Text only

BSE


cow

Byrfodd ar gyfer Enseffalopathi Sbyngffurf Buchol (Bovine Spongiform Encephalopathy) yw BSE. Fe’i adwaenir yn gyffredin fel ' clefyd y gwartheg gwallgof' ac mae’n effeithio ar wartheg sy’n oedolion. Er y bydd BSE yn datblygu mewn gwartheg yn unig, mae’n perthyn i grŵp penodol o glefydau, y gall sawl un ohonynt effeithio ar bobl.

Fel arfer, bydd yn cymryd rhwng pedair a chwe blynedd i wartheg a heintir gan BSE i ddangos arwyddion eu bod yn dioddef y clefyd. Bydd BSE yn ymosod ar yr ymennydd a system nerfol ganolog yr anifail, cyn ei ladd yn y pen draw.




Pa berygl y mae BSE yn ei achosi i bobl?


Clefyd Creutzfeldt-Jakob (CJD) yw’r clefyd mwyaf hysbys sy’n effeithio ar bobl yn y grŵp o glefydau sy’n cynnwys BSE. Math anghyffredin ac angheuol o ddemensia yw hwn sy’n digwydd yn bennaf mewn pobl rhwng 40 ac 80 oed.

Nid clefyd newydd yw CJD, ond ym 1996 canfu gwyddonwyr fath newydd o CJD sy’n digwydd yn bennaf mewn pobl iau. O ganlyniad i hyn, gelwir y salwch newydd mewn pobl yn amrywiolyn CJD neu vCJD.

Roedd ymddangosiad vCJD yn y DU, lle'r oedd nifer uchel o achosion BSE mewn gwartheg, yn awgrymu y gallai bod cysylltiad uniongyrchol rhwng BSE a vCJD. Mae’n hysbys bod rhai pobl sydd wedi datblygu vCJD wedi bwyta cig a allai fod wedi’i heintio â BSE. Daeth ymchwilwyr at y casgliad mai tarddiad mwyaf tebygol vCJD oedd i bobl fwyta cig wedi’i heintio â BSE. Yn yr un modd â BSE mewn gwartheg, mae vCJD yn angheuol bob tro.

Ers i vCJD ymddangos yn y DU am y tro cyntaf, cynhaliwyd astudiaethau i ateb cwestiynau am vCJD, fel sut y mae’r clefyd yn effeithio ar bobl a faint o amser y mae’n cymryd i bobl sydd wedi’u hamlygu i’r clefyd gael eu heffeithio ganddo.

Mae rheolaethau cyfyng ar waith yn y DU, a ledled Ewrop, i ddiogelu pobl rhag cael eu hamlygu i BSE. Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn monitro’r rheolaethau hyn ac yn rhoi cyhoeddusrwydd i unrhyw droseddau, yn ogystal â’r camau a gymerwyd i osgoi diffygion pellach.

Sut mae risg BSE yn cael ei reoli?


Ers y 1980au hwyr, mae’r Llywodraeth ac, yn fwy diweddar, y Comisiwn Ewropeaidd, wedi cyflwyno rheolaethau cryfach i leihau’r risg y bydd pobl yn bwyta cig eidion a chynnyrch cig a all fod wedi’i heintio â BSE.

Seilir y rheolaethau ar wybodaeth wyddonol gyfredol ac fe’u cynllunnir i leihau’r risg i lefel eithriadol o isel, er na ellir gwaredu’r risg BSE yn gyfan gwbl.

Gorchwyl allweddol i’r Asiantaeth Safonau Bwyd yw sicrhau bod y rheolaethau hyn yn gweithio’n effeithiol.

Y brif reolaeth yw gwaredu o’r gadwyn fwyd y rhannau o wartheg sydd fwyaf tebygol o gynnwys BSE. Gelwir y rhannau hyn yn Ddeunydd Risg Penodedig (SRM). Mae’r rheolaethau hyn yn ffurfio rhan o’r rheoliadau a gysonwyd sy’n gymwys yn holl wledydd yr Undeb Ewropeaidd (UE).

Ers mis Tachwedd 2005, cyflwynwyd rheolaeth arall, sef profi anifeiliaid hŷn am BSE. Mae’n golygu y caniateir i wartheg sy’n hŷn na 30 mis pan gânt eu lladd gael mynediad i’r gadwyn fwyd os byddant yn profi’n negyddol ar gyfer BSE yn unig. Mae profi yn helpu i ddiogelu defnyddwyr rhag BSE oherwydd caiff unrhyw anifeiliaid y canfyddir eu bod yn cario’r clefyd eu tynnu o’r gadwyn fwyd a’u lladd.

Rhwng 1996 a Thachwedd 2005, roedd gwartheg a oedd yn hŷn na thri deg mis, yn syml, yn cael eu gwahardd rhag mynd i’r gadwyn fwyd. Rhoddwyd profi am BSE ar waith yn lle’r gwaharddiad hwn oherwydd, gyda’r gostyngiad nodedig mewn BSE a chyflwyno profion BSE, mae’r risg a achosir gan wartheg o’r DU a aned ar ôl Awst 1996 yn isel iawn erbyn hyn.

Bydd gwartheg a aned cyn Awst 1996, pan gyflwynwyd gwaharddiad atgyfnerthedig ynghylch bwyd anifeiliaid a gynhwysai flawd cig ac esgyrn (MBM), yn parhau wedi’u heithrio o’r cyflenwad bwyd. Gweler 'O ble y daw BSE?' i gael mwy o wybodaeth am MBM.

O ble y daw BSE?


Er gwaethaf llawer o ymchwil, ni all unrhyw un ddweud â sicrwydd o ble y daeth BSE, er bod llawer o ddamcaniaethau.

Mae’r rhan fwyaf o arbenigwyr yn cytuno y lledaenwyd BSE gan wartheg a oedd wedi bwyta bwyd anifeiliaid a gynhwysai flawd cig ac esgyrn (MBM) a wnaed o feinweoedd wedi’u heintio â BSE. Mae arbrofion wedi dangos y gall gwartheg ddal BSE os bwydir meinwe ymennydd wedi’i heintio iddynt.

Mae’r arfer o fwydo MBM i wartheg a phob math arall o anifeiliaid fferm wedi’i wahardd ers 1996.

Pa mor eang yw BSE?

Ers 1999, cadarnhawyd achosion o BSE yn y gwledydd canlynol: Awstria, Gwlad Belg, Canada, Y Weriniaeth Tsiec, Denmarc, Ynysoedd Falkland/Malvinas, Ffrainc, Y Ffindir, Yr Almaen, Groeg, Iwerddon, Israel, Yr Eidal, Siapan, Liechtenstein, Lwcsembwrg, Yr Iseldiroedd, Oman, Gwlad Pwyl, Portiwgal, Slofacia, Slofenia, Sbaen, Y Swistir ac Unol Daleithiau America.

Ar hyn o bryd, cafwyd mwy o achosion yn y DU nag yn unman arall yn y byd, gyda chyfanswm o tua 180,000 o achosion hyd yn hyn. Bu’r epidemig yn y DU yn gostwng ers llawer o flynyddoedd ac erbyn 2002 roedd cyfanswm nifer yr achosion newydd wedi gostwng i’r pwynt isaf ers dechrau cadw cofnodion ym 1988. Parhaodd nifer yr achosion i ostwng yn 2003 a 2004.

Pam fod BSE mor gyffredin yn y DU cyn rhoi rheolaethau effeithiol ar waith?

Nid ydym yn gwybod o hyd sut y dechreuodd BSE yn y DU. Ond roedd defnydd helaeth ar MBM mewn bwyd gwartheg yn y wlad hon yn golygu y lledaenodd BSE yn gyflym ar ôl iddo ddechrau.

Cynhyrchion cig eidion a chig a fewnforir


Rhaid i holl wledydd yr UE sicrhau bod cig eidion a chynhyrchion cig eidion yn cydymffurfio â rheolaethau a gynlluniwyd i leihau’r risg o BSE.

Er mwyn gallu ei fewnforio i’r EU, rhaid ardystio cig a chynhyrchion cig i ddangos y gwaredwyd unrhyw SRM ohonynt.

I helpu defnyddwyr i wybod o ble y daw’r cig eidion a brynir ganddynt, mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cyhoeddi arweiniad ynghylch labelu bwyd. Mae’r rheolaethau labelu cig eidion, sy’n cynnwys darnau o gig eidion a brwgig.

A all defaid a geifr ddioddef BSE?


Ym mis Ionawr 2005, cadarnhaodd y Comisiwn Ewropeaidd i BSE gael ei ganfod mewn gafr a fu farw yn Ffrainc yn 2002. Ar 8 Chwefror 2005 hefyd, cyhoeddodd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig y DU ei fod yn bosibl bod gafr o’r Alban, a fu farw ym 1990, yn dioddef BSE. Bydd profion pellach yn cymryd hyd at ddwy flynedd i gadarnhau hyn.

Ni chanfuwyd BSE ym mhoblogaeth eifr bresennol y DU, nac mewn 140,000 o eifr a brofwyd ledled Ewrop ers 2002, ar wahân i’r achos a gafwyd yn Ffrainc.

Deellir erbyn hyn y gallai’r heintiad BSE fod wedi’i ledaenu trwy fwydo blawd cig ac esgyrn (MBM) i anifeiliaid fferm. Cyflwynwyd gwaharddiad llawn ar fwydo MBM i anifeiliaid fferm yn y DU ym 1996. Wedi hyn, estynnwyd y gwaharddiad hwn ledled Ewrop yn 2001.

Gallai hyn esbonio sut y cafodd y ddwy afr BSE, oherwydd yn y ddau achos roedd y geifr yn fyw cyn cyflwyno’r gwaharddiadau perthnasol ar fwydydd anifeiliaid.

Mae’n annhebygol bod llawer o eifr, os o gwbl, a aned cyn 1990 yn fyw o hyd heddiw.

Ni chaniateir i unrhyw afr sy’n dangos arwyddion o unrhyw glefyd yr ymennydd, fel BSE, gael mynediad i’r gadwyn fwyd. Mae rheolau ar waith hefyd i waredu rhai o rannau geifr a allai fod yn heintus o ran BSE, fel y llinyn asgwrn cefn. Fodd bynnag, ni fyddai’r rheolaethau BSE presennol yn gwaredu’r heintusrwydd posibl yn gyfan gwbl, ac nid yw’n hysbys a yw’n bosibl i BSE gael ei drosglwyddo rhwng cenedlaethau o eifr neu a ellir ei drosglwyddo drwy’r amgylchedd.

Mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn cynyddu’r profion ar eifr i bennu a yw’r achos yn Ffrainc yn ddigwyddiad unigryw. Bydd Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop yn ystyried canlyniadau’r profion ychwanegol hyn ledled Ewrop.

Ni ddaethpwyd o hyd i BSE ym mhraidd defaid y DU erioed. Fodd bynnag, bwytaodd rhai defaid yr un bwyd anifeiliaid (MBM) yr ystyrir iddo achosi BSE mewn gwartheg, ac mae ymchwil mewn labordai wedi dangos y gellir heintio defaid yn artiffisial â BSE. Felly, mae risg bosibl bod BSE yn bresennol mewn defaid. Fel mesur rhagofalus, felly, rhaid gwaredu SRM o ddefaid sy’n mynd i’r gadwyn fwyd hefyd.

Cyngor yr Asiantaeth Safonau Bwyd o hyd yw nad ydym yn cynghori yn erbyn bwyta cig defaid neu eifr na chynhyrchion llaeth.