Text only

Canser

Mae canser yn glefyd sy'n effeithio ar gelloedd y corff. Fel arfer, bydd celloedd iach yn ymrannu pan fydd angen eu hamnewid. Ond pan fydd ein DNA (y deunydd genetig yn ein celloedd) yn cael ei ddifrodi, mae’r celloedd yn parhau i ymrannu tan i lwmp neu diwmor ddatblygu. Mewn rhai achosion, gall y tiwmorau hyn ymledu i rannau eraill o’r corff.

Gallwn helpu i leihau’r risg o ddatblygu canser drwy fwyta deiet cytbwys ac iach sy’n isel mewn braster (yn arbennig braster dirlawn),yn isel mewn halen a siwgr, yn cynnwys digon o ffrwythau a llysiau a digon o fwydydd â starts grawn cyflawn.

Mae’r adran hon yn esbonio beth sy’n achosi canser, sut y gall ein deiet a’n ffordd o fyw effeithio ar y perygl o ddatblygu mathau penodol o ganser, a hefyd yn darparu gwybodaeth am y pedwar math mwyaf cyffredin o ganser: canser y fron, canser yr ysgyfaint, canser y colon a’r rhefr a chanser y prostad.
microscope closeup

Beth sy’n achosi canser?

Dysga beth sy’n achosi canser, pwy sydd mewn perygl, a pham
 

 
woman looking upwards

Deiet a ffordd iach o fyw

Sut y gall deiet a ffordd o fyw effeithio ar y perygl o ddatblygu canser
 

 
fruit citrus

Y mathau mwyaf cyffredin o ganser

Darllena am y pedwar canser mwyaf cyffredin yn y DU a sut y gall yr hyn yr ydym yn ei fwyta a’i yfed effeithio ar y perygl o’u datblygu