Text only

Canser


beans green

Clefyd sy'n effeithio ar gelloedd bach y corff yw canser. Fel arfer, bydd celloedd iach yn ymrannu pan fydd angen eu hamnewid. Ond pan fydd y broses hon yn mynd o chwith, bydd y gell yn parhau i ymrannu tan i lwmp neu diwmor ddatblygu. Mewn rhai achosion, gall y tiwmorau hyn ymledu i rannau eraill o’r corff.




Pwy sydd mewn perygl o ddatblygu canser?

Ystyrir bod llawer o bethau’n cynyddu’r risg o ddatblygu canser, rhai ohonynt nad oes gennym unrhyw reolaeth drostynt, fel hanes o ganser yn y teulu. Ond mae hefyd llawer y gallwn ni ei wneud i leihau’r risg. Yn ogystal â rhoi’r gorau i ysmygu ac osgoi llosgi yn yr haul, mae bwyta deiet iach a chytbwys yn hynod bwysig. Gallai’r hyn yr ydym yn ei fwyta ein helpu i osgoi tua thraean o’r holl ganserau. Mae llawer o fathau gwahanol, ond ystyrir bod deiet yn effeithio ar y perygl o ddatblygu canserau fel canser y coluddyn, canser y stumog a chanser yr ysgyfaint. Os wyt ti'n poeni am dy iechyd, cysyllta â’th feddyg teulu.



Pa gyngor deietegol sydd ar gael?

I osgoi cynyddu ein risg o ddatblygu canser, dylem fwyta deiet iach a chytbwys. I’r rhan fwyaf o bobl, mae hyn yn golygu bwyta mwy o ffrwythau a llysiau, a mwy o fwydydd â starts fel bara, pasta, reis, grawnfwydydd a thatws. Dyma restr o’r pethau pwysig i’w cofio:

  • Cofia fwyta o leiaf pum dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd, gan fwyta amrywiaeth ohonoynt.
  • Cofia fwyta mwy o fwydydd â starts, a cheisia ddewis mathau sy'n uchel mewn ffeibr, fel bara cyflawn a reis brown.
  • Ceisia gynnal pwysau iach.
  • Os wyt ti'n bwyta llawer o gig coch neu gig wedi'i brosesu, fel byrgyrs neu selsig bob wythnos, ceisia fwyta llai.
  • Cofia osgoi fwyta gormod o fwydydd llawn halen, bwydydd wedi’u halltu neu fwydydd mwg fel cig a physgod.
  • Ceisia yfed symiau cymedrol o alcohol yn unig.



Beth am 'beta-garoten'?

Wrth fwyta llawer o ffrwythau a llysiau, byddi di'n cael digon o 'beta-garoten' yn dy ddeiet. Mae’r corff yn trosi hwn yn fitamin A, sy’n gallu helpu i amddiffyn yn erbyn canser. Ond paid â chymryd atchwanegiadau beta-garoten i dy amddiffyn yn erbyn canser oherwydd fe all dosau uchel achosi canser. I’r rhan fwyaf o bobl, mae deiet iach a chytbwys yn cynnwys yr holl fitaminau a'r mwynau sydd eu hangen arnom.