Text only

Deall E-rifau


e numbers

Am gyngor a gwybodaeth am liwiau bwyd gweler yr adran 'Lliwiau' isod. Mae'r adran hon hefyd yn cynnwys cyngor yr Asiantaeth am rai lliwiau bwyd artiffisial a gorfywiogrwydd.

Os oes E-rif gan ychwanegyn bwyd, mae hynny'n dangos ei fod wedi bodloni profion diogelwch a'i fod wedi'i gymeradwyo i'w ddefnyddio ledled yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r gymeradwyaeth hon yn cael ei monitro, ei hadolygu a'i diwygio yn sgil data gwyddonol newydd.

Mae'n rhaid cynnwys y mwyafrif o ychwanegion bwyd yn y rhestr cynhwysion naill ai wrth eu henw neu wrth eu E-rif. Mae'r rhestr cynhwysion hefyd yn nodi pa swyddogaeth a gyflawnir gan yr ychwanegyn, er enghraifft ychwanegu lliw neu weithredu fel cyffeithydd.

Darllena isod i ddysgu pa fathau o ychwanegion yr wyt ti fwyaf tebyg o'u gweld ar labeli bwyd.




Gwrthocsidyddion a chyffeithyddion


Gwrthocsidyddion

butter Mae unrhyw fwyd sydd wedi'i wneud gan ddefnyddio braster neu olew - o beis cig i mayonnaise - yn debygol o gynnwys gwrthocsidyddion.

Mae rhain yn gwneud i fwyd bara'n hirach drwy helpu i atal y braster, yr olew, a rhai fitaminau rhag cyfuno â'r ocsigen yn yr aer – dyna'r broses sy'n gwneud i fwyd 'ddechrau troi' – sef suro a cholli ei liw.

Fitamin C, sydd hefyd yn cael ei alw'n asid asgorbig neu E300, yw un o'r gwrthocsidyddion a ddefnyddir amlaf.

Cyffeithyddion

meat salami Mae'r rhain yn helpu i atal bwyd rhag mynd yn ddrwg ac yn golygu y gellir cadw bwyd yn ddiogel am fwy o amser.

Mae'r rhan fwyaf o'r bwydydd sydd ag oes silff hir yn debygol o gynnwys cyffeithyddion, oni bai y defnyddiwyd rhyw ddull arall o gadw'r bwyd rhag troi, megis rhewi, ei roi mewn tun neu ei sychu.

Er enghraifft, i atal llwydni neu facteria rhag tyfu, mae ffrwythau wedi'u sychu yn aml yn cael eu trin â sylffwr deuocsid (E220); tra bo bacwn, ham, corn-bîff, a chigoedd eraill a helltir yn aml yn cael eu trin gyda nitraid a nitrad (E249 i E252) yn ystod y broses halltu.

Defnyddir cyffeithyddion mwy traddodiadol hefyd, megis siwgr, halen a finegr i gadw rhai bwydydd.

Lliwiau


smarties Caiff rhain eu defnyddio weithiau i gymryd lle lliw naturiol a gollir wrth brosesu neu storio bwyd, neu i gysoni lliw cynnyrch.

Dau o'r lliwiau mwyaf cyffredin yw caramel (E150a), a ddefnyddir mewn cynhyrchion megis grefi a diodydd ysgafn, a cwrcwmin (E100), lliw melyn a dynnir allan o wreiddiau tyrmerig.

Ym marn rhai pobl mae ychwanegu lliw yn gwneud i fwyd edrych yn fwy atyniadol, tra mae pobl eraill o'r farn bod ychwanegu lliwiau yn ddi-angen ac yn gamarweiniol.

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn gweithio ym maes lliwiau bwyd:
  • i sicrhau nad yw eu presenoldeb mewn bwyd yn amharu ar ddiogelwch bwyd

  • i gefnogi ein mewnbwn i drafodaethau yn yr Undeb Ewropeaidd ynghylch defnyddio lliwiau mewn bwyd
Mae rhai cyfuniadau o'r lliwiau bwyd artiffisial canlynol wedi eu cysylltu ag effaith negyddol ar ymddygiad plant: melyn y machlud/sunset yellow (E110), melyn cwinolin/quinoline yellow(E104), carmoisine (E122), coch alwra/allura red (E129), tartrasin/tartrazine (E102) a choch llachar 4R/ponceau 4R (E124)

Defnyddir y lliwiau hyn mewn diodydd meddal, fferins a hufen iâ.

Os yw dy blentyn yn arddangos symptomau o orfywiogrwydd neu Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd, dylet geisio osgoi yr ychwanegion hyn gan y gallai hynny helpu i wella ei ymddygiad.

Am ragor o wybodaeth gweler y ddolen isod.

Emylsyddion, sefydlogion, sylweddau gelio a thewychwyr


Jam Mae emylsyddion megis y lecithinau (E322), yn helpu i gymysgu cynhwysion a fyddai fel arfer yn gwahanu, megis olew a dŵr, er enghraifft.

Mae sefydlogion megis gwm cnau carob/locust bean gum (E410) a wneir o gnau carob yn helpu i atal y cynhwysion hyn rhag gwahanu eto.

Mae emylsyddion a sefydlogion hefyd yn rhoi gwead cyson i fwydydd. Cânt eu defnyddio mewn sbrediau braster isel a bwydydd sawrus a melys eraill.

Y sylwedd gelio mwyaf cyffredin yw pectin (E440) a ddefnyddir i wneud jam. Pwrpas y sylweddau gelio yw newid trwch y bwyd. Mae tewychwyr yn helpu i roi 'corff' yn y bwyd, yn y modd y defnyddir blawd i wneud saws yn fwy trwchus.

Sylweddau gwella blas a chyflasynnau


sauce red Mae sylweddau gwella blas a chyflasynnau yn cael ei defnyddio i wella blas amrywiaeth o fwydydd sawrus a melys, heb ychwanegu unrhyw flas eu hunain.

Un enghraifft yw monosodiwm glwtamad (E621), sydd hefyd yn cael ei alw'n MSG, a ychwanegir at fwydydd sydd wedi'u prosesu, yn enwedig cawl, sawsiau a selsig.

Mae sylweddau gwella blas yn cael eu defnyddio mewn amrywiaeth o fwydydd eraill hefyd, gan gynnwys byrbrydau blasus, bwydydd parod a chonfennau.

Mae cyflasynnau, ar y llaw arall, yn cael eu hychwanegu at amrywiaeth o fwydydd, fel arfer mewn meintiau bach iawn, i ychwanegu blas neu arogl arbennig.

Ni roddir E-rifau i'r cyflasynnau gan eu bod yn cael eu rheoli o dan ddeddfwriaeth wahanol i'r ychwanegion bwyd eraill.

Bydd y rhestr gynhwysion yn nodi a ddefnyddiwyd cyflasynnau yn y bywyd, ond efallai na fydd cyflasynnau unigol yn cael eu henwi.

Melysyddion


cola cans open Gan eu bod yn is o ran calorïau o gymharu â siwgr, ac yn fwy diogel i'r dannedd, mae melysyddion yn aml yn cael eu defnyddio yn lle siwgr mewn cynhyrchion megis diodydd pop, iogwrt a gwm cnoi.

Mae 'melysyddion dwys' megis aspartame (E951), sacarin (saccharin) (E954) ac acesulfame-K (E950) yn llawer mwy melys na siwgr ac felly dim ond ychydig iawn ohonynt a ddefnyddir.

Mae melysyddion swmp, megis sorbitol (E420) yn debyg i siwgr o ran melyster, ac felly'n cael eu defnyddio mewn meintiau tebyg i siwgr.

Felly, os wyt ti'n rhoi diod ysgafn grynodedig i blant o dan 4 mlwydd oed, mae'n bwysig ychwanegu rhagor o ddŵr na fyddet ar gyfer oedolion, rhag i'r plant gael gormod o'r melysydd.