Diocsinau
Cemegau yw diocsinau a biffenylau polyclorinedig (PCB) sy’n mynd i’n bwyd o’r amgylchedd. Nid oes iddynt unrhyw effaith uniongyrchol ar ein hiechyd, ond gallant achosi problemau os caiff lefel uchel ohonynt eu hamsugno i’n cyrff am gyfnodau hir.
Bwydydd sy’n uchel mewn braster anifeiliaid, fel llaeth, cig, pysgod ac wyau (a bwydydd a gynhyrchir trwy eu defnyddio) yw prif ffynhonnell diocsinau a PCBau, er bod pob math o fwyd yn cynnwys o leiaf lefel isel o’r cemegau hyn. Bydd lefelau’r diocsinau a PCBau yn neiet unrhyw unigolyn yn amrywio yn dibynnu ar faint o fathau gwahanol o fwydydd a fwyteir ganddynt.
Daw’r risg i iechyd o fwyta bwyd â lefelau uchel o diocsinau a PCBau dros gyfnod hir. Dangoswyd eu bod yn achosi ystod eang o effeithiau mewn anifeiliaid penodol, gan gynnwys canser a difrod i’r systemau imiwnedd ac atgenhedlu, er ei fod yn ymddangos yn bosibl bod pobl yn llai sensitif.


O ble y daw diocsinau a PCBau?
Ni chynhyrchwyd diocsinau yn fwriadol erioed. Gallant ffurfio fel sgil gynhyrchion digroeso mewn amrywiaeth o brosesau diwydiannol a hylosgiad, gan gynnwys tanau cartref. Caiff y rhan fwyaf o docsinau a ryddheir o ganlyniad i brosesau diwydiannol eu rheoli’n llym o dan reoliadau atal a rheoli llygredd.Mae PCBau wedi cael eu defnyddio ers y 1930au cynnar, mewn offer trydanol yn bennaf. Daeth gweithgynhyrchu a defnydd cyffredinol PCBau i ben yn ystod y 1970au, ac ni chaniateir eu defnyddio mwyach yn y DU. Yr unig PCBau sydd mewn defnydd o hyd yn y DU yw’r rhai sydd wedi’u selio y tu mewn i rai offer trydanol hŷn.
Gall diocsinau a PCBau o’r ffynonellau hyn gael eu rhyddhau mewn symiau bach i’r aer, i ddŵr neu’r tir. Wedi hynny, bydd pysgod yn eu hamsugno o’u bwyd ac unrhyw bridd a gwaddodion a gymerir ganddynt wrth fwydo. Caiff y cemegau eu hamsugno i fraster eu cyrff, lle byddant yn cronni.
A allaf osgoi bwyta bwydydd sy’n cynnwys diocsinau neu PCBau?
Am fod diocsinau a PCBau i’w canfod mewn lefelau isel mewn pob math o fwyd, gan gynnwys bwyd sy’n ffynonellau pwysig o faetholynnau, cyngor yr Asiantaeth yw bod buddion unrhyw ddeiet iach a chytbwys yn gorbwyso unrhyw risgiau oddi wrth diocsinau a PCBau.Nid oes fawr o le i waredu diocsinau a PCBau o fwydydd ar ôl iddynt fynd i’r gadwyn fwyd. Yn gyffredinol, cytunir mai’r ffordd orau o atal diocsinau a PCBau rhag mynd i’r gadwyn fwyd yw trwy reoli faint o’r cemegau hyn sy’n cael eu rhyddhau i’r amgylchedd.
Mae faint o diocsinau a PCBau a gymerir gan bobl yn eu bwyd yn y DU yn debyg i’r lefelau yng ngweddill yr Undeb Ewropeaidd ac UDA. Mae lefel y diocsinau a PCBau a gymerir yn gostwng, ac wedi lleihau 85% ers 1982.
A oes cyfyngiad ar faint o diocsinau y gall bwyd eu cynnwys?
Ym mis Gorffennaf July 2002, gosododd y Comisiwn Ewropeaidd gyfyngiadau ar gyfer diocsinau mewn bwydydd sy’n cyfrannu’n sylweddol at gyfanswm y cemegau hyn a gymerir fel rhan o’r deiet. Mae’r bwydydd hyn yn cynnwys cig, afu / iau, pysgod, wyau, llaeth a chynhyrchion llaeth. Caiff y cyfyngiadau hyn eu hadolygu erbyn mis Rhagfyr 2004.Dogn Dyddiol Goddefadwy (TDI) yw faint o halogydd y mae arbenigwyr yn argymell y gellir eu bwyta, ar gyfartaledd, bob dydd am hyd oes cyfan heb achosi niwed.
Beth mae’r Asiantaeth yn ei wneud ynglŷn â diocsinau a PCBau?
Mae’r Asiantaeth yn defnyddio arolygon bwyd ac arolygon bwyd anifeiliaid i ddod i wybod mwy am ba fwydydd sy’n cyfrannu’r mwyaf o diocsinau a PCBau i’r deiet ac i wirio bod y rheolaethau’n ddigonol. Mae’n cynnal arolygon deietegol i fonitro cynnydd a nodi meysydd lle mae angen mwy o waith.Mae’r Asiantaeth hefyd yn cynnal ymchwil i ennill dealltwriaeth well o sut y mae diocsinau a PCBau yn mynd i’r gadwyn fwyd yn y lle cyntaf.





