Text only

Diabetes


woman older Mae diabetes yn datblygu pan na all y corff ddefnyddio glwcos yn iawn. O ganlyniad, os na reolir y cyflwr, gall pobl â diabetes gael lefelau anarferol o uchel o glwcos yn y gwaed.


Mathau o ddiabetes

Mae dau fath o ddiabetes, sef Math 1 a Math 2. Mae Math 1 yn fwy tebygol o gael ei ganfod mewn pobl ifanc, ond gall ddatblygu ar unrhyw gyfnod mewn bywyd. Yn y DU, mae tua 18,000 o bobl dan 18 oed yn dioddef o ddiabetes Math 1. Mae’n datblygu pan fydd y celloedd yn y pancreas sy’n cynhyrchu inswlin yn cael eu dinistrio. Hormon yw inswlin sy’n rheoleiddio lefel y glwcos yn y gwaed. Caiff y math hwn o ddiabetes ei drin â phigiadau inswlin.

Fel arfer, pobl hŷn fydd yn dioddef diabetes Math 2 - ac mae'r perygl yn cynyddu wrth i bobl fynd yn hŷn. Fodd bynnag, mae’n dod yn fwyfwy cyffredin ymhlith pobl iau ac weithiau mewn plant. Gellir trin y math hwn o ddiabetes drwy gynnal deiet iach a gwneud ymarfer corff, er yn aml bydd angen meddyginiaeth ar bobl â diabetes Math 2, ac weithiau bydd angen inswlin hefyd.

Effeithiau ar iechyd

Gall pobl â diabetes fyw bywyd normal ac iach. Fodd bynnag, gall diabetes a reolir yn wael arwain at gymhlethdodau fel clefyd y galon, clefyd yr arennau, dallineb a phroblemau nerfol sy’n arwain at golli rhannau o’r corff.

Yn achos y ddau fath o ddiabetes, mae’n hynod bwysig rheoli lefelau siwgr yn y gwaed a phwysedd gwaed i atal unrhyw gymhlethdodau hirdymor.

Diabetes yw’r trydydd clefyd hirdymor mwyaf cyffredin yn y DU, ar ôl clefyd y galon a chanser.

Pwy sy’n datblygu diabetes?

Nid yw unrhyw un yn siŵr pam fod pobl yn datblygu diabetes Math 1, ond mae pobl a chanddynt berthynas sy’n dioddef diabetes yn fwy tebygol o ddatblygu’r cyflwr.

Rydych yn fwy tebygol o ddatblygu diabetes Math 2 os:
  • oes gennych berthynas â diabetes (fel rhiant, brawd neu chwaer)
  • ydych yn cario gormod o bwysau
  • ydych yn hŷn na 40
  • ydych o darddiad Asiaidd neu Affricanaidd-Caribiaidd
  • ydych chi wedi dioddef diabetes yn ystod beichiogrwydd
Nid oes unrhyw ffordd warantedig o atal diabetes. Fodd bynnag, gall bwyta deiet iach a chytbwys, cymryd ymarfer corff rheolaidd, a cholli pwysau os ydych chi’n rhy drwm, oedi cychwyniad y cyflwr.

A oes modd atal diabetes?

Nid oes unrhyw ffordd sicr o atal diabetes. Fodd bynnag, gall bwyta deiet iach a chytbwys, gwneud ymarfer corff yn rheolaidd, a cholli pwysau os wyt ti dros dy bwysau, oedi'r cyflwr rhag dechrau.

Cynhyrchion ar gyfer diabetes

Nid yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd na Diabetes UK (British Diabetic Association gynt) yn argymell unrhyw gynhyrchion ar gyfer diabetes.

Nid yw bwydydd sydd wedi’u labelu'n fwydydd 'diabetig', o reidrwydd, yn iachach nac yn fwy addas i bobl ddiabetig na bwydydd eraill. Ac maent yn dueddol o fod yn ddrytach na chynhyrchion eraill.

Losin, siocled a bisgedi yw llawer o’r cynhyrchion sydd wedi'u labelu'n fwydydd 'diabetig'. Dylai pob un ohonom osgoi bwyta llawer o’r mathau hyn o fwydydd.

Beth ddylai pobl â diabetes ei fwyta?

Dylai pobl â diabetes geisio cadw at bwysau iach a bwyta deiet sy’n:
  • isel mewn braster (yn arbennig braster dirlawn)
  • isel mewn siwgr
  • isel mewn halen
  • uchel mewn ffrwythau a llysiau (o leiaf pum dogn y dydd)
  • uchel mewn bwydydd carbohydrad llawn starts, fel bara, bara chapatti, reis, pasta ac iams (dylai’r rhain fod yn sylfaen i brydau) – dewisa fathau grawn cyflawn pan fydd modd
Nid oes unrhyw fwydydd na ddylai pobl â diabetes byth eu bwyta. Ac nid oes angen torri pob ffynhonnell siwgr o’r deiet. Ond, fel pawb, dylai pobl â diabetes geisio bwyta ychydig o fwydydd yn unig sy’n uchel mewn siwgr neu fraster, neu’r ddau. Os wyt ti'n dioddef o ddiabetes, gelli fwyta cacennau a bisgedi o bryd i’w gilydd, ond fel rhan o ddeiet cytbwys.

Mae sudd ffrwythau yn uchel mewn ffrwctos (siwgr ffrwythau) felly gall achosi i lefel y siwgr yn y gwaed godi’n sydyn. O ganlyniad i hyn, mae’n ddoeth i bobl â diabetes yfed diod ffrwythau gyda phryd o fwyd ac osgoi cael mwy nag un gwydraid bach y dydd.

Os wyt ti'n dueddol o ddioddef siwgr gwaed isel (hypoglycemia), efallai y bydd angen i ti gynyddu lefel y siwgr yn dy waed yn gyflym o bryd i’w gilydd. Os wyt ti'n dioddef pwl hypoglycemig, dylet gael carbohydrad sy’n gweithredu'n gyflym, fel diod llawn siwgr neu dabledi glwcos, a dilyn hyn â byrbryd llawn starts, fel brechdan.

Gall dy feddyg teulu neu nyrs diabetes dy gynghori ar sut i baratoi ar gyfer pwl o hypoglycemia, a sut i’w reoli.