Gwe-lywio |
Yn gyfreithiol, nid oes yn rhaid i weithgynhyrchwyr nodi ar y label faint o glwten sydd mewn bwyd. Mae’r rheolau am y geiriau a ddefnyddir ar fwydydd i ddangos eu bod yn addas i bobl sydd ag anoddefiad i glwten wedi newid. Bellach, mae ystyr benodol iawn i’r ymadroddion ‘heb glwten’ (gluten free) ac ‘isel iawn mewn glwten’ (very low gluten) a dim ond ar gyfer bwyd penodol y caniateir eu defnyddio. Mae llawer o’r bwydydd arbennig sy’n addas ar gyfer pobl â chlefyd seliag yn defnyddio cynhwysion amgen megis reis neu indrawn yn lle’r grawnfwydydd sy’n cynnwys glwten, megis gwenith. Mae bwydydd arbennig eraill yn cynnwys gwenith gyda’r glwten i gyd, bron, wedi’i dynnu allan ohono.
Mae nifer o resymau pam ei bod hi’n anodd cynhyrchu bwydydd sy’n gwbl rydd o glwten. Un rheswm am hyn yw’r perygl o groeshalogi mewn ffatrïoedd gyda chynhyrchion eraill sy’n cynnwys gwenith, haidd neu ryg. O dan y rheolau newydd, mae 'heb glwten’ yn golygu bod y cynnyrch yn cynnwys 20 rhan o glwten neu lai fesul miliwn. Mae’r rhan fwyaf o bobl sydd â chlefyd seliag yn gallu bwyta bwydydd sy’n cynnwys y fath lefel isel iawn o glwten heb unrhyw effeithiau andwyol ar eu hiechyd. Gan fod y lefel hon mor isel, mae’n annhebygol iawn o achosi adwaith yn y rhan fwyaf o bobl - mae 20 rhan o glwten fesul miliwn gyfwerth â llwy de o flawd mewn sach enfawr 600kg (1,200lb) o flawd. Mae glwten yn helpu i roi ansawdd elastig a gwead cnoadwy i fara. Er mwyn cael bara, gwaelodion pizza ac ati gyda rhai o’r priodweddau hyn, mae ail gategori wedi’i ganiatáu yn cynnwys cynhyrchion sy’n 'isel iawn mewn glwten'. Bydd y categori hwn yn cynnwys dim ond y cynhyrchion hynny sy’n cael eu gweithgynhyrchu gan ddefnyddio math arbennig o starts sydd wedi’i drin i dynnu’r glwten i gyd, bron, allan ohono. Bydd cynhyrchion yn y categori hwn yn cynnwys lefel uwch o glwten o hyd at 100 rhan fesul miliwn. Gan fod mwy o glwten yn y cynhyrchion hyn, ni fwriedir i bobl fwyta llawer o fwyd o’r categori hwn bob dydd. Bydd yr honiadau newydd ar y labeli yn eich helpu i ddewis yn bennaf y bwydydd hynny sydd ‘heb glwten’ a llai o’r rheiny sy’n dwyn y label ‘isel iawn mewn glwten’. Ni fydd pawb yn gallu bwyta bwydydd sy’n dwyn y label ‘isel iawn mewn gwlten’ gan y gallai 100 rhan fesul miliwn eu gwneud yn sâl, felly mae’n bwysig siarad â meddyg neu ddeietegydd cyn eu cyflwyno i dy ddeiet am y tro cyntaf. Mae’n bosibl na fydd rhai gweithgynhyrchwyr yn gallu bodloni’r lefelau hyn gan fod cynhyrchion eraill y maent yn eu cynhyrchu yn halogi bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw yn ystod y broses o’i gludo, ei storio neu ei gynhyrchu. Yn yr achosion hyn, mae’n bosibl y byddant yn dewis nodi nad yw’r bwyd yn cynnwys unrhyw gynhwysion sy’n cynnwys glwten a gadael i ti benderfynu p’un a yw lefel yr halogiad damweiniol y bwyd yn rhy uchel i ti ei fwyta ai peidio. Ni fydd unrhyw sôn am faint o glwten sydd yn y cynnyrch felly mae’n bosibl y byddi’n teimlo nad yw’n werth cymryd risg. Mae’r lefelau newydd hyn hefyd yn berthnasol i unrhyw fwyd y byddwch yn ei brynu mewn bwyty neu o sip tecawê neu gownter deli. Mae’n bosibl na fydd y sefydliadau hyn yn gallu bodloni’r rheolaethau llym hyn ac, yn yr un modd â bwydydd sydd wedi’u pecynnu ymlaen llaw, byddant yn dewis odi nad yw’r bwyd yn cynnwys unrhyw gynhwysion sy’n cynnwys glwten. Ti piau’r penderfyniad wedyn p’un a allai’r bwyd fod wedi’i halogi’n ddamweiniol gan rywbeth sy’n cynnwys glwten yn ystod y broses o’i baratoi. Er enghraifft, efallai y byddi’n penderfynu na all sefydliad sy’n paratoi llawer o pizzas ffres gadw’r blawd y maent yn ei ddefnyddio allan o’th bryd ac felly na ddylet ti fwyta yno. Gall y rheiny sy’n gweithgynhyrchu bwydydd sydd wedi’u pecynnu ymlaen llaw barhau i ddefnyddio eu hen labeli tan fis Ionawr 2012, felly hyd at y cyfnod hwn, mae’n bosibl y gweli fod llawer o dermau labelu gwahanol yn cael eu defnyddio ar y bwydydd hyn.
Mae’n bwysig sylweddoli er y gallai’r labeli ar rai bwydydd newid o ‘heb glwten’ i ‘isel iawn mewn glwten’, mae’n bosibl fydd lefel y gwlten yn y bwyd wedi newid o gwbl. Felly, os wyt ti’n dioddef o’r clefyd seliag ac wedi bod yn bwyta bwyd penodol yn ddiogel, dylai’r bwyd hwnnw fod yn addas o hyd. Fodd bynnag, mae’n bosibl na fydd rhai cynhyrchion a arferai ddwyn y label 'heb glwten’ neu 'addas i bob sydd â’r clefyd seliag‘ (‘suitable for coeliacs') yn cael defnyddio’r ymadroddion hyn os nad yw’r swm o glwten sydd ynddynt yn ddigon isel i fodloni’r rheolau newydd. O ganlyniad, mae’n bosibl y bydd gweithgynhyrchwyr yn newid eu ryseitiau a/neu brosesau. Gallai hyn olygu er bod pobl sydd â chlefyd seliag yn arfer gallu bwyta rhai bwydydd yn y gorffennol, mae’n bosibl na fydd y bwydydd hyn bellach yn addas iddynt. Mae modd dysgu p’un a yw bwyd yn cynnwys glwten neu gynhwysion sy’n cynnwys glwten drwy ddarllen y rhestr gynhwysion. Dylai unrhyw un sy’n dal i fod yn ansicr p’un a allant fwyta bwyd penodol gysylltu â’r gweithgynhyrchwr. Yn ogystal, mae llawer o’r archfarchnadoedd yn cynhyrchu rhestrau yn seiliedig ar gynnwys glwten y bwydydd y maent yn eu gwerthu. Bydd y rhestr yn dangos a yw bwyd ‘heb glwten’,yn ’isel iawn mewn glwten’ neu wedi’i wneud o gynhwysion nad ydynt yn cynnwys glwten. Mae Coeliac UK yn cynhyrchu cyfeirlyfr sy’n dangos p’un a yw bwydydd ‘heb glwten’, yn ‘isel iawn mewn glwten’ neu wedi’u gwneud o gynhwysion nad ydynt yn cynnwys glwten. Mae rhai bwydydd i fabanod yn dwyn datganiadau ar eu labeli sy’n nodi a ydynt yn cynnwys glwten ai peidio - mae’r gyfraith yn nodi bod rhaid i’r holl fwydydd ar gyfer babanod dan 6 mis oed roi’r wybodaeth hon ar y label. Yn ogystal, mae pob fformiwla fabanod yn rhydd o glwten. Mae hyn yn caniatáu i rieni mewn teuluoedd â hanes o glefyd seliag osgoi cynhyrchion sy’n cynnwys glwten. Mae’r Adran Iechyd wedi argymell na ddylid rhoi glwten i fabanod da chwe mis oed, er mwyn helpu i osgoi clefyd seliag.
Gall busnesau ddechrau newid eu labeli ym mis Chwefror 2009. Fodd bynnag, bydd gan fusnesau bron i dair blynedd cyn y mae'n rhaid iddynt newid eu labeli. Felly, tan fis Ionawr 2012 mae'n bosibl y byddi'n gweld llawer o wahanol labeli ar fwyd yn awgrymu ei fod yn addas i bobl â chlefyd seliag - felly bydd angen i ti ddarllen y rhestr gynhwysion yn ofalus.