan gynnwys y Pwyllgor Gweddillion Milfeddygol, a’r Pwyllgor Cynhyrchion Milfeddygol.Asiantaeth Meddyginiaethau Ewrop sy’n goruchwylio'r broses o gymeradwyo meddyginiaethau milfeddygol ledled yr UE. Mae dolen at eu gwefan i'w gael isod hefyd.





