Plaladdwyr
Sylweddau a ddefnyddir i ladd neu reoli plâu yw plaladdwyr. Fe’u defnyddir yn bennaf ym myd ffermio i amddiffyn cnydau bwyd.

Ar y dudalen hon

Beth mae plaladdwyr yn ei wneud?
Defnyddir plaladdwyr gwahanol at ddibenion gwahanol. Er enghraifft, gall plaladdwyr:- atal clefydau mewn cnydau
- lladd plâu fel llygod mawr, llygod a phryfed
- rheoli chwyn
- atal llwydni rhag tyfu ar gnydau wrth eu storio
A fydd unrhyw blaladdwyr ar ôl yn y bwyd pan fyddaf i’n ei fwyta?
O bryd i’w gilydd, gall olion plaladdwyr gael eu gadael mewn bwyd, neu ar wyneb allanol y bwyd. Gelwir y rhain yn weddillion plaladdwyr. Mae cyfyngiadau llym ar lefelau’r gweddillion plaladdwyr y caniateir iddynt fod yn bresennol mewn bwyd.Gall golchi neu blicio ffrwythau a llysiau waredu rhai o’r gweddillion plaladdwyr.
A yw gweddillion plaladdwyr yn cael eu monitro?
Ydynt. Mae rhaglen fonitro genedlaethol ar waith a oruchwylir gan y Pwyllgor Gweddillion Plaladdwyr (PRC), sy’n bwyllgor annibynnol o arbenigwyr.Mae’r rhaglen hon yn mesur lefelau’r gweddillion plaladdwyr mewn llawer o fathau o fwyd, gan gynnwys ffrwythau a llysiau, cig, pysgod, cynhyrchion llaeth, bwyd i fabanod a bwydydd wedi’u prosesu, i wirio bod y gweddillion yn cyd-fynd â therfynau cyfreithlon ac iach. Mae’r cyfyngiadau hyn yn gymwys i fwyd a gynhyrchir yn y DU a bwyd a fewnforir.
Mae PRC yn cyhoeddi adroddiadau chwarterol sy’n rhoi canlyniadau’r rhaglen.
Pwy sy’n rheoli sut y defnyddir plaladdwyr?
Mae nifer o sefydliadau gwahanol ynghlwm wrth reoleiddio pa blaladdwyr y gellir eu defnyddio a sut, sef:- Y Gyfarwyddiaeth Diogelwch Plaladdwyr – corff rheoleiddio’r DU sy’n gyfrifol am blaladdwyr ym myd amaeth a garddio
- Pwyllgor Cynghori ar Blaladdwyr – mae’n cynghori ynghylch rheoli plâu a chymeradwyo plaladdwyr
- Pwyllgor Gweddillion Plaladdwyr – mae’n cynghori ynghylch y rhaglen fonitro swyddogol ar gyfer gweddillion plaladdwyr mewn bwyd a diod
- Asiantaeth Safonau Bwyd – adran Llywodraeth annibynnol a sefydlwyd i ddiogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd
- Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch – corff rheoleiddio’r DU sy’n gyfrifol am blaladdwyr anamaethyddol, gan gynnwys lladdwyr pryfed a gwenyn (pryfladdwyr) a lladdwyr llygod mawr a llygod (llygodladdwyr)
A oes plaladdwyr mewn bwydydd i fabanod?
Yn anaml iawn y bydd bwydydd i fabanod yn cynnwys unrhyw weddillion plaladdwyr. Yn unol â chyfraith Ewrop, mae cyfyngiadau llym ar lefelau’r plaladdwyr y caniateir iddynt fod yn bresennol mewn fformiwla babanod a bwydydd i fabanod a weithgynhyrchir, ac mae cynhyrchwyr yn cymryd rhagofalon cadarn i sicrhau y cedwir gweddillion plaladdwyr mewn bwydydd i fabanod i’r lefel isaf posibl. Caiff fformiwla babanod a bwydydd i fabanod a weithgynhyrchir eu monitro fel rhan o’r rhaglen fonitro swyddogol mewn perthynas â gweddillion plaladdwyr, a oruchwylir gan y Pwyllgor Gweddillion Plaladdwyr.O bryd i’w gilydd, daethpwyd o hyd i weddillion plaladdwyr mewn bwydydd i fabanod, ond bu’r rhain ar lefelau isel iawn na fyddent yn achosi perygl sylweddol i iechyd baban.
A ddefnyddir plaladdwyr yn achos bwydydd organig?
Caiff y rhan fwyaf o fwydydd organig eu cynhyrchu heb ddefnyddio plaladdwyr am fod dulliau organig yn osgoi eu defnyddio. Mae safonau llym ynglŷn â’r hyn y caniateir i ffermwyr ei wneud wrth gynhyrchu bwyd i’w werthu fel bwyd ‘organig’. Caniateir i ffermwyr ddefnyddio ystod gyfyngedig iawn o blaladdwyr ar gnydau organig, ond dewis olaf yn unig yw hyn, a dim ond yn achos rhai mathau o gnydau y caiff ei ganiatáuA yw plaladdwyr yn effeithio ar yr amgylchedd?
Gall plaladdwyr achosi risgiau i’r amgylchedd, er enghraifft, i bryfed, adar, pysgod a chreaduriaid sy’n byw yn y pridd. Cyn cymeradwyo defnyddio plaladdwyr, caiff y risgiau hyn eu hystyried gan arbenigwyr ar effeithiau amgylcheddol, a fydd yn bresennol mewn pwyllgorau sy’n cynghori ynghylch a yw’r risgiau’n dderbyniol.Mae gan y Llywodraeth bolisi hirsefydlog o gadw’r defnydd o blaleiddiaid at y lefel isaf posibl, ac annog ffermwyr ac eraill i ddefnyddio plaladdwyr mewn ffyrdd a fydd yn achosi’r effaith lleiaf negyddol.
I gael mwy o wybodaeth am faterion amgylcheddol, ewch i adran Amgylchedd gwefan Y Gyfarwyddiaeth Diogelwch Plaladdwyr. Mae’r Fenter Wirfoddol hefyd a arweinir gan fyd diwydiant i leihau effaith amgylcheddol plaladdwyr trwy gynyddu arfer gorau gan ddefnyddwyr proffesiynol. I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan Y Fenter Wirfoddol.





