Text only

Safonau Bwyd Sicr – Y Tractor Coch


Red tractor logo Pan fyddi di’n gweld logo’r Tractor Coch, mae'n golygu bod y bwyd wedi ei gynhyrchu gan aelod o gynllun sicrwydd bwyd penodol, sy’n cael ei reoli gan y Safonau Sicrwydd Bwyd (ASF). Mae hyn yn golygu bod y bwyd wedi bodloni safonau penodol pan gafodd ei gynhyrchu.

Mae cynlluniau sicrwydd fel arfer yn rhai gwirfoddol ac wedi’u sefydlu ar gyfer ffermwyr, tyfwyr a busnesau bwyd eraill. Mae rhai cynlluniau sicrwydd bwyd nad ydynt yn cael eu cynnal gan y Safonau Sicrwydd Bwyd. Mae’r sefydliad sy’n gyfrifol am y cynllun sicrwydd yn cynnal arolygiadau annibynnol i sicrhau fod y busnesau hyn yn cyrraedd y safon benodol. Os ydynt yn cyrraedd y safon hon, byddant yn cael ei hachredu. Mae’r safonau hyn yn amrywio gan ddibynnu ar y cynllun. Maent yn ymdrin yn bennaf â diogelwch bwyd, lles anifeiliaid a’r amgylchedd.

Mae llawer o gynlluniau yn defnyddio logo’r Tractor Coch, ac mae bwyd sy’n cyrraedd y safon hon yn cael eu cynhyrchu ym Mhrydain yn bennaf, er ei bod hi’n bosibl eu bod yn tarddu o wlad arall os ydynt yn cyrraedd safonau’r cynllun hwnnw. Os wyt ti am wybod a yw’r bwyd yr wyt ti’n ei brynu wedi’i brynu, ei brosesu a’i becynnu yn y DU, bydd angen i ti edrych am faner yr Undeb.

Mae'r Asiantaeth wedi cynhyrchu nodiadau canllaw arferion gorau ar gyfer cynlluniau sicrwydd bwyd. Mae'r cyngor a roddir yn dilyn dau drywydd allweddol:
  • cynnwys defnyddwyr yn y broses o osod safonau
  • gwybodaeth eglur ac onest i ddefnyddwyr am safonau'r cynllun a'r hyn a gyflenwir
Mae rhagor o wybodaeth am y defnydd o'r canllawiau hyn yn y DU ar gael ar y ddolen isod.