Text only

Gwybod y rheolau


know the rules Mae rheolau cyfreithiol llym sy'n rheoli Labelu Bwyd, ac ni chaniateir i gynhyrchwyr ddweud beth a fynnont ar y labeli. Er enghraifft, ni cheir honni bod bwyd yn cynnwys 'llai o galorïau' onid yw'n llawer is mewn calorïau na'r fersiwn arferol.


Uchel ac isel

butter one Pan fyddi di'n gweld honiadau iechyd a maeth ar labeli bwyd, mae angen i ti fod yn ofalus, gan nad yw pob un ohonynt eto wedi'u diffinio yn gyfreithiol. Mae hyn yn golygu y gallant olygu pethau gwahanol ar wahanol gynhyrchion.

Mae'r ymadrodd 'braster isel' yn enghraifft o honiad sydd wedi'i ddiffinio mewn cyfraith. Mae'n golygu na ddylai'r cynnyrch gynnwys mwy na 3g o fraster fesul 100g. Fodd bynnag, mae honiadau megis 'helpu i gynnal calon iach' eto i'w diffinio yn gyfreithiol.

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn gweithio ar reolau newydd i sicrhau mai'r unig honiadau a welir ar becynnau yw'r rhai hynny sydd wedi'u diffinio mewn cyfraith. Bydd hyn yn ei gwneud hi'n haws i bobl ymddiried yn y mathau o honiadau a welir ar labeli bwyd.

Yn y cyfamser, efallai bydd yn rhaid i ti edrych yn fwy manwl ar honiadau, drwy ddarllen y panel maeth a'r rhestr o gynhwysion.

Lluniau

Raspberries Ni ddylai'r lluniau ar bacedi a labeli fod yn gamarweiniol. Ni chaniateir, er enghraifft i iogwrt mafon, a gyflaswyd â chyflas artiffisial yn unig, ddangos llun mafon ar y potyn.

Disgrifiadau

Er bod gwybodaeth ffug a disgrifiadau camarweiniol ar labeli yn anghyfreithlon, caniateir i rai bwydydd adnabyddus gadw'u henwau traddodiadol oherwydd ein bod i gyd yn gwybod beth ydynt.

Gwyddom i gyd, er enghraifft, nad yw "swiss roll" o anghenraid yn dod o'r Swistir, na "Yorkshire pudding" o Swydd Efrog ac nid oes raid i "cream cracker" gynnwys hufen.

Ond, os nad yw rhywbeth y disgwylir iddo ddod o ardal benodol, megis hufen tolch Cernyw er enghraifft, wedi ei wneud mewn gwirionedd yn yr ardal honno, rhaid i'r label ddatgelu ymhle y'i gwnaed.

Cyngor ar labeli

Mae'n bwysig rhoi sylw arbennig i:

  • cyfarwyddiadau â dyddiad, megis 'defnyddio erbyn' ac 'ar ei orau cyn' er mwyn osgoi neu leihau'r risg o wenwyn bwyd
  • amseroedd dadmer a choginio - i wneud yn siŵr bod microbau niweidiol yn cael eu lladd
  • cyfarwyddiadau ;ar gyfer storio a pharatoi bwyd - oherwydd, trwy drin bwyd yn gywir gellir diogelu rhag gwenwyn bwyd
Nid oes yn rhaid i chi boeni os cyrhaeddwyd y dyddiad 'arddangos tan'. Cyfarwyddyd i staff y siop yn unig yw hwnnw. Gwiriwch y dyddiadau 'defnyddio erbyn' neu 'gwell cyn' yn hytrach.

A chofiwch, peidiwch a bwyta na choginio unrhyw beth nad ydych yn siŵr ohono. Os oes amheuaeth - allan a fo!