Text only

Honiadau iechyd


Blueberries

Ystyr 'honiadau iechyd' yw datganiadau am effaith llesol bwyd neu ei gynhwysion ar y corff. Mae datganiadau fel 'helpu i gadw dy galon yn iach', neu' helpu dy gorff i dreulio' ar labeli yn enghreifftiau o honiadau iechyd.

Yn flaenorol, roedd y rheolau am yr honiadau hyn yn eithaf cyffredinol, gan ei gwneud hi’n anodd i bobl wybod beth oedd rhai termau yn eu golygu. Bellach, mae rheolau penodol wedi dod i rym a fydd gwarchod defnyddwyr rhag honiadau camarweiniol, sy’n golygu bod yn rhaid i unrhyw honiadau a wneir am fanteision rhai bwydydd o ran maeth ac iechyd fod yn seiliedig ar wyddoniaeth.

Er mai ar 1 Gorffennaf 2007 y daeth y rheolau newydd hyn i rym, mae’r diwydiant bwyd wedi cael amser digonol i gydymffurfio â'r rheolau newydd, felly bydd rhaid aros am beth amser eto cyn y byddwn yn gweld y newidiadau hyn ar waith mewn siopau.

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi casglu rhestr o honiadau a fydd yn rhaid eu cymeradwyo yn Ewrop, ac yn y dyfodol, a dim ond honiadau sydd wedi’u cymeradwyo a fydd yn cael eu defnyddio ar fwyd.

Dim ond os cânt eu hategu gan honiad priodol a chymeradwy y caiff honiadau cyffredinol ynglŷn â manteision i iechyd, megis 'iachus’ neu 'mae'n dda i ti', eu caniatáu. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid cefnogi unrhyw honiad cyffredinol o hyn ymlaen gydag esboniad sy’n nodi pam fod y bwyd yn 'iachus' neu'n ‘fwyd llawn lles’.

Ni chaniateir i labeli honni y gall y bwyd atal, trin na wella clefyd neu gyflwr meddygol. Ar feddyginiaethau trwyddedig yn unig y gellir gwneud honiadau o'r math hyn.