Organig
Rhaid bob bwyd a werthir fel bwyd 'organig' gael ei gynhyrchu yn unol â'r cyfreithiau Ewropeaidd ar gynhyrchu organig.
Mae'r deddfau hyn yn mynnu y darperir unrhyw fwyd a werthir fel cynnyrch 'organig' gan ffermwyr, proseswyr a mewnforwyr a gofrestrwyd ac a gymeradwywyd gan gyrff ardystio organig, sydd yn eu tro wedi eu cofrestru gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) neu gorff rheoli cyffelyb mewn rhan arall o'r Undeb Ewropeaidd.
Rhaid i'r cyrff ardystio organig benodi arolygwyr, y disgwylir iddynt, er enghraifft, ymweld â ffermydd i sicrhau na ddefnyddir unrhyw wrteithiau neu blaleiddiaid na chaniateir ar gyfer cynhyrchu organig, a bod y tir wedi ei ffermio yn organig yn ystod y cyfnod pontio (o ddwy flynedd fel arfer) cyn y ceir gwerthu'r cynnyrch fel bwyd 'organig'.
Rhaid i'r labeli ar fwyd a werthir fel cynnyrch 'organig' nodi'r corff ardystio y cofrestrwyd y prosesir neu'r paciwr gydag ef. Dylai'r labeli ddangos, fel lleiafswm, y rhif cod sy'n dynodi'r corff arolygu cymeradwy. Gellir dangos enw neu nod masnach (logo) y corff ardystio ar y label hefyd, ond nid yw hynny'n orfodol.
Nid yw'n bosibl bob amser paratoi cynhyrchion yn gyfan gwbl o gynhwysion organig gan nad yw pob cynhwysyn ar gael mewn ffurf organig. Caniateir felly i wneuthurwyr bwyd organig i ddefnyddio rhai cynhwysion eraill, cyn belled â bod y cynhwysion organig yn cynrychioli 95% o'r bwyd o leiaf.
Os yw rhwng 70% a 95% o'r cynhwysion mewn cynnyrch yn organig ni chaniateir cyfeirio at y cynhwysion organig ac eithrio yn y rhestr cynhwysion, a rhaid rhoi datganiad eglur ar wyneb y label i ddangos pa ganran o'r cyfan sy'n organig.
DEFRA sy'n gyfrifol am y Rheoliadau sy'n llywodraethu cynhyrchu bwydydd organig, ac am weinyddu cynlluniau organig o fewn y DU.





