Labeli goleuadau traffig
Dychmyga dy fod yn sefyll mewn archfarchnad yn ceisio dewis rhwng dau gynnyrch tebyg. Rwyt ti am ddewis yr iachaf o'r ddau, ond, fel arfer, rwyt ti ar frys. Wel, mae help wrth law.
Mae mwy a mwy o archfarchnadoedd a gwneuthurwyr bwyd bellach yn defnyddio lliwiau goleuadau traffig ar labeli rhai o'u cynhyrchion, i dy helpu i ddewis.


Beth yw ystyr y lliwiau?
Gyda'r goleuadau traffig, mae'n bosibl gweld ar unwaith a yw 100g o'r bwyd dan sylw yn cynnwys lefel uchel, canolig neu isel o fraster, braster dirlawn, siwgr a halen. Yn ogystal â'r goleuadau traffig, mae hefyd yn bosibl gweld faint o'r maethynnau hyn sy'n bresennol mewn dogn neu blatiad o'r bwyd.
Mae'r goleuadau traffig hefyd y dangos i ti sawl gram o fraster, braster dirlawn, halen a siwgr sydd yn yr hyn y mae'r gwneuthurwr neu'r manwerthwr yn awgrymu yw 'platiad' o'r bwyd hwnnw.
Felly, os weli di olau coch ar du blaen y pecyn, rwyt ti'n gwybod bod y bwyd hwnnw'n cynnwys llawer o rywbeth y dylem fwyta llai ohono. Efallai ei fod yn iawn i'w fwyta nawr ac yn y man, neu fel 'trît', ond bydda'n ofalus pa mor aml yr wyt ti'n dewis y bwydydd hyn, neu ceisia eu bwyta mewn dognau llai.
Os weli di'r lliw ambr, rwyt ti'n gwybod nad yw'r bwyd yn uchel nac yn isel yn y maethyn dan sylw; felly mae'n ddewis iawn gan amlaf, ond hwyrach y dylet ddewis gwyrdd ar gyfer y maethyn hwnnw weithiau.
Mae gwyrdd yn golygu bod y bwyd yn isel yn y maethyn dan sylw. Po fwyaf o oleuadau gwyrdd yr wyt ti'n eu dewis, y iachaf fydd dy ddewis.
Yn achos llawer o'r bwydydd sydd â 'goleuadau traffig' arnynt yn y siopau, fel arfer bydd cymysgedd o goch, ambr a gwyrdd. Felly, wrth benderfynu rhwng cynhyrchion o'r un math, dylet ddewis mwy o wyrdd ac ambr, a llai o goch, os wyt ti am wneud y dewis iachaf.
Bydd y lliwiau goleuadau traffig yn ei gwneud yn haws i ti gymharu cynhyrchion yn y fan a'r lle. Mae'r label hefyd yn dangos faint o bob maethyn sydd mewn dogn, felly os oes gan ddau gynnyrch liwiau tebyg, mae'n bosibl i ti gymharu'r ffigurau hyn a dewis yr un isaf er mwyn gwneud dewis iachach.
Ond cofia mai'r peth hollbwysig yw cael cydbwysedd cywir yn ein deiet yn gyffredinol.
Sut mae'r lliwiau goleuadau traffig yn cyd-fynd â deiet iach?
- seilio dy brydau ar fwydydd â starts megis bara grawn cyflawn, pasta a reis
- bwyta digonedd o ffrwythau a llysiau, sy'n golygu ceisio bwyta o leiaf pum dogn o amrywiaeth ohonynt bob dydd
- cael rhywfaint o fwyd sy'n uchel mewn protein megis cig, pysgod, codlysiau, llaeth a bwydydd llaeth
- bwyta cyn lleied â phosibl o fwydydd (a diodydd) sy'n uchel mewn braster, yn enwedig braster dirlawn, siwgrau neu halen.
Nid yw gwneud dewis iach yn hawdd bob amser – weithiau, mae angen cofio cymaint o wahanol bethau. Ond gyda'r lliwiau goleuadau traffig newydd, yn unig beth sydd yn rhaid i ti ei wneud yw dewis cymaint o wyrdd ag y gelli, ac osgoi dewis gormod o goch. Fel hyn, byddi di'n siwr dy fod wedi dewis bwydydd iachach.
Dylet gofio hefyd er bod rhai cynhyrchion yn cynnwys llawer o siwgrau, gallant fod yn ddewisiadau iachach os ydynt yn cynnwys llawer o ffrwythau. Gelli edrych ar y rhestr o gynhwysion i weld faint o ffrwyth sydd mewn cynnyrch. Yr uchaf yw'r ffrwyth ar y rhestr, y mwyaf o'r ffrwyth hwnnw sydd yn y cynnyrch.
Edrycha i weld
Ceisia gymharu'r braster a'r halen yn dy hoff frechdan â brechdanau eraill. Er enghraifft, mae brechdan ciwcymbr ac eog wedi'i botsio yn cario 3 golau gwyrdd. Beth am dy frechdan di?
Sut mae gwahanol oleuadau traffig yn edrych?
Isod mae rhai enghreifftiau o labeli sydd i'w gweld mewn siopau ar hyn o bryd. Clicia ar bob un i'w wneud yn fwy.
Er y gall labeli goleuadau traffig edrych yn wahanol, mae dal yn bosibl i ti gymharu'r bwydydd hyn oherwydd bod pob un o'r cwmnïau yn dilyn canllawiau'r Asiantaeth Safonau Bwyd. Felly pan fyddi di, er enghraifft, yn ceisio penderfynu rhwng dau bizza, edrycha ar y lliwia er mwyn gwneud dewis iachach.
Pa fwydydd sydd â'r lliwiau goleuadau traffig arnyn nhw?
Mae'r holl weithgynhyrchwyr a manwerthwyr a ddangosir uchod i gyd yn defnyddio labeli goleuadau traffig ar rai neu pob un o'u cynhyrchion, ac mae'r Asiantaeth hefyd yn cynnal trafodaethau â chwmnïau eraill sy'n ystyried eu defnyddio.
Mae ymwybyddiaeth o'r labeli goleuadau traffig hefyd yn cynyddu yn y sector gwasanaethu, gyda chwmnïau trenau megis GNER a Virgin, gorsafoedd gwasanaethu megis Roadchef, a gwefannau siopwyr fel Mysupermarket.com, i gyd yn defnyddio dulliau a argymhellir gan yr Asiantaeth.
Mae'r Asiantaeth yn argymell bod lliwiau goleuadau traffig yn cael eu defnyddio ar fwydydd cyfleus megis prydau parod, pizzas, selsig, byrgyrs, pasteiod, brechdanau a grawnfwydydd brecwast.
Mae hyn oherwydd bod defnyddwyr wedi dweud wrthym eu bod yn ei chael hi'n anodd deall yr wybodaeth am faeth ar y mathau hyn o fwydydd.
Pa bryd y bydd y goleuadau traffig yn cyrraedd yr archfarchnadoedd eraill, a fy siop leol?
Mae'r ASB yn parhau i annog cymaint o archfarchnadoedd, gweithgynhyrchwyr a darparwyr gwasanaeth â phosibl i fabwysiadu'r system hon.Os hoffet weld y labeli goleuadau traffig yn dy archfarchnad di, neu ar dy hoff gynhyrchion, beth am gysylltu â'r archfarchnad neu'r gweingynhyrchwr dy hun?
Mae croeso i ti hefyd roi gwybod i ni beth wyt ti'n ei feddwl am labeli goleuadau traffig drwy lenwi ein ffurflen adborth sydd ar gael ar y ddolen isod.
Sut mae cael rhagor o wybodaeth am faeth?
Mae'r lliwiau goleuadau traffig ar flaen y pecyn bwyd yn rhoi arweiniad sydyn a hwylus, ond os oes gennyt amser, a diddordeb arbennig mewn gwybod rhagor, mae rhagor o wybodaeth i'w chael ar gefn y pecyn.
Ar gefn rhai pecynnau bwyd, mae panel maeth, ynghyd â'r Canllawiau Meintiau Dyddiol a'r rhestr o gynhwysion.
Y panel maeth
Mae'r panel hwn, sydd i'w weld yn aml ar gefn pecynnau bwyd yn rhoi dadansoddiad o'r maeth sydd yn y bwyd.Gall gynnwys, er enghraifft, gwybodaeth am y meintiau o egni, protein, carbohydradau, braster, ffeibr deietegol a sodiwm.
Gelli ddefnyddio'r wybodaeth hon i dy helpu i wneud dewisiadau iachach. Clicia ar y ddolen isod i gael rhagor o wybodaeth ac eglurhad ar y termau hyn.
Y Canllaw Meintiau Dyddiol
Datblygwyd y Canllawiau Meintiau Dyddiol (GDAs) gan weithgynhyrchwyr bwyd a manwerthwyr, ac mae rhagor o wybodaeth i'w chael ar wefan IGD, sef mudiad ymchwil y groseriaid a'r diwydiant bwyd.Rhestr o gynhwysion
Hwyrach y bydd angen i ti edrych ar y rhestr o gynhwysion i weld a yw cynnyrch yn cynnwys lefelau uchel o fraster, halen neu siwgrau a ychwanegir.Mae'r rhestrau o gynhwysion bob amser yn cychwyn gyda'r cynhwysyn mwyaf o ran pwysau ac yna rhestrir gweddill y cynhwysion yn nhrefn eu pwysau ar yr adeg y'u defnyddiwyd i wneud y bwyd.






Gwylio'r hys-bys...