Text only

Bwyd GM


Corn on the cob

Mae bwyd GM, neu fwyd a addaswyd yn enetig, yn cynnwys addasu genynnau planhigyn, anifail neu ficro-organeb neu fewnosod un o organeb arall - hynny yw, rhywbeth byw. Genynnau sy’n cynnwys cyfarwyddiadau ar gyfer yr holl nodweddion y mae organeb yn eu hetifeddu. Maent wedi’u cyfansoddi o DNA.

O bryd i’w gilydd, defnyddir y term 'biotechnoleg' i ddisgrifio addasu genetig. Mae i hyn ystyr ehangach hefyd, sy’n cynnwys defnyddio micro-organebau neu dechnegau biolegol i brosesu gwastraff neu gynhyrchu cyfansoddion defnyddiol, fel brechlynnau.




Sut mae’n cael ei ddefnyddio

Bu pobl yn bridio anifeiliaid a mathau gwahanol o blanhigion ers sawl canrif i ddatblygu neu osgoi rhinweddau penodol. Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys ceffylau rasio, sy’n cael eu bridio i fod yn gyflymach ac yn gryfach, a rhosynnau, a gaiff eu bridio i roi ystod ehangach o liwiau ac i’w gwneud yn fwy ymwrthol i glefydau. Dros lawer o genedlaethau, dros filoedd o flynyddoedd weithiau, mae prif gnydau bwyd y byd wedi cael eu dethol, eu croesi a’u bridio i gyd-fynd â’r amodau lle cânt eu tyfu ac i’w gwneud yn fwy blasus.

Er enghraifft, caiff gwartheg eu bridio yn ôl a ydynt ar gyfer buchesi cig eidion neu laeth. Mae’r rhan fwyaf o wartheg llaeth cyfoes yn wahanol iawn i’r gwartheg a ddofwyd yn wreiddiol. Dros y blynyddoedd, mae bridio buchesi llaeth wedi canolbwyntio ar gynhyrchu mwy o laeth a gwella ansawdd y llaeth hwnnw.

Ond lle mae dulliau traddodiadol yn cynnwys cymysgu miloedd o enynnau, mae addasu genetig yn caniatáu mewnosod genyn unigol, neu nifer fach o enynnau, mewn planhigyn, anifail neu ficro-organeb (fel bacteria), i’w newid mewn ffordd a bennwyd ymlaen llaw. Trwy addasu genetig, gellir ‘cynnau’ neu ‘ddiffodd’ genynnau hefyd i newid y ffordd y mae planhigyn neu anifail yn datblygu.

Er enghraifft, defnyddir chwynladdwyr i ladd chwyn mewn caeau llawn cnydau, ond gallant effeithio hefyd ar dyfiant y cnydau y bwriedir iddynt eu hamddiffyn. Trwy ddefnyddio addasu genetig, gellir cyflwyno genyn â nodwedd benodol, fel ymwrthedd i chwynladdwr penodol, i blanhigyn cnwd. Pan gaiff y chwynladdwr hwnnw ei chwistrellu ar y cae i ladd y chwyn, ni fydd yn amharu ar dyfiant y cnydau.

Yn yr un modd, drwy addasu DNA planhigyn fel bod modd iddo wrthsefyll y plâu penodol o bryfed sy’n ymosod arno, gellir defnyddio addasu genetig i leihau faint o blaladdwr y mae ei angen. Gellir defnyddio addasu genetig hefyd i roi imiwnedd i gnydau yn erbyn firysau planhigion neu i wella gwerth maethol planhigyn. Mewn anifeiliaid a fegir i’w bwyta, mae’n bosibl y gallai addasu genetig gynyddu pa mor gyflym ac i ba faint y maent yn tyfu.

Mae addasu genetig yn caniatáu cynhyrchu planhigion, anifeiliaid a micro-organebau a chanddynt rinweddau penodol yn fwy cywir ac effeithiol na thrwy ddulliau traddodiadol. Mae hefyd yn caniatáu trosglwyddo genynnau o un rhywogaeth i’r llall er mwyn datblygu nodweddion y byddai’n anodd iawn neu’n amhosibl eu cyflawni trwy fridio traddodiadol. Er enghraifft, gellir cyflwyno genynnau i blanhigyn o blanhigyn arall, o blanhigyn i anifail, neu o anifail i blanhigyn. Mae trosglwyddo genynnau rhwng planhigion ac anifeiliaid yn faes sy’n bwnc llosg.

Beth yw DNA?

Ystyr DNA yw asid deocsiriboniwcleig. Dyma’r deunydd genetig sydd wedi’i gynnwys yng nghelloedd popeth byw, ac mae’n cynnwys y wybodaeth sy’n caniatáu i organebau weithredu, trwsio ac atgenhedlu eu hunain.

Mae pob cell mewn planhigion (gweler y darlun eglurhaol isod), micro-organebau (fel bacteria), anifeiliaid, a phobl yn cynnwys miloedd o enynnau gwahanol, sydd wedi’u gwneud o DNA. Y genynnau hyn sy’n pennu nodweddion, neu gyfansoddiad genetig, popeth byw, gan gynnwys y bwyd a fwyteir gennym. Pan fyddwn yn bwyta unrhyw fath o fwyd, rydym yn bwyta genynnau ac yn torri i lawr y DNA sy’n bresennol yn y bwyd.

Cell - plant cell
Mae DNA yn cynnwys dau linyn gwahanol o’r hyn a elwir yn 'niwcleotidau'. Dyma flociau adeiladu DNA, ac maent wedi’u hymgordeddu o amgylch ei gilydd mewn strwythur helics dwbl (gweler y darlun eglurhaol isod). Caiff hunaniaeth genyn a’r swyddogaeth y mae’n ei chyflawni eu pennu gan nifer y niwcleotidau a’u trefn benodol ar gromosomau – gelwir hyn yn ‘ddilyniant’ y genyn. Y strwythurau sy’n cynnal DNA yw cromosomau.

DNA - double helix structure

Sut y caiff bwydydd GM eu hasesu er diogelwch?

Mae unrhyw fwydydd GM y bwriedir i’w gwerthu yn yr Undeb Ewropeaidd yn destun asesiadau diogelwch cadarn, sy’n gyfrifoldeb i Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA).

Fodd bynnag, gorwedd y penderfyniad o ran a ddylid eu hawdurdodi ai peidio gydag Aelod-wladwriaethau, sy’n pleidleisio ynghylch bwyd GM. Os ceir pleidlais amhendant, bydd Cyngor y Gweinidogion yn bwrw pleidlais, ac os na all hwnnw gytuno, gorwedd y penderfyniad terfynol gyda’r Comisiwn Ewropeaidd.

EFSA sy’n gyfrifol am gyhoeddi gwybodaeth am geisiadau a gyflwynir o dan y ddeddfwriaeth hon. Gellir dod o hyd i fwy o fanylion ar wefan EFSA.

Asiantaeth Safonau Bwyd yw awdurdod y DU a enwir yn y ddeddfwriaeth Ewropeaidd, a bydd yn cael cyngor ynghylch bwydydd GM a bwydydd newydd gan gorff annibynnol o arbenigwyr o’r enw y Pwyllgor Cynghori ar Fwydydd a Phrosesau Newydd (ACNFP) ac ynghylch bwyd anifeiliaid GM gan y Pwyllgor Cynghori ar Fwydydd Anifeiliaid (ACAF). ACNFP sy’n gyfrifol am asesu diogelwch bwydydd newydd a GM, ac ACAF sy’n gyfrifol am asesu diogelwch bwyd anifeiliaid GM.

Ym mis Mehefin 2000, nododd Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ei fod yn fodlon bod y gweithdrefnau asesu diogelwch ar gyfer bwydydd GM yn ddigon cadarn a thrwyadl i sicrhau bod bwydydd GM cymeradwy mor ddiogel â bwydydd nad ydynt yn fwydydd GM, ac nad ydynt yn peri unrhyw risg ychwanegol i’r defnyddiwr.

Caiff pob math o fwyd GM ei asesu er diogelwch, gan gynnwys ar gyfer ei botensial gwenwynegol, maethol ac alergenig, o achos i achos, cyn iddo allu cael ei gymeradwyo i’w farchnata.

Mae’r Asiantaeth yn cefnogi dewis y cwsmer. Rydym yn cydnabod y bydd rhai pobl yn dymuno dewis peidio â phrynu na bwyta bwydydd a addaswyd yn enetig (GM), ni waeth pa mor ofalus maent wedi’u hasesu er diogelwch.

Yn 2003, cefnogodd yr Asiantaeth ystod o fentrau i asesu’n annibynnol farn y cyhoedd ynghylch derbynioldeb bwyd GM a sut y mae hyn yn berthnasol i ddewis y defnyddiwr. Llywiodd hyn gyfraniad yr Asiantaeth at drafodaeth gyhoeddus y Llywodraeth ynghylch GM. Gellir dod o hyd i fanylion yr amrywiol weithgareddau a gefnogwyd gennym ar ein gwefan trafod bwyd GM, ac fe’u crynhowyd yn ein cyflwyniad i drafodaeth gyhoeddus y Llywodraeth ynghylch GM.

Sut y caiff GM ei ddefnyddio i gynhyrchu bwyd?

Gellir defnyddio addasu genetig mewn nifer o ffyrdd i gynhyrchu bwyd. Mae’r rhain yn amrywio o addasu’r cynhwysion crai i ddefnyddio addasu genetig wrth brosesu.

Pan ddefnyddir addasu genetig fel rhan o’r broses gynhyrchu, fel y disgrifir ym 4 isod, nid yw’r deunydd GM yn rhan o’r bwyd ar ein platiau. Mae hyn yn debyg i dechnegau prosesu eraill, felly, er enghraifft, pan ddefnyddir prosesydd bwyd i dorri, ni fydd unrhyw ran o’r prosesydd yn cyrraedd y pryd o fwyd a fwyteir gennym.

Dyma’r ffyrdd gwahanol y gellir defnyddio addasu genetig i gynhyrchu bwyd:
1. Bwyd GM: Gellir addasu cnwd, fel ffrwythau neu lysiau, neu anifail, yn enetig. (Fodd bynnag, ni chymeradwywyd unrhyw enynnau o anifeiliaid neu bobl, nac anifeiliaid GM, i’w defnyddio mewn bwyd GM yn yr UE.)

2. Cynhwysion GM: Gellir cymryd bwyd a ddaw o gnwd GM, fel ŷd, a’i brosesu i gynhyrchu, er enghraifft, blawd, a bydd y DNA GM yn bresennol yn y bwyd o hyd a gellir ei adnabod.

3. Cynhwysion sy’n deillio o GM: Gall bwyd ddod o gnwd GM ond gellir prosesu’r DNA er mwyn iddo beidio â bod yn bresennol yn y cynnyrch terfynol - gelwir hyn yn gynhwysyn sy’n deillio o GM. Enghraifft o hyn yw olew soi, a gynhyrchir o ffa soia GM. Mae’r prosesu yn chwalu’r DNA fel na ellir ei adnabod naill ai fel DNA GM na DNA confensiynol yn yr olew terfynol am iddo gael ei chwalu’n asidau brasterog. Felly, ni ellir gwahaniaethu rhwng olew soi o ffa soia GM ac olew soi o ffa confensiynol.

4. Cymorth prosesu GM: Gellir defnyddio organeb GM hefyd i wneud cynnyrch heb i ddeunydd GM fod yn bresennol yn y cynhwysion na’r cynnyrch terfynol. Yn yr achos hwn, ‘cymorth prosesu’ yw’r organeb GM. Un enghraifft o hyn yw cynhyrchu caws caled. Yr ensym chymosin yw cynhwysyn gweithredol ceuled, a ddefnyddir i geulo llaeth. Yn draddodiadol, cymerwyd caul o stumogau lloi, ond mae’r galw am gaws yn fwy na nifer y lloi sydd ar gael ac nid yw’r chymosin bob tro yn cynhyrchu llwythi cyson o gaws. Erbyn hyn, gosodir y genyn sy’n gyfrifol am gynhyrchu chymosin mewn bacteria, er mwyn i’r bacteria gynhyrchu’r chymosin yn hytrach na defnyddio caul traddodiadol. Dim ond y bacteria a gaiff eu haddasu’n enetig, nid y chymosin, ac felly nid oes i gaws unrhyw gynnwys GM am nad yw’r bacteria yn rhan o’r caws.

5. Cynhwysion GM mewn bwyd anifeiliaid: Defnyddir cnydau GM, fel ŷd, i fwydo anifeiliaid a gaiff eu bwyta yn ddiweddarach hefyd, fel cywion ieir. Mae cynhyrchion anifeiliaid hefyd, fel wyau a llaeth, a ddaw o anifeiliaid sy’n cael eu bwydo ar gnydau GM. Fodd bynnag, nid yw DNA GM gweithredol yn y cig na’r cynhyrchion anifeiliaid hyn a fwyteir gennym. Gweler y ddau baragraff canlynol sy’n esbonio beth sy’n digwydd i DNA yn ein cyrff ac wrth brosesu bwyd.

Sut mae prosesu yn effeithio ar y DNA mewn bwydydd?
Caiff DNA ei dorri i lawr yn yr un ffordd ag y gall prosesydd bwyd newid neu ddinistrio nodweddion eraill cynhwysion bwyd, fel ansawdd, yn ystod y broses weithgynhyrchu. Mae prosesu’n cynnwys yr holl gamau sy’n gysylltiedig â pharatoi bwyd i ni ei fwyta, o buro deunyddiau crai i goginio yn ein cartrefi.

Beth sy’n digwydd pan fydd pobl yn bwyta bwyd GM?
Mae pobl bob amser wedi bwyta planhigion ac anifeiliaid, sy’n golygu ein bod bob amser wedi bwyta eu DNA heb iddo achosi unrhyw broblemau iechyd. O ystyried bod DNA GM yn DNA o hyd, ni ddylai ei fwyta achosi mwy o risg na bwyta DNA heb ei addasu. Yn wir, ni adroddwyd bod unrhyw un yn dioddef salwch am fod y bwyd a fwytawyd ganddo wedi cael ei addasu’n enetig.

Pan fydd rhywun yn bwyta bwyd GM caiff ei brosesu yn yr un ffordd â bwyd nad yw’n fwyd GM. Pan fyddwn yn bwyta unrhyw fwyd, bydd ein system draul yn dadelfennu’r meinwe, y proteinau a’r DNA ynddo. Mae gan y DNA mewn bwyd GM yr un strwythur â DNA nad yw’n DNA GM, a chaiff ei ddadelfennu yn yr un ffordd. Caiff y rhan fwyaf o’r DNA a fwyteir, p’un a yw’n GM ai peidio, ei dorri i lawr yn ein stumogau a’n coluddion.

O bryd i’w gilydd, ni chaiff y DNA o’r bwyd a fwyteir gennym ei dorri i lawr. Fodd bynnag, mae’n annhebygol y bydd y DNA hwn yn dod yn rhan o’n deunydd genetig trwy basio i’n celloedd - yn syml, dylai unrhyw DNA annynol gael ei dorri i lawr yn y gell.

A fydd y label yn rhoi gwybod i mi os yw’r bwyd yn fwyd GM?

Mae’r Asiantaeth yn cefnogi dewis y cwsmer. Rydym yn cydnabod y bydd rhai pobl yn dymuno dewis peidio â phrynu na bwyta bwydydd GM, ni waeth pa mor ofalus maent wedi’u hasesu er diogelwch.

Yn yr UE, os bydd bwyd yn cynnwys neu wedi’i gyfansoddi o organebau wedi’u haddasu’n enetig (GMO), neu’n cynnwys cynhwysion a gynhyrchwyd o GMO, rhaid nodi hyn ar y label. Yn achos cynhyrchion GM a gaiff eu gwerthu’n ‘rhydd’, rhaid dangos gwybodaeth yn uniongyrchol gyferbyn â’r bwyd i ddangos ei fod yn fwyd GM.

Ar 18 Ebrill 2004, daeth rheolau newydd ar gyfer labelu GM i rym yn holl Aelod-wladwriaethau’r UE. Mae’r rhain yn cynnwys pob bwyd GM a phob bwyd anifeiliaid GM, ni waeth os bydd unrhyw ddeunydd GM yn bresennol yn y deunydd terfynol.

Mae hyn yn golygu fod yn rhaid labelu cynhyrchion fel blawd, olewau a surop glwcos yn fwydydd GM os byddant yn dod o ffynhonnell GM. Nid oes yn rhaid labelu cynhyrchion a gynhyrchwyd gan ddefnyddio technoleg GM (er enghraifft, caws a gynhyrchwyd ag ensymau GM).

Nid oes yn rhaid labelu cynhyrchion fel cig, llaeth ac wyau o anifeiliaid wedi’u bwydo ar fwyd anifeiliaid GM ychwaith.

Rhaid labelu defnydd bwriadol cynhwysion GM ar unrhyw lefel. Ond nid oes yn rhaid labelu symiau bach o gynhwyson GM cymeradwy (islaw 0.9% ar gyfer mathau GM cymeradwy) sy’n bresennol mewn bwyd yn ddamweiniol.