Text only

Defnyddio erbyn


Mae dyddiadau 'defnyddio erbyn' i'w gweld ar fwydydd sy'n dirywio'n gyflym, megis pysgod mwg, cynhyrchion cig a saladau a baratowyd yn barod.

Paid â defnyddio unrhyw fwyd na diod ar ôl y dyddiad 'defnyddio erbyn' sydd ar y label, hyd yn oed os yw'n edrych ac yn arogli'n iawn. Byddai ei ddefnyddio ar ôl y dyddiad hwn yn peryglu dy iechyd.

Er mwyn i'r dyddiad 'defnyddio erbyn' fod yn ganllaw dilys, rhaid dilyn y cyfarwyddiadau storio megis 'i'w gadw mewn oergell' yn ofalus. Os nad wyt ti'n dilyn y cyfarwyddiadau hyn, gall y bwyd ddirywio'n gynt, ac efallai achosi gwenwyn bwyd.

Nid yw 'Defnyddio erbyn' bob amser yn golygu 'bwyta erbyn'. Os oes modd rhewi bwyd, gellir estyn ei oes tu hwnt i'r dyddiad 'defnyddio erbyn'.

Ond gwna'n siŵr dy fod yn dilyn y cyfarwyddiadau ar y pecyn - megis 'rhewi yr un diwrnod', 'coginio heb ei ddadmer' neu 'dadmer yn drylwyr cyn ei ddefnyddio a'i ddefnyddio o fewn 24 awr'.

Mae'n bwysig hefyd dilyn unrhyw gyfarwyddiadau coginio a pharatoi a ddangosir ar y label.

Ar ôl agor pecyn bwyd sydd â dyddiad 'defnyddio erbyn' arno, rhaid dilyn unrhyw gyfarwyddiadau pellach megis 'i'w fwyta o fewn wythnos ar ôl agor y pecyn'.



Ond os yw'r dyddiad 'defnyddio erbyn' yn dod i ben yfory, rhaid defnyddio'r bwyd erbyn diwedd y diwrnod yfory, hyd yn oed os mai ond heddiw yr agoraist y pecyn.