BPA (Bisphenol-A)
Cemegyn a gaiff ei ddefnyddio i wneud plastig caled yw BPA ac mae i’w ganfod mewn pob math o gynhyrchion, o oleuadau car i gynhwysyddion bwyd, gan gynnwys poteli babi. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio yn y gorchudd a ddefnyddir y tu mewn i duniau bwyd, i atal y metel rhag mynd i mewn i’r bwyd.
A yw BPA yn ddiogel?
Mae arbenigwyr annibynnol wedi nodi faint o BPA sy’n ddiogel i ni ei gael bob dydd yn ystod ein bywydau heb i ni ddod i unrhyw niwed, ac mae lefel y BPA y mae pobl yn ei amsugno o fwyd a diod mewn gwirionedd yn llai o lawer na’r lefel hon. Mae’n wir y gall meintiau bach iawn o BPA drosglwyddo o becynnau bwyd i mewn i fwyd a diod, ond nid yw’r lefelau hyn yn niweidiol.BPA mewn poteli babi
Mae’r holl boteli babi sydd ar werth yn y DU wedi bod yn destun profion llym iawn i sicrhau eu bod yn ddiogel. Mae’r poteli hyn yn ddiogel os wyt ti’n eu defnyddio’n gywir ac yn dilyn cyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchwr. Yn gyffredinol, mae poteli plastig a chynhwysyddion eraill yn ddiogel i’w defnyddio (a’u hailddefnyddio) oni bai eu bod wedi’u difrodi neu wedi’u crafu. Mae hi hefyd yn ddiogel cynhesu bwyd mewn cynhwysyddion plastig, un ai mewn dŵr poeth neu yn y micro-don, os yw’r label yn nodi ei bod hi’n iawn gwneud hynny.Gelli brynu poteli babi nad ydynt yn cynnwys BPA ond ni ddylet ti boeni os wyt ti wedi bod yn defnyddio poteli cyffredin, ac nid oes angen i ti daflu hen boteli oni bai eu bod wedi’u difrodi.
Efallai dy fod wedi clywed fod rhai gwledydd wedi gwahardd y defnydd o BPA mewn poteli babi er mwyn bod yn rhagofalus, ond o edrych ar y dystiolaeth wyddonol sydd ar gael, nid ydym o’r farn bod angen gwneud hynny. Bydd unrhyw wybodaeth ychwanegol a gyhoeddir yn cael ei hadolygu gan arbenigwyr yn y DU ac Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop er mwyn gwneud yn siŵr nad oes angen i ni newid ein cyngor.





