Text only

Llifynnau Sudan


sauce red

Llifynnau coch a ddefnyddir i liwio toddyddion, olewau, cwyrau, petrol, a llathryddion esgidiau a lloriau yw llifynnau Sudan. Ni chaniateir eu hychwanegu at fwyd yn y DU nac yng ngweddill yr Undeb Ewropeaidd.

Fodd bynnag, mae llifynnau Sudan wedi’u canfod mewn nifer fawr o gynhyrchion bwyd sy’n cynnwys powdr tsili wedi’i halogi, a fewnforiwyd yn bennaf o India. Nid yw hyn yn effeithio ar tsili ffres.




Y risg i’ch iechyd

Dangoswyd bod llifynnau Sudan yn achosi canser mewn anifeiliaid labordy, a gallai’r canfyddiadau hyn fod yn arwyddocaol ar gyfer iechyd pobl hefyd. Am y gall llifynnau Sudan gyfrannu at ddatblygiad canser mewn pobl, ni ystyrir eu bod yn ddiogel i’w bwyta.

Ond nid oes risg uniongyrchol o fynd yn sâl. Ar y lefelau sydd i’w cael yn y bwydydd hyn, mae’r risg yn debygol o fod yn isel iawn.

Yr hyn y mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn ei wneud

Mae’r Asiantaeth yn gweithio gydag awdurdodau lleol i roi terfyn ar werthu’r holl gynhyrchion sy’n cynnwys llifynnau Sudan (mae hyn yn cynnwys Sudan I, Sudan II, Sudan III a Sudan IV, a elwir hefyd yn goch ysgarlad) yn y DU. Mae hefyd yn gofyn i gwmnïau sy’n cynhyrchu ac yn gwerthu’r cynhyrchion hyn sicrhau y cânt eu tynnu yn eu holau a’u hadalw.

Rhaid i lwythi tsili sych, wedi’i falu neu chwalu, a phowdrau cyri sy’n dod i unrhyw wlad yn yr UE, ddod â thystysgrif sy’n dangos iddynt gael eu profi a’u bod yn rhydd o lifynnau Sudan. Mae samplo ar hap hefyd yn cael ei wneud mewn porthladdoedd a chan awdurdodau lleol. Caiff unrhyw lwythi y canfyddir eu bod yn cynnwys y llifynnau hyn eu dinistrio.