Text only

Alwminiwm


Foil containers

Gall alwminiwm fod yn bresennol yn naturiol mewn bwyd, ac weithiau caiff ei ychwanegu wrth brosesu bwyd. Ond gall alwminiwm fynd i fwyd o bedyll coginio, hambyrddau pobi, offer a deunyddiau pecynnu hefyd.




Pam y mae alwminiwm i’w ganfod mewn bwyd?

Gall planhigion amsugno alwminiwm o’r pridd ac o ddŵr. Felly gall rhai planhigion, fel te a rhai perlysiau a llysiau deiliog, gronni lefelau uchel o alwminiwm yn naturiol.

Gall alwminiwm gael ei ychwanegu at fwyd wrth ei brosesu hefyd. Mae rhai ychwanegion bwyd yn cynnwys alwminiwm hefyd. Defnyddir y rhain mewn bwydydd fel cynhyrchion pobi, bwydydd a diodydd powdr sych, a chawsiau prosesedig i wella’r ansawdd.

Yn ogystal, gall alwminiwm fynd i fwyd o offer coginio sy’n cynnwys alwminiwm ac o ddeunydd pecynnu fel ffoil a chartonau alwminiwm.

Coginio a chadw bwyd

Y peth gorau yw peidio â defnyddio cynhyrchion alwminiwm i goginio na chadw bwydydd sy’n hynod asidig, fel:
  • tomatos
  • riwbob
  • bresych
  • llawer o ffrwythau meddal
Y rheswm dros hyn yw y gall alwminiwm effeithio ar flas y mathau hyn o fwyd, yn arbennig os cânt eu cadw mewn cynwysyddion alwminiwm am gyfnod hir.

Canfu un astudiaeth y daw tua 20% o’r alwminiwm yn y deiet o ddefnyddio offer coginio a ffoil alwminiwm. Ond mae astudiaethau eraill wedi dangos mai ychydig a gyfrannir gan ddefnyddio offer coginio alwminiwm at faint o alwminiwm a gymerwn gyda’n bwyd.

A yw alwminiwm yn achosi clefyd Alzheimer?

Gwnaed llawer o ymchwil i’r maes hwn yn ystod y 40 mlynedd diwethaf. Ym 1997, nododd Sefydliad Iechyd y Byd nad oedd wedi canfod unrhyw dystiolaeth bod alwminiwm yn risg i iechyd pobl iach nad oeddent mewn cysylltiad ag alwminiwm o ganlyniad i’w swyddi, ac nad oedd unrhyw dystiolaeth bod alwminiwm yn un o brif achosion clefyd Alzheimer.

Sut y caiff lefelau alwminiwm mewn bwyd eu rheoli?

Mae’r rheolau sy’n cynnwys metelau mewn bwyd yn ei wneud yn ofynnol nad yw deunyddiau, fel alwminiwm, a ychwanegir at fwyd neu a ddaw i gysylltiad â bwyd, yn achosi bod y bwyd hwnnw’n niweidiol. Mae’r rheolau hyn hefyd yn sicrhau nad yw metelau fel alwminiwm yn newid natur, sylwedd nac ansawdd y bwyd.

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn mesur yn rheolaidd faint o alwminiwm sydd yn neiet y DU ar gyfartaledd. Yn yr arolwg diweddaraf, a wnaed yn 2000, roedd yr alwminiwm a gymerwyd fel rhan o’r deiet ym mhell oddi mewn i’r canllaw diogelwch a osodwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd.