Termau labelu
Yn yr adran hon ar dermau labelu, byddwn yn ceisio ateb y mathau o gwestiynau y gelli ofyn i ti dy hun wrth edrych ar gynnyrch mewn archfarchnad neu yn y siop leol.
Ein nod yw dy helpu i wneud dewisiadau iachach a mwy gwybodus tra'n siopa.
Ynglŷn a'r adran hon
Caiff labeli eu rhoi ar fwyd er mwyn rhoi gwybodaeth i ni allu dewis rhwng bwydydd, ond maent yn gallu bod yn ddryslyd weithiau.Er enghraifft, faint o lactos sydd mewn cynnyrch sydd â 'llai o lactos'? Os yw rhywbeth yn 'lite' neu'n 'light' beth yw ystyr hynny mewn gwirionedd? A beth mae'r Tractor Coch i fod i'w gyfleu?
Eto, mae yna reolau y mae'n rhaid i gynhyrchwyr bwyd ufuddhau iddynt, i'n hamddiffyn ni rhag honiadau ffug a disgrifiadau camarweiniol, ac mae canllawiau eglur ar y pethau y gellir ac na ellir eu dangos ar labeli.
Defnyddia'r ddewislen ar y chwith i weld beth yw'r rheolau ar gyfer termau penodol.





