Cynnyrch...
Mae'n rhaid i rai bwydydd, megis cig eidion a rhai ffrwythau a llysiau, fod â label sy'n dangos o ba wlad y mae'r bwyd yn tarddu. Ond yn achos y rhan fwyaf o fwydydd (gan gynnwys cig sydd wedi ei brosesu, fel bacwn, ham, pasteiod, selsig a phrydau parod) nid oes raid dangos yr wybodaeth honno, oni fyddai celu'r wybodaeth yn gamarweiniol.
Mae'r Asiantaeth yn gweithio i newid y rheolau Ewropeaidd ar labelu bwyd, er mwyn dangos ar y label o ba wlad y tarddodd amrediad ehangach o fwydydd. Hoffai'r Asiantaeth hefyd weld rheolau eglur ynglŷn â defnyddio term fel "Cynnyrch Cymru" etc.
Fodd bynnag, bydd yn cymryd cryn amser i newid y rheolau hyn, ac yn y cyfamser mae'r Asiantaeth yn annog cynhyrchwyr ac adwerthwyr i ddarparu'r wybodaeth yn wirfoddol.
Dosbarthwyd canllawiau gan yr Asiantaeth i gynhyrchwyr ac adwerthwyr, i bwysleisio bod rhaid geirio'r labeli tarddiad yn eglur, rhag tramgwyddo yn erbyn y gyfraith ar labelu a chyflwyno gwybodaeth ffug neu gamarweiniol. Byddwn yn cynnal arolwg yn fuan, i weld faint o sylw a roddwyd i hyn gan y cynhyrchwyr
Hwyrach y sylwch fod nodau iechyd hefyd i'w gweld ar rai cynhyrchion.
Mae'r rhain fel rheol yn cynnwys rhif cod ynghyd â rhai llythrennau megis 'UK' neu 'EEC' o fewn nod hirgrwn.
Defnyddir y nodau iechyd ar gig a chynhyrchion llaeth yn bennaf. Maent yn dynodi bod y bwyd wedi ei gynhyrchu yn unol â'r safonau hylendid cynhyrchu bwyd cyfredol ar safle trwyddedig, a bod modd olrhain hanes y bwyd yn ôl i'r safle hwnnw. Nid yw'r nodau iechyd yn datgelu o ba wlad y tarddodd y bwyd na'i gynhwysion.





