Text only

Arbelydriad


spice jars

Gellir defnyddio arbelydriad i ladd y bacteria sy’n achosi gwenwyn bwyd. Gall hefyd oedi’r broses o aeddfedu mewn ffrwythau, helpu i atal llysiau fel tatws a winwns rhag blaguro ac oedi mathau eraill o ddadelfennu.

Mae’n broses sy’n cynhyrchu effaith debyg i basteureiddio, coginio neu fathau eraill o driniaethau gwres, ond dim ond o rai graddau y mae arbelydriad yn codi tymheredd bwyd, felly mae’n effeithio i raddau llai ar y blas, yr olwg a’r ansawdd. Er enghraifft, nid yw arbelydriad yn achos sbeisiau yn newid eu blas na’u harogl.

Fe’i defnyddir mewn llawer o rannau o’r byd am ei fod yn ffordd effeithiol o ladd bacteria.




Sut mae’n gweithio?

Mae pelydrau ymbelydredd yn cael eu pasio i’r bwyd ac maent yn trosglwyddo egni. Mae bacteria yn amsugno ychydig o’r egni hwn ac yn cael eu lladd.

Fodd bynnag, caiff y rhan fwyaf o’r egni ei amsugno gan y bwyd ei hun, a bydd yn achosi i foleciwlau byr eu hoes, a elwir yn radicalau rhydd, ffurfio, sydd hefyd yn lladd micro-organebau, fel bacteria, a hefyd yn rhyngweithio â moleciwlau bwyd eraill. Caiff radicalau rhydd eu ffurfio mewn bwyd gan dechnegau prosesu eraill hefyd, gan gynnwys coginio, torri a malu.

Nid yw bwyd sydd wedi’i arbelydru yr un peth â bwyd ymbelydrol. Mae ymbelydredd yn bresennol yn naturiol yn ein hamgylchedd, gan gynnwys yn y bwyd a fwyteir gennym. Nid yw arbelydriad bwyd yn ychwanegu at yr ymbelydredd naturiol mewn bwyd. Nid yw arbelydru bwyd yn ei wneud yn ymbelydrol – yn yr un modd â’r ffaith na fydd bwyd a wresogwyd mewn microdon yn allyrru tonnau micro.

A yw’n ddiogel?

Mae degawdau o ymchwil ledled y byd wedi dangos bod arbelydru bwyd yn ffordd ddiogel ac effeithiol o ladd bacteria mewn bwyd ac estyn ei oes silff.

Mae pob techneg ar gyfer cadw bwyd yn achosi newidiadau cemegol mewn bwyd – dyna sut maent yn gweithio. Mae’r newidiadau a achosir gan arbelydriad bwyd yn debyg, er yn llai, na’r rhai a achosir gan dechnegau cadw eraill, fel coginio, tunio a phasteureiddio.

Pa fwydydd a arbelydrir yn y DU?

Mae rheoliadau cenedlaethol presennol yn caniatáu arbelydru saith categori o fwyd: ffrwythau, llysiau, grawnfwydydd, bylbiau a chloron, sbeisiau a chynfennau, pysgod a chregynbysgod, a dofednod. Fodd bynnag, dim ond un drwydded a gyhoeddwyd hyd yn hyn yn y DU, sef ar gyfer arbelydru nifer o berlysiau a sbeisiau.

Sut ydw i’n gwybod os yw bwyd wedi cael ei arbelydru?

Nid oes modd sylwi ar unrhyw wahaniaeth yn arogl, blas nac ymddangosiad bwyd sydd wedi cael ei arbelydru.

Fodd bynnag, yn achos unrhyw fwydydd, neu gynhwysion bwydydd a restrir ar y label, sydd wedi’u harbelydru, rhaid nodi ar y label iddynt gael eu trin ag ‘arbelydriad’ neu eu ‘trin ag ymbelydredd ïoneiddio'. Pan na fydd bwyd a arbelydrwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw ac y caiff ei werthu i’w fwyta ar unwaith (er enghraifft, mewn bwytai) rhaid nodi neu labelu hyn ar y fwydlen, hysbysiad neu docyn er mwyn i chi allu gweld hyn wrth benderfynu beth i’w fwyta.

Os yw’r bwyty yn defnyddio perlysiau a sbeisiau sych arbelydredig er mwyn rhoi blas i fwyd, efallai y nodir yn gyffredinol ar y fwydlen, hysbysiad, tocyn neu label, yn hytrach, y gall y bwyd a werthir gynnwys y mathau hynny o gynhwysion.

Ar gyfer sawl math o fwyd, gan gynnwys cig, perlysiau a sbeisiau, mae profion sy’n gallu dangos a yw bwyd wedi’i arbelydru. Defnyddir y rhain mewn arolygon gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd i sicrhau nad yw’r rheolau arbelydru yn cael eu torri.