Text only

Holi Sam...

Sam



Storio a pharatoi



Pam fod gan becynnau cig fel cig moch ddyddiad ‘defnyddio erbyn’ mor hir? A yw’n iawn eu cadw’n hirach?

Ni ddylet ddefnyddio unrhyw fwyd ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ sydd ar y label. Hyd yn oed os yw’n edrych ac yn arogli’n iawn, gallai ei ddefnyddio ar ôl y dyddiad hwn beryglu dy iechyd ac achosi gwenwyn bwyd. Mae hefyd yn bwysig dilyn unrhyw gyfarwyddiadau storio sydd ar labeli bwyd, fel arall, mae’n bosibl na fydd y bwyd yn para tan y dyddiad ‘defnyddio erbyn’. Dylid cadw bwydydd wedi’u hoeri allan o’r oergell am gyn lleied o amser â phosibl.

Caiff rhai bwydydd, fel cig moch a physgod mwg, eu pecynnu drwy sugno’r aer allan ohonynt, er mwyn i’r bwyd bara’n hirach. Gelwir y broses hon yn ‘pecynnu o dan wactod’. Gyda bwydydd eraill, megis bagiau o salad, caiff nwyon eraill eu rhoi i mewn i’r pecyn yn lle’r aer, gelwir hyn yn ‘pecynnu drwy addasu’r atmosffer’.

Mae pecynnu o dan wactod a phecynnu drwy addasu’r atmosffer yn brosesau lle caiff aer ei sugno o’r pecyn. Mae hyn yn atal unrhyw facteria a allai fod yn bresennol rhag tyfu, ac mae’n gwneud i fwydydd wedi’u hoeri bara’n hirach. Ond mae rhai mathau o facteria, gan gynnwys Clostridium botulinum yn gallu tyfu heb aer. Mae C. botulinum yn facteriwm sy’n gallu cynhyrchu tocsin niweidiol iawn a allai achosi gwenwyn bwyd difrifol iawn, felly mae’n bwysig bod rheolaethau ar waith i atal hyn rhag digwydd.

Er mwyn eu cadw’n ddiogel, mae gan y rhan fwyaf o fwydydd wedi’u hoeri a becynnir dan wactod neu a becynnir drwy addasu’r atmosffer ddyddiad ‘defnyddio erbyn’ o ddeg diwrnod o’r dyddiad cynhyrchu. Ond, ar gyfer rhai cynhyrchion, gellir ymestyn y dyddiad hwn, os yw’r gweithgynhyrchwr yn defnyddio dulliau i atal bacteria fel C. botulinum rhag tyfu, megis trin y cynnyrch â gwres, newid yr asidedd neu newid y cynnwys halen.

Ar ôl agor bwydydd wedi’u hoeri a becynnwyd dan wactod neu a becynnwyd drwy addasu’r atmosffer, dylid eu bwyta o fewn yr amser a nodir ar y label e.e. ‘i’w fwyta o fewn 2 ddiwrnod’.


Rydw i newydd brynu peiriant pecynnu o dan wactod. Pa mor hir alla’i gadw bwyd yr ydw i wedi’i becynnu o dan wactod yn yr oergell?

Os wyt ti’n pecynnu bwyd o dan wactod yn y cartref, dylet gadw’r pecyn wedi’i selio, yn yr oergell a’i fwyta o fewn 10 diwrnod. Ar ôl i ti agor y pecyn, dylid cadw’r bwyd yn yr oergell fel pob bwyd arall a’i fwyta o fewn 2 ddiwrnod.


I've just bought my own vacuum packing machine. How often should I clean it?

It’s important to clean your vacuum packing machine thoroughly each time you use it. This is especially important if you’re packing food that is ready to eat after packing raw meat. Harmful bacteria can spread easily from raw meat onto ready-to-eat food making it unsafe to eat.

It’s also best to keep raw meat covered so it can’t touch or drip on foods that are ready to eat.

And remember not to use the same chopping board or knife for both raw and cooked foods without washing them, and your hands, thoroughly in between. This is because this can also transfer harmful bacteria to cooked food making it unsafe.

If you’re not sure how to clean your machine safely, try contacting the manufacturer. Or you might find guidance for your particular machine on the Internet.

If you can’t contact the manufacturer, or they can’t help you, here is some general advice:

  • Make sure you always switch your machine off at the mains electrical supply and unplug it before you start cleaning.
  • Wipe the machine thoroughly with a clean cloth and hot soapy water.
  • Be sure to let your machine dry thoroughly before you plug it into the mains electrical supply and before you switch it on again.


A yw'n ddiogel i fi ddefnyddio poteli babanod plastig? Rwyf wedi clywed eu bod yn cynnwys cemegau niweidiol.

Mae poteli babanod plastig, a mathau eraill o gynhwysyddion plastig, yn ddiogel i'w defnyddio os ydynt yn cael eu defnyddio'n gywir.

Dylid dilyn cyfarwyddiadau'r manwerthwyr bob tro, ond yn gyffredinol, mae poteli a chynhwysyddion plastig yn ddiogel i'w defnyddio a'u hail-ddefnyddio, cyn belled â'u bod yn gyfan, heb eu difrodi a bod modd eu glanhau yn iawn. Gellir cynhesu bwyd mewn cynhwysyddion plastig mewn dwr popeth neu yn y meicrodon os yw'r label yn dweud ei fod yn iawn gwneud hynny. Fodd bynnag, ni ddylid ailddefnyddio tuniau. Ar ôl i ti agor tun, dylet ti sicrhau dy fod yn rhoi unrhyw fwyd sydd dros ben mewn cynhwysydd â sêl yn yr oergell.

Mae'n bosibl dy fod wedi clywed am sylwedd o'r enw Bisphenol-A (BPA) mewn perthynas â photeli babanod. Caiff BPA ei ddefnyddio i wneud ystod o gynhwysyddion bwyd plastig, gan gynnwys poteli babanod. Mae i'w ganfod hefyd yn y resin a ddefnyddir tu mewn tuniau bwyd er mwyn atal y metel rhag halogi'r bwyd o'u mewn.

Gall symiau bach iawn o BPA drosglwyddo o'r pecynnau i'r bwyd a'r diod o'u mewn. Mae'n bosibl bod BPA yn gallu effeithio ar systemau hormonau'r corff. Serch hyn, mae llawer o waith ymchwil wedi'i wneud ledled y byd, ac nid oes unryw dystiolaeth bendant, derfynol fod y cemegau hyn yn effeithio ar bobl fel hyn.

Mae arbenigwyr annibynnol wedi cyfrifo faint o BPA y gellir ei fwyta bob dydd yn ystod ein bywydau heb iddo wneud unrhyw niwed i'n hiechyd. Credir bod y symiau a gawn o fwyd yn is o lawer na'r lefel hon. Mae rheolau yn eu lle hefyd i ddiogelu defnyddwyr. Mae'r rheolau hyn yn pennu'r lefel uchaf o BPA sy'n cael trosglwyddo i fwyd. Lefel ragofalus yw hon, bum gwaith yn uwch na'r lefel y mae arbenigwyr yn dweud y gallwn ei bwyta heb unrhyw berygl i'n hiechyd.


Beth ddylwn i ei wneud â’r rhewgell os bydd y cyflenwad trydan yn diffodd?

Os bydd eich cyflenwad trydan yn diffodd, peidiwch ag agor drws y rhewgell - mae hyn yn helpu i gadw’r bwyd wedi’i rewi am hirach. Pan fydd y pŵer yn dychwelyd, edrychwch ar y bwyd yn y rhewgell.

Os yw’r bwyd yn dal yn galed a rhewllyd, gallwch ei adael yn y rhewgell. Trowch y rhewgell i’r lefel uchaf posibl am 24 awr, cyn ei dychwelyd i lefel sy’n ei chadw ar dymheredd o -18°C.

Os yw’r bwyd wedi dechrau dadmer, hwyrach y bydd angen i chi ei daflu, yn dibynnu ar y math o fwyd.

Taflwch unrhyw fwyd y byddech chi’n ei fwyta’n syth o’r rhewgell, er enghraifft hufen iâ, os yw wedi dechrau dadmer. Peidiwch ag ail-rewi’r bwydydd hyn.

Os bydd cig a physgod, neu fwydydd sy’n cynnwys y rhain, wedi dechrau mynd yn feddal, dylech daflu’r rhain hefyd. Byddwch yn ofalus gyda hylif sy’n llifo o gig amrwd sy’n dadmer gan y gallai ledaenu bacteria i fwydydd eraill.

Gellir ailrewi bara a llysiau wedi’u rhewi, cyn belled nad ydyn nhw wedi dod i gysylltiad â chig amrwd neu hylif sy’n llifo ohono.


Alla i rewi cig sydd wedi cael ei rewi o’r blaen?

Ni ddylech ddadrewi cig amrwd ac yna’i ail-rewi, oni bai eich bod wedi coginio’r cig yn gyntaf.

Felly os ydych chi wedi dadrewi cig amrwd ac yna’i goginio, er enghraifft mewn stiw neu lasagne, byddai’n iawn i chi rewi’r pryd ar ôl ei goginio. Ond gwnewch yn siŵr eich bod yn dadrewi’r pryd yn drylwyr ac yn ei ailgynhesu tan ei fod yn chwilboeth.


Am faint alla i gadw bwydydd yn y rhewgell?

Mae hyn yn dibynnu ar y math o fwyd ac ar eich rhewgell. Byddai’n syniad da darllen unrhyw gyfarwyddiadau ar labeli bwyd, neu yn llawlyfr eich rhewgell, ar faint y dylech chi rewi bwydydd.

O ran egwyddor, gallai bwyd sydd wedi bod yn y rhewgell am flynyddoedd fod yn ddiogel i’w fwyta, cyn belled nad yw wedi cael ei ddadrewi yn ystod y cyfnod hwnnw. Ond efallai na fydd yn neis iawn i’w fwyta gan fod blas ac ansawdd bwyd yn newid os caiff ei rewi am gyfnod rhy hir.


Alla i ailddefnyddio poteli dŵr plastig?

Ar y cyfan, mae poteli plastig yn cael eu cynllunio a’u profi fel y gellir eu defnyddio’n ddiogel at eu dibenion penodol.

Mae hyn yn golygu os wyt ti am ailddefnyddio potel blastig, dylet wneud yn siŵr ei bod hi’n ddiogel gwneud hynny trwy ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau penodol ar y botel. Neu mae’n bosibl cysylltu â’r cynhyrchwr neu’r cyflenwr yn uniongyrchol.

Ond, yn gyffredinol, os nad yw cyflwr y botel wedi dirywio ac os oes modd ei glanhau’n iawn, dylai fod yn ddiogel i’w hail-lenwi â dŵr. Dylet olchi poteli diod yn drylwyr gyda dŵr poeth a sebon, er mwyn atal germau niweidiol rhag tyfu. Mae poteli gyda chraciau neu dolciau ynddynt yn golygu eu bod yn anoddach i’w golchi a’i bod yn anoddach cael gwared ar y germau.

Fodd bynnag, os nad wyt ti’n siŵr, y peth gorau i’w wneud yw peidio â’i ailddefnyddio.


Rydw i wedi clywed y gall fod yn broblem storio poteli dŵr mwynol yn ymyl cemegau. Ydy hyn yn wir?

Nid yw hi’n syniad da cadw unrhyw fwyd neu ddiod, gan gynnwys poteli dŵr plastig, yn ymyl cemegau. Y rheswm am hyn yw y gall rhai cemegau basio drwy’r botel neu becyn o’r awyr a mynd i mewn i’r bwyd neu’r ddiod. Gall hyn ddigwydd hyd yn oed os nad yw’r botel neu’r pecyn yn cyffwrdd â chynhwysydd y cemegyn.

Dylet sicrhau dy fod yn cadw pob math o fwyd a diod i ffwrdd o gemegau cartref, fel cynhyrchion glanhau a chanyddion neu beli camffor.

Weithiau, mae pobl yn cadw diodydd neu fwydydd wedi’u pecynnu mewn seler, garej neu gwpwrdd o dan y grisiau neu sinc. Os wyt ti’n gwneud hyn, cofia beidio â’u rhoi nhw yn ymyl cemegau os ydyn nhw’n cael eu storio yn yr un lle.


Ydy hi’n ddiogel i mi ddefnyddio perlysiau i wneud fy olewau fy hun gartref?

Mae llawer o wahanol fathau o olewau ar gael yn y siopau sy’n cynnwys garlleg, puprennau, tsili a gwahanol berlysiau, gan gynnwys rhosmari, oregano a dail llawryf, ac yn aml maen nhw’n para am amser hir. Ond nid yw hi’n syniad da gwneud eich olewau eich hun gartref oni bai eich bod yn bwriadu eu defnyddio’n syth.

Y rheswm am hyn yw y gall planhigion, gan gynnwys perlysiau a sbeisys, gario sborau a gynhyrchir gan facteria. O bryd i’w gilydd, gallent gario sborau math o facteria o’r enw Clostridium botulinum sy’n gallu achosi botwliaeth. Mae hwn yn glefyd annymunol iawn, sy’n brin yn y DU, ond gall fod yn farwol.

Mae Clostridium botulinum yn lluosi mewn llefydd heb unrhyw ocsigen, felly os oes yna sborau ar blanhigion fel perlysiau a garlleg, gall eu rhoi nhw mewn olew greu’r amodau delfrydol i’r bacteria luosi, yn enwedig os yw’r perlysiau’n ffres neu’n wlyb.

Disgwylir i gwmnïau sy’n cynhyrchu olewau a bwydydd sy’n cael eu cadw mewn olew ystyried Clostridium botulinum a ffurfio’u cynhyrchion i wneud yn siŵr nad yw’r math hwn o facteria’n lluosi.

Er y gellir dod o hyd i ryseitiau ar gyfer olewau mewn llyfrau coginio a chylchgronau ac ar wefannau, efallai na fyddan nhw wedi ystyried perygl botwliaeth. Felly os hoffech chi wneud eich olew eich hun, y dewis mwyaf diogel yw gwneud ychydig bach a’i ddefnyddio ar y diwrnod y cafodd ei wneud. Os oes gennych chi rywfaint o olew dros ben, rhowch ef yn yr oergell yn syth a chofiwch ei ddefnyddio o fewn wythnos. Gall rhai olewau fynd yn gymylog neu’n galed yn yr oergell ond, os bydd hyn yn digwydd, peidiwch â chael eich temtio i’w gadael ar dymheredd ystafell, oherwydd efallai na fydd hyn yn ddiogel.


A ddylwn i olchi cyw iâr amrwd?

Mae llawer o bobl yn credu y dylen nhw olchi cyw iâr amrwd, ond nid oes angen gwneud hyn. Caiff germau eu lladd os byddwch chi’n coginio’r cig yn drylwyr.

Yn wir, os byddwch chi’n golchi’r cyw iâr, gallech dasgu germau ar y sinc, arwyneb gwaith, llestri neu unrhyw beth arall gerllaw.


Oes angen i mi roi corbys wedi’u coginio yn yr oergell?

Os ydych chi’n coginio corbys ond nad ydych chi’n bwriadu eu bwyta’n syth, oerwch nhw cyn gynted â phosibl a rhowch nhw yn yr oergell neu’r rhewgell. Ni ddylech adael corbys (neu unrhyw fwydydd wedi’u coginio) ar dymheredd ystafell gan y gallai achosi i facteria dyfu a lluosi.

Os byddwch chi’n cadw corbys wedi’u coginio yn yr oergell, cofiwch eu bwyta o fewn dau ddiwrnod. Os byddwch chi’n eu rhewi, dylai fod yn ddiogel i chi eu cadw am amser hir, cyn belled nad ydyn nhw’n cael eu dadrewi. Fodd bynnag, gall cadw bwydydd wedi’u rhewi am gyfnod rhy hir effeithio ar eu blas a’u hansawdd, felly byddai’n syniad da dilyn cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ynglŷn ag am ba hyd y dylid cadw rhai bwydydd.


A oes yna faterion diogelwch y dylwn eu hystyried wrth wneud hufen iâ cartref gyda hufen, ffrwythau ac wyau? Am faint alla i gadw’r hufen iâ yn y rhewgell?

Os yw’r wyau a ddefnyddiwch yn amrwd neu wedi’u coginio’n rhannol, mae’n bosibl y byddan nhw’n cynnwys bacteria salmonela, sy’n gallu achosi gwenwyn bwyd. Nid yw rhewi’n lladd y bacteria, felly mae’n bosibl y gallai’r hufen iâ wneud rhai pobl yn sâl.

Ni ddylid gweini hufen iâ sy’n cynnwys wyau amrwd i unrhyw un a all fod mewn perygl o ddal salmonela, fel pobl hŷn, babanod, plant ifanc, menywod beichiog neu bobl sâl. Gallech ddewis rysáit heb wyau neu ddefnyddio wyau wedi’u pasteureiddio gan fod pasteureiddio effeithiol yn lladd bacteria.

Bydd hefyd angen i chi ofalu nad ydych chi’n cadw hufen iâ allan o’r rhewgell am gyfnod rhy hir pan fyddwch chi’n ei weini. Dylech ddychwelyd yr hufen iâ i’r rhewgell yn syth. Os byddwch chi’n gadael yr hufen iâ ar dymheredd ystafell, hwyrach y bydd bacteria gwenwyn bwyd, fel staphylococci, yn tyfu yn yr hufen iâ.

O safbwynt diogelwch, gallwch gadw’r hufen iâ yn y rhewgell am gymaint o amser ag y dymunwch, cyn belled nad yw’n dadrewi. Ond efallai y byddwch chi’n sylwi bod yr ansawdd yn dirywio’n raddol os byddwch chi’n ei gadw yn y rhewgell am amser hir.

Cofiwch ei bod hi’n werth golchi ffrwythau’n drylwyr mewn dŵr oer i gael gwared ar unrhyw faw gweledol. Mae golchi’n fwy pwysig os nad yw’r ffrwyth yn mynd i gael ei goginio.


A ddylwn i ddefnyddio bwrdd torri pren neu blastig gartref?

Nid yw’r Asiantaeth yn cynghori pobl i ddefnyddio byrddau torri o ddeunydd penodol. Y rheswm am hyn yw nad ydym yn ymwybodol o unrhyw dystiolaeth derfynol sy’n nodi a yw byrddau torri pren neu blastig yn fwy diogel ar gyfer defnydd cyffredinol yn y cartref pan fo pobl yn dilyn gweithdrefnau hylendid sylfaenol. Pa bynnag fath o fwrdd torri a ddefnyddiwch, dylech:
  • ei lanhau a’i sychu’n drylwyr ar ôl ei ddefnyddio
  • newid byrddau os byddan nhw’n cael eu difrodi gymaint fel na ellir eu glanhau’n iawn
  • defnyddio gwahanol fyrddau ar gyfer bwydydd amrwd a bwydydd sy’n barod i’w bwyta
Caiff rhai byrddau torri eu marchnata fel bod ganddyn nhw nodweddion gwrth-ficrobaidd, ond mae hi dal yn bwysig dilyn y cyngor uchod.


Alla i rewi llaeth wedi’i basteureiddio am rai wythnosau cyn ei ddefnyddio gartref?

Dylai fod yn ddiogel i chi rewi llaeth, cyn belled â’ch bod yn gwneud y pethau canlynol:
  • rhewi’r llaeth cyn ei ddyddiad ‘defnyddio erbyn' (use by)
  • dilyn unrhyw gyfarwyddiadau rhewi neu ddadrewi ar y label
  • dadrewi’r llaeth yn yr oergell fel na fydd yn mynd yn rhy gynnes – dylech roi tua 24 awr iddo ddadrewi
  • ceisio defnyddio’r llaeth o fewn diwrnod neu ddau i’w ddadrewi – bydd yn suro yn yr un modd â llaeth arferol sydd wedi’i basteureiddio
Pan fo llaeth yn cael ei rewi, mae’n ehangu, a gall hyn dorri’r pecyn o’i gwmpas. Gwnewch yn siŵr bod y pecyn yn gyfan cyn ei ddadrewi. Os yw’r pecyn wedi torri, byddai’n well peidio â defnyddio’r llaeth.

Cofiwch y gall rhewi effeithio ar ansawdd y llaeth.


Roeddwn i’n bwriadu coginio pecyn o selsig heddiw, ond roedd y pecyn wedi chwyddo. Er nad oedd y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ wedi pasio, penderfynais daflu’r selsig. Oeddwn i’n iawn?

Pan fo bacteria’n tyfu ar fwyd, maen nhw weithiau’n cynhyrchu nwyon sy’n gallu achosi i becynnau chwyddo. Dyma’r esboniad mwyaf tebygol o’r hyn a ddigwyddodd i’ch pecyn o selsig. Gan fod y selsig yn mynd i gael eu coginio, hwyrach na fyddai’r bacteria hyn wedi’ch gwneud chi’n sâl. Ond taflu’r selsig oedd y dewis mwyaf diogel.

Yn aml, mae selsig amrwd yn cario bacteria, a’r rheswm mwyaf tebygol dros y pecyn yn chwyddo yw ei fod wedi cynhesu, a fyddai wedi galluogi i’r bacteria luosi a dechrau rhyddhau nwyon. Gallai hyn ddigwydd pe bai’r selsig allan o’r oergell am ychydig, er enghraifft, pan oeddech chi’n dod â’r siopa adref. Dylech geisio rhoi bwyd yn yr oergell cyn gynted â phosibl, yn enwedig mewn tywydd cynnes, a cheisiwch osgoi gadael bwyd ym mŵt y car.

Hefyd, gall bwyd fynd yn rhy gynnes os nad yw’ch oergell yn ddigon oer. Dylech ddefnyddio thermomedr oergell i wirio a yw rhan oeraf eich oergell rhwng 0°C a 5°C (32°F a 41°F). Os oes gan eich oergell adran rewgell fewnol sy’n llawn rhew, gallai hyn olygu y bydd yr oergell yn ei chael hi’n anodd i gynnal ei thymheredd.


Holi cwestiwn i Sam

Os nad wyt ti'n gallu dod o hyd i'r ateb i dy gwestiwn di, anfona gwestiwn newydd drwy glicio ac y ddolen isod.

 

Nid oes modd i ni ateb pob cwestiwn, ond rydym yn cyhoeddi atebion ar amrywiaeth o bynciau yn rheolaidd.