Text only

Acrylamid


crisps

Cemegyn yw acrylamid sydd i’w ganfod mewn bwydydd â starts sydd wedi’u coginio ar dymheredd uchel. Mae’r rhain yn cynnwys creision, sglodion, bara a bara crimp. Cafodd ei ddarganfod am y tro cyntaf gan wyddonwyr yn Sweden yn 2002.

Mae acrylamid yn achosi canser mewn anifeiliaid, ac felly mae’n bosibl y gall niweidio iechyd pobl hefyd.




Caiff acrylamid ei gynhyrchu yn naturiol

Caiff acrylamid ei gynhyrchu yn naturiol pan gaiff bwydydd â starts eu coginio ar dymheredd uchel.

O’r ymchwil sydd wedi’i gynnal hyd yn hyn, mae’n ymddangos nad yw’r broses o ferwi bwyd yn cynhyrchu acrylamid.

Nid yw’n bosibl atal acrylamid rhag cael ei gynhyrchu na chael gwared arno o fwydydd unwaith y bydd wedi’i gynhyrchu. O ganlyniad, mae ymchwil yn cael ei gynnal i geisio darganfod sut y gellir lleihau lefelau’r acrylamid sy’n cael ei gynhyrchu mewn bwyd.

Coginio a storio tatws

Os hoffet ti geisio lleihau faint o acrylamid sydd yn dy ddeiet, dyma gyngor ar sut i goginio a storio tatws.

Dylet gadw tatws mewn man oer a sych ond nid yn yr oergell. Os caiff tatws eu rhoi yn yr oergell, gall hyn gynyddu faint o siwgr sydd ynddynt a allai yn ei dro gynyddu lefelau’r acrylamid fydd yn y tatws wrth iddynt gael eu rhostio, eu pobi neu eu ffrio ar dymheredd uchel.

Ar ben hyn, mae ymchwil sydd wedi’i gynnal gan yr Asiantaeth wedi dangos, os byddi di’n gwneud dy sglodion dy hun, byddant yn cynnwys llai o acrylamid wrth iddynt gael eu coginio nes eu bod yn lliw golau yn hytrach nag yn lliw tywyll. Mae modd i ti hefyd leihau lefelau acrylamid drwy socian tatws mewn dŵr am 30 munud cyn i ti eu ffrio. Ond cofia, dylet sychu’r dŵr oddi ar y sglodion cyn eu taro yn yr olew poeth. Os byddi’n defnyddio sglodion wedi’u rhewi, bydd lefelau’r acrylamid yn is os byddi’n dilyn y cyfarwyddiadau coginio sydd ar y pecyn.

A yw bwydydd cartref yn fwy diogel?

Cynhaliodd yr Asiantaeth ymchwil a oedd yn cynnwys profi bwydydd a oedd wedi cael eu coginio ymlaen llaw, a oedd wedi eu prosesu ac a gafodd eu pecynnu, yn ogystal â sglodion a gafodd eu paratoi o datws ac a gafodd eu coginio gan yr ymchwilwyr. Canfuwyd lefelau uchel yn y bwydydd cartref a’r bwydydd wedi’u prosesu.

Beth mae’r Asiantaeth yn ei wneud am acrylamid?

Ers i wyddonwyr yn Sweden ddarganfod acrylamid am y tro cyntaf, mae’r Asiantaeth wedi cynnal ei hymchwil ei hun, sydd wedi cadarnhau’r canfyddiadau gwreiddiol. Mae hefyd wedi chwarae rôl sylweddol wrth gyfrannu at ymdrechion Ewropeaidd a rhyngwladol i ganfod sut mae acrylamid yn ffurfio mewn bwyd.

Er bod rhai astudiaethau eisoes wedi’u cynnal, mae angen mwy o ymchwil i ganfod beth yw’r ffordd orau o ddatrys y mater. Fel rhan o’r ymdrechion rhyngwladol i gynnal ymchwil i acrylamid, mae’r Asiantaeth yn parhau i ariannu ymchwil.

Mae ymchwil yr Asiantaeth yn cynnwys prosiectau sy’n ymchwilio i acrylamid yn neiet trigolion y DU, effaith coginio cartref ar acrylamid mewn bwyd, sut y mae acrylamid yn ffurfio a sut y gellid lleihau lefelau acrylamid. Y brif nod yw lleihau’r acrylamid sy’n bresennol mewn bwyd.

A oes unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol wedi’u gosod ar gyfer acrylamid?

Nid oes terfyn cyffredinol wedi’i bennu ar gyfer acrylamid mewn bwyd gan y dylid cadw lefelau’r math hwn o gemegyn mor isel ag y bo’n rhesymol ymarferol. Mae cyfyngiad cyfreithiol wedi’i osod ar gyfer acrylamid a ddaw i gysylltiad â bwyd o blastig, e.e. pecynnu, fel na ddylid canfod acrylamid o’r ffynhonnell hon mewn bwyd ar lefel o 10 rhan y filiwn neu’n uwch.