Text only

Labeli alergedd


pasta jars big

Rhaid i'r labeli ar fwydydd sydd wedi eu pacio'n barod, gan gynnwys diodydd alcoholaidd, ddangos yn eglur unrhyw gynhwysyn y gallai rhywun fod ag alergedd iddo neu anoddefiad tuag ato. Daeth hyn yn gyfraith ym mis Tachwedd 2005.




Pa gynhwysion?

Os defnyddir unrhyw un o'r 14 bwyd canlynol fel cynhwysyn mewn bwyd sydd wedi ei bacio'n barod, rhaid nodi hynny ar y label. Mae'r rheol hon yn gymwys i holl wledydd yr Undeb Ewropeaidd.

Maent fel a ganlyn:
  • seleri
  • grawnfwyd sy'n cynnwys glwten (gwenith, haidd, rhyg a cheirch)

  • cramenogion (megis gorgimwch neu granc)
  • wyau

  • pysgod
  • bysedd y blaidd
  • llaeth
  • molesgiaid (megis cregyn gleision ac wystrys)
  • mwstard
  • cnau megis cnau almon, cnau cyll, cnau Ffrengig, cnau Brasil, cnau cashiw, cnau pecan, cnau pistasio a chnau macadamia
  • pysgnau
  • hadau sesame
  • ffa soia
  • sylffwr deuocsid a sylffitau (cadwolion a ddefnyddir mewn rhai bwydydd a diodydd) ar lefelau uwch na 10mg y kg neu litr
Mae'n rhaid i labeli hefyd gynnwys gwybodaeth glir ynghylch unrhyw gynhwysion a wnaed allan o'r bwydydd uchod, er enghraifft, sglein a wnaed gydag ŵy.

Mae'r rheolau hyn yn dirwyn i ben y cyfnod lle nad oedd rhaid i labeli restru'r cynhwysion os oeddent yn rhan o gynhwysyn cyfansawdd, a'r cynhwysyn cyfansawdd hwnnw'n cynrychioli llai na 25% o'r cynnyrch.

Rhai cynhwysion na chânt eu rhestru

Mae rhai cynhwysion a wneir o'r 14 o fwydydd uchod wedi eu prosesu cymaint fel na allant achosi unrhyw adwaith alergaidd. Nid oes angen labelu'r cynhwysion hynny yn benodol; er enghraifft cynhwysion megis olew ffa soia pur a surop glwcos wedi'i wneud o wenith neu haidd.

Labeli 'gall gynnwys'

Mae rhai labeli bwyd yn nodi 'gall gynnwys cnau' neu 'gall gynnwys hadau'. Mae hyn yn golygu, er nad oes cnau neu hadau wedi eu cynnwys yn fwriadol yn y bwyd dan sylw, na all y gwneuthurwr sicrhau nad yw'r cynnyrch yn cynnwys ychydig bach ohonynt yn ddamweiniol. Os oes gennyt alergedd i gnau neu hadau dylet osgoi'r cynhyrchion bwyd hyn.

Os wyt ti'n credu fod cynnyrch bwyd wedi ei labelu'n anghywir, dylet ddweud wrth wasanaeth safonau masnach dy awdurdod lleol.