Text only

Cyfnerthu ag asid ffolig


Woman eating cereal

Fitamin B yw asid ffolig. Fe’i gelwir yn ffolad pan fydd i’w gael ar ei ffurf naturiol mewn bwydydd. Asid ffolig yw’r ffurf synthetig a ddefnyddir mewn atchwanegiadau neu a ychwanegir at fwyd.

Mae rhai bwydydd, fel llawer o rawnfwydydd brecwast a thaenau, eisoes wedi’u cyfnerthu ag asid ffolig a fitaminau a mwynau eraill. Ond yn ddiweddar, bu trafodaethau ynghylch a ddylai fod yn orfodol ychwanegu asid ffolig at fara neu flawd yn y DU.




Pwy sydd angen asid ffolig?

pregnant woman sitting on grass Mae ffolad (neu asid ffolig) yn fitamin pwysig i bawb. Mae’n hanfodol ar gyfer llawer o brosesau’r corff, gan gynnwys cynhyrchu celloedd coch y gwaed. Gall y rhan fwyaf o bobl gael yr holl ffolad y mae ei angen arnynt o ddeiet iach a chytbwys ac ni fydd yn rhaid iddynt gymryd atchwanegiadau sy’n cynnwys asid ffolig.

Ond dylai menywod sy’n gobeithio beichiogi, neu sydd eisoes yn feichiog, gymryd atchwanegiad 400 microgram (mcg) o asid ffolig bob dydd o’r adeg y byddant yn rhoi’r gorau i ddefnyddio dulliau atal cenhedlu tan o leiaf wythnos 12 y beichiogrwydd.

Mae angen ffolad ar gyfer tyfiant y plentyn yn ogystal â'r celloedd sy'n ymrannu'n gyflym yn ystod beichiogrwydd, ac mae ymchwil yn dangos ei fod yn lleihau’r tebygolrwydd o gael namau ar y tiwb nerfol, fel spina bifida, yn y baban.

Cynghorir i fenywod sydd eisoes wedi cael beichiogrwydd yr effeithiwyd arno gan nam ar y tiwb nerfol gymryd dos uwch o asid ffolig - 5 miligram (mg) y dydd - pan fyddant yn bwriadu mynd yn feichiog eto tan wythnos 12 y beichiogrwydd. Mae Diabetes UK hefyd yn argymell y dylai pob menyw â diabetes sy’n bwriadu mynd yn feichiog gymryd 5mg o asid ffolig y dydd am yr un cyfnod.

Pam y mae cyfnerthu ag asid ffolig yn destun trafod?

flour Ar 17 Mai 2007, cytunodd Bwrdd Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unfrydol y dylid cyflwyno ‘cyfnerthu gorfodol’ ag asid ffolig. Mae hyn yn golygu y byddai’n orfodol ychwanegu asid ffolig at naill ai fara neu flawd.

Diben cyfnerthu gorfodol ag asid ffolig yw lleihau nifer y namau ar y tiwb nerfol. Amcangyfrifodd SACN yr effeithir ar rhwng 700 a 900 beichiogrwydd y flwyddyn gan namau ar y tiwb nerfol.

Mae’r Bwrdd hefyd am gyflwyno rheolaethau ar gyfnerthu gwirfoddol (lle bydd gweithgynhyrchwyr yn dewis ychwanegu asid ffolig at fwydydd) a chyngor i’r cyhoedd ynghylch atchwanegiadau sy’n cynnwys asid ffolig.

Cyn cyflwyno ei argymhelliad terfynol ar gyfnerthu gorfodol, bydd Pwyllgor Cynghori Gwyddonol ar Faeth y Llywodraeth (SACN) yn adolygu canlyniadau nifer o dreialon sy'n cael eu cynnal ar hyn o bryd i edrych ar effaith asid ffolig ar y risg o ddatblygu rhai mathau o ganser. Mae disgwyl i'r rhain ddod i ben ddiwedd 2008. Yna, bydd argymhellion SACN yn cael eu hystyried gan Adrannau Iechyd y DU ddechrau 2009. Os byddant yn cymeradwyo cyfnerthu gorfodol, bydd yr ASB yn cynhyrchu cynllun gweithredu, a fydd yn cynnwys manylion pa fathau o fara neu flawd a fyddai’n cael eu cyfnerthu a sut y byddai’r asid ffolig a ychwanegir yn cael ei labelu.

Sut y gallai cyfnerthu ag asid ffolig leihau nifer y namau ar y tiwb nerfol?

Petai bara neu flawd yn cael eu cyfnerthu ag asid ffolig, byddai hyn yn cynyddu’r asid ffolig sy'n cael ei fwyta gan lawer o bobl yn y DU, gan gynnwys llawer o fenywod beichiog. Mae tystiolaeth gref iawn ar gael sy'n dangos pe byddai menyw yn cynyddu’r asid ffolig y mae hi'n ei fwyta cyn iddi fynd yn feichiog, ac yn ystod 12 wythnos cyntaf beichiogrwydd, y gallai leihau’r risg y bydd ei baban yn datblygu nam ar y tiwb nerfol.

Er y caiff menywod eu cynghori eisoes i gymryd atchwanegiadau asid ffolig wrth iddynt geisio am fabi ac yn gynnar yn ystod beichiogrwydd, mae llawer o fenywod nad ydynt yn cymryd y cyngor hwn, neu maent yn dechrau eu cymryd yn rhy hwyr. Y rheswm am hyn yw nad yw tua hanner yr achosion o feichiogrwydd yn y DU wedi’u cynllunio.

A allai cyfnerthu ag asid ffolig effeithio’n negyddol ar rai pobl?

Bu ychydig o bryder yn y gorffennol y gallai effeithio’n negyddol ar bobl â diffyg fitamin B12. Mae pobl hŷn mewn mwy o risg o ddioddef diffyg B12 am nad ydynt yn gallu amsugno’r fitamin hwn o fwyd i’r un graddau.

Os bydd rhywun yn cymryd lefelau uchel o asid ffolig, gall hyn guddio diffyg fitamin B12 trwy wella un o’r symptomau (anemia), sy’n golygu y gall fod yn anodd i weithwyr iechyd proffesiynol ei ganfod. Os bydd rhywun yn dioddef diffyg B12 am gyfnod estynedig, gall achosi niwed i linyn asgwrn y cefn a’r system nerfol (difrod niwrolegol). Os na wneir diagnosis ar gyfer hyn ac na chaiff ei drin, gall arwain at anabledd difrifol, er nad yw’n gyffredin iawn (28 achos yn 2003).

Nid oes unrhyw dystiolaeth i ddangos y gall asid ffolig guddio diffyg fitamin B12 wrth gymryd dosys 1,000mcg y dydd neu’n llai yn y tymor byr. Amcangyfrifodd SACN petai cyfnerthu gorfodol yn cael ei gyflwyno ar lefel o 300mcg o asid ffolig am bob 100g o flawd (yn ogystal â rheolaethau ar gyfnerthu gwirfoddol), y byddai 900 o bobl 65 oed ac yn hŷn a allai gael mwy na 1,000mcg y dydd o asid ffolig. Dyma’r un nifer o bobl sy’n cael mwy na 1,000mcg y dydd gyda’r lefelau presennol o asid ffolig a ychwanegir trwy gyfnerthu gwirfoddol. Dyna pam y mae Bwrdd yr ASB wedi cytuno argymell rheolaethau ar gyfnerthu gwirfoddol a chyhoeddi cyngor ynghylch defnyddio atchwanegiadau, i fynd gyda chyfnerthu gorfodol.

Mae ffigurau o’r UDA, lle cyflwynwyd cyfnerthu gwirfoddol mewn grawn ym 1998, yn dangos bod nifer yr achosion niwrolegol difrifol sy’n gysylltiedig â diffyg fitamin B12 wedi parhau’n gyson ers cyflwyno cyfnerthu, gyda llai na 30 o achosion y flwyddyn.

Mae’r Adran Iechyd yn ystyried ffyrdd gwell o edrych am ddiffyg B12 mewn pobl hŷn.

A oes unrhyw fuddion eraill i asid ffolig?

Mae ychydig o ymchwil wedi awgrymu y gallai asid ffolig helpu i atal clefyd cardiofasgwlaidd (clefyd y galon a strôc), lleihau’r risg o ddioddef rhai mathau o ganser a chlefyd esgyrn, ac arafu dirywiad gwybyddol sy’n gysylltiedig ag oedran (sef pan ceir nam ar brosesau meddyliol unigolyn). Ond ar hyn o bryd, nid oes digon o dystiolaeth i weld a oes gan asid ffolig effaith gadarnhaol yn y meysydd hyn.

A yw cael llawer o asid ffolig yn y deiet yn effeithio ar y risg o ganser?

Mae rhai astudiaethau wedi awgrymu y gall llawer o asid ffolig helpu i ddiogelu yn erbyn canser, ond efallai bod hyn o ganlyniad i bethau eraill yn y deiet a all helpu i ddiogelu yn erbyn canser hefyd, fel ffibr.

Mae astudiaethau sy’n defnyddio anifeiliaid wedi cynhyrchu ychydig o dystiolaeth sy’n dangos y gall cael llawer o asid ffolig ddiogelu yn erbyn datblygu canser ond, ar y llaw arall, os bydd tyfiant cyn-ganseraidd yn y corff eisoes, gallai llawer o asid ffolig gyflymu’r broses o’i ddatblygu’n ganser. Fodd bynnag, roedd symiau’r asid ffolig a ddefnyddiwyd yn yr astudiaethau ag anifeiliaid yn llawer uwch nag y byddai pobl yn eu cael petai cyfnerthu gorfodol yn cael ei gyflwyno. Ar hyn o bryd, nid oes digon o dystiolaeth i ni ddeall sut y mae asid ffolig yn effeithio ar y tebygolrwydd o ddatblygu canser.

Mae dau dreial yn cael eu cynnal ar hyn o bryd, sy'n edrych ar effeithiau asid ffolig ar y perygl o ddatblygu rhai canserau. Bydd SACN yn defnyddio canlyniadau'r treialon hyn i wneud argymhelliad ar gyfnerthu gwirfoddol ag asid ffolig.

A oes cyfnerthu gorfodol ag asid ffolig mewn gwledydd eraill?

bread loaf Oes. Yn yr UDA, cyflwynwyd cyfnerthu gorfodol ag asid ffolig mewn grawn ym 1998. Yng Nghanada, bu cyfnerthu gorfodol mewn blawd gwyn a phasta ers 1998. Ac yn Chile, cyflwynwyd cyfnerthu gorfodol mewn blawd yn 2000.

Yn yr UDA a Chanada, mae nifer yr achosion o feichiogrwydd yr effeithiwyd arnynt gan namau ar y tiwb nerfol wedi gostwng ers cyflwyno cyfnerthu gorfodol ag asid ffolig, ac yn Chile mae nifer y genedigaethau byw a’r marwenedigaethau yr effeithir arnynt gan namau ar y tiwb nerfol wedi gostwng hefyd.

Hyd yn hyn, nid oes unrhyw wlad Ewropeaidd wedi cyflwyno cyfnerthu gorfodol ag asid ffolig. Ond mae Gweriniaeth Iwerddon wedi argymell cyfnerthu gorfodol yn achos y mathau mwyaf cyffredin o fara a fwyteir yno, ac ar hyn o bryd mae’n gweithio ar ddeddfwriaeth i roi’r argymhelliad hwn ar waith. Mae Brasil ac Israel ar fin cyflwyno deddfwriaeth a fydd yn cyflwyno cyfnerthu gwirfoddol. Mae Awstralia a Seland Newydd yn ystyried hyn.

A all menywod beichiog gael digon o asid ffolig heb atchwanegiadau neu fwydydd cyfnerthedig?

pregnant woman laying on sofa Gallwn gael ychydig o ffolad (asid ffolig ar ei ffurf naturiol) o ddeiet iach a chytbwys, ond pan fydd menywod yn trio am fabi, ac yn ystod 12 wythnos cyntaf beichiogrwydd, mae angen mwy o asid ffolig na’r arfer arnynt, i leihau’r risg o gael namau ar y tiwb nerfol yn y baban.

Mae bron yn amhosibl cael cymaint â hynny o asid ffolig o fwyd yn unig, a dyna pam y cynghorir i ferched gymryd 400mcg o asid ffolig bob dydd wrth iddynt geisio beichiogi ac yn ystod 12 wythnos cyntaf beichiogrwydd.

Mae lefelau isel o ffolad i’w gael mewn llawer o fwydydd, gan gynnwys:

  • echdyniad burum
  • llysiau deiliog gwyrdd fel brocoli, ysbigoglys ac ysgewyll
  • pys a ffacbys
  • rhai ffrwythau, fel orennau
Dylai menywod sy’n feichiog neu sy’n trio am fabi geisio bwyta digonedd o fwydydd sy’n cynnwys ffolad, yn ogystal â chymryd y swm a argymhellir o asid ffolig fel atchwanegiad.