Text only

Tuniau


tin Mae bwydydd tun yn chwarae rhan bwysig mewn storio bwyd. Ond caiff y sylweddau a ddefnyddir i wneud tuniau eu rheoli’n llym i sicrhau nad ydynt yn mynd i’r bwyd ei hun.

Mae’r rhan fwyaf o fwydydd yn cynnwys crynodiadau isel iawn o dun. Efallai y bydd bwydydd tun yn cynnwys lefelau uwch am fod y gorchudd tun a ddefnyddir i amddiffyn y corff dur rhag cyrydiad yn gallu trosglwyddo’n araf i’r bwyd.

Mae’r resinau a ddefnyddir i orchuddio y tu mewn i rai tuniau bwyd yn cynnwys y cemegyn bisffenol-A. Mae’r gorchudd hwn yn caniatáu gwresogi bwyd tun i ladd bacteria heb i’r metel yn y tun fynd i’r bwyd a gynhwysir ynddo.


Materion iechyd

Nid oes unrhyw effeithiau iechyd hirdymor yn gysylltiedig â threulio tun. Ond gall achosi anhwylderau stumog fel cyfog, chwydu, dolur rhydd, crampiau abdomenol a theimlo’n chwyddedig mewn rhai pobl sensitif ar lefelau uwchlaw 200 miligram y cilogram. Dyma’r lefel gyfreithlon uchaf o dun a all fod yn bresennol mewn bwydydd tun.

Mae cyfyngiadau hefyd ar gyfer categorïau penodol o duniau:
  • 100mg/kg ar gyfer diodydd
  • 50 mg/kg ar gyfer bwydydd plant bach a babanod
  • 50 mg/kg ar gyfer bwydydd deietegol at ddibenion meddygol arbennig y’u bwriedir yn arbennig i blant bach
Mae rhai tuniau wedi’u lacro’n llawn ar y tu mewn i reoli a lleihau lefelau tun, ac i ganiatáu iddynt gynnwys bwydydd asidig.

Un o nifer fawr o sylweddau sydd, o bosibl, â’r potensial i ryngweithio â’n systemau hormonaidd yw bisffenol-A.

Cyfeirir at y sylweddau hyn fel ‘aflonyddwyr endocrin’. Mae ymchwil ar y gweill o hyd i sefydlu a allai bisffenol-A effeithio ar bobl yn y modd hwn ai peidio. Bu pryder arbennig yn gysylltiedig â’r hormonau rhyw, yr oestrogenau benywaidd ac androgenau gwrywaidd, oherwydd eu rolau pwysig yn natblygiad y system atgenhedlu.

Er bod tystiolaeth yr effeithiwyd ar rai mathau o fywyd gwyllt o ganlyniad i gael eu hamlygu i aflonyddwyr endocrin, nid oes unrhyw dystiolaeth derfynol o hyd bod cysylltiad rhwng effeithiau niweidiol ar iechyd atgenhedlol pobl a chael eu hamlygu i’r cemegau hyn.

Rheolaethau i gadw bwyd tun yn ddiogel

Mae rheolaethau ar waith sy’n nodi’r gofynion diogelwch cyffredinol ar gyfer pob deunydd ac erthygl a ddaw i gysylltiad â bwyd. Yn Lloegr, fe’u gelwir yn Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Lloegr) 2005. Mae gan Gymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon reolaethau tebyg ar eu cyfer nhw.

Mae’r rheoliadau hyn hefyd yn sicrhau nad yw sylweddau fel tun a bisffenol-A yn newid natur, sylwedd nac ansawdd y bwyd.

Bu’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn gweithio gyda diwydiant a swyddogion gorfodi i sicrhau bod mesurau’n cael eu cyflwyno i leihau’r tebygolrwydd o gael lefelau uchel o dun mewn bwyd. Canfu’r arolwg diweddaraf (2002) bod lefelau tun mewn bwydydd tun yn is nag oeddent bum mlynedd cyn hynny. O blith y ffrwythau a’r llysiau a’r cynhyrchion tomato a brofwyd, roedd 99.5% ohonynt yn cynnwys crynodiadau tun islaw’r terfyn cyfreithlon.

Mae’r rheoliadau hefyd yn ei wneud yn ofynnol i orchuddion tuniau sy’n cynnwys bisffenol-A beidio ag achosi i fwyd fod yn niweidiol. Mae’r Asiantaeth yn annog y Comisiwn Ewropeaidd i ddatblygu rheolaethau ledled yr Undeb Ewropeaidd ynghylch cemegau sy’n pasio o orchuddion tuniau i fwyd. Mae’r ymagwedd ryngwladol hon yn ofynnol am fod llawer o fwydydd tun yn cael eu mewnforio.

Yr hyn y gallwch ei wneud

Ni ddylech ailddefnyddio tuniau gwag i goginio na chadw bwyd oherwydd gall hyn gynyddu’r tebygolrwydd y bydd y sylweddau a ddefnyddir i wneud y tuniau yn mynd i’r bwyd.

Ar ôl agor tun ac y daw’r tu fewn iddo i gysylltiad ag ocsigen yn yr aer, bydd cyrydiad, a gedwir i lefel isel iawn tra bydd y tun wedi’i selio, yn cyflymu.

Ni ddylid gadael tuniau o unrhyw fath, sydd wedi’u defnyddio’n rhannol, yn yr oergell. Y peth gorau i’w wneud i’w rhoi bwyd dros ben mewn cynhwysydd y gellir ei selio y gellir ei gadw mewn oergell neu rewgell. Nid yw’r cyngor hwn yn gymwys i fwydydd a werthir mewn tuniau â chaead y gellir ei ail selio, fel triog melyn neu goco.

I sicrhau bod eich bwyd tun ar ei orau:
  • cadwch duniau mewn man oer a sych
  • defnyddiwch eich tuniau hynaf yn gyntaf
  • os bydd tun wedi chwyddo neu’n rhydu, taflwch ef