Text only

Ar ei orau cyn


Mae dyddiadau 'Ar ei orau cyn' yn ymddangos ar amrywiaeth eang o fwydydd wedi'u rhewi, eu sychu, mewn tun a bwydydd eraill.

Mae a wnelo'r dyddiadau 'ar ei orau cyn' fwy ag ansawdd bwyd na'i ddiogelwch, ac felly pan ddaw'r cyfnod i ben, nid yw'n golygu y gallai'r bwyd fod yn niweidiol, ond yn hytrach y gallai ddechrau colli ei flas a'i wead.

Fodd bynnag, ni ddylet fwyta wyau ar ôl y dyddiad 'ar ei orau cyn', oherwydd bod wyau weithiau'n cynnwys bacteria salmonela a allai ddechrau cynyddu ar ôl y dyddiad hwnnw.

Cofia hefyd na fydd y dyddiad 'ar ei orau cyn' yn ddilys os nad yw'r bwyd yn cael ei storio yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau ar y label, megis 'storiwch mewn lle sych ac oer' neu 'storiwch mewn oergell unwaith y byddwch wedi ei agor'.



Felly, os wyt ti am fwynhau'r bwyd ar ei orau, cofia ei ddefnyddio erbyn y dyddiad 'ar ei orau cyn', a gwna'n siŵr dy fod yn dilyn unrhyw gyfarwyddiadau.

Dolenni allanol

Nid yw'r ASB yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol