Ffthalad
Ffthalad yw’r enw am grŵp o gemegau sydd ag amrywiaeth o ddefnyddiau diwydiannol ac sydd i’w canfod mewn ystod eang o nwyddau cartref a nwyddau defnyddwyr. Wrth becynnu bwyd, cyfyngir ar y defnydd o ffthalad, yn bennaf, i gynhyrchu deunyddiau fel adlynion a rhai inciau argraffu.
Mae ffthalad yn cymryd llawer o amser i ddiraddio, neu dorri i lawr, yn yr amgylchedd. Mae hyn yn golygu y gellir eu canfod ar lefelau isel mewn rhai bwydydd.
Defnyddir ffthalad fel cyfrwng i gludo sylweddau eraill sy’n persawru cosmetigau. Maent yn bresennol mewn teganau i blant, bagiau gwaed mewnwythiennol ac offer meddygol arall, rhai mathau o baent a lloriau finyl.


Yr hyn y mae’n ei olygu ar gyfer eich iechyd
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, cafwyd peth pryder y gall ffthalad achosi effeithiau niweidiol ar ddatblygiad atgenhedlol pobl, oherwydd adroddwyd eu bod yn aflonyddwyr endocrin.Sylweddau sy’n gallu rhyngweithio â systemau hormonau yw aflonyddwyr endocrin.
Bu pryder arbennig yn gysylltiedig â’r hormonau rhyw - yr oestrogenau mewn menywod a’r androgenau mewn dynion - oherwydd eu rolau pwysig yn natblygiad y system atgenhedlu.
Er bod tystiolaeth yr effeithiwyd ar rai mathau o fywyd gwyllt o ganlyniad i gael eu hamlygu i aflonyddwyr endocrin, nid oes unrhyw dystiolaeth derfynol o hyd bod cysylltiad rhwng effeithiau niweidiol ar iechyd atgenhedlol pobl a chael eu hamlygu i’r cemegau hyn.
Wrth astudio anifeiliaid, canfu bod ffthalad yn effeithio ar yr afu/iau, ond ni ystyrir fod hyn yn risg i bobl ar y lefelau o ffthalad y gallwn eu bwyta mewn bwyd.
A oes modd osgoi ffthalad?
Byddai’n anodd eu hosgoi. Defnyddiwyd ffthalad yn eang ers mwy na 50 mlynedd ac maent i’w cael trwy gydol cymunedau datblygedig o amgylch y byd ac yn yr amgylchedd.Yr hyn y mae’r ASB yn ei wneud ynghylch ffthalad
Mae’r Asiantaeth yn ymwybodol o’r pryderon ynghylch effeithiau tocsig posibl ffthalad. Mae rhaglen ymchwil a gwyliadwriaeth eang gan yr Asiantaeth yn monitro diogelwch sylweddau mewn deunyddiau sy’n dod i gysylltiad â bwyd, gan gynnwys ffthalad, a allai fod yn niweidiol i iechyd pobl.Mae Pwyllgor Gwyddonol Bwyd y Comisiwn Ewropeaidd wedi gosod cyfyngiadau ar gyfer defnyddio ffthalad yn ddiogel mewn deunyddiau sy’n dod i gysylltiad â bwyd, ac mae’r rhain yn gyfreithiol rwymol yn unol â Chyfarwyddebau’r Comisiwn Ewropeaidd, sydd wedi’u deddfu’n llawn yng nghyfraith bwyd y DU.
I gael mwy o wybodaeth
Cysylltwch â:Nasreen Shah
Food Contact Materials Unit
Food Standards Agency
Aviation House
125 Kingsway
London WC2B 6NH





