Text only

Holi Sam...

Sam



Partïon a digwyddiadau



Rwy’n gyfrifol am glwb bach sy’n gweini te, cacennau a bisgedi i aelodau. Oes angen i ni ddilyn rheoliadau hylendid bwyd?

Os oes gen ti glwb neu grŵp bach tebyg sy’n darparu bwyd i aelodau mewn cyfarfodydd neu ddigwyddiadau eraill, efallai y bydd yn rhaid i ti gydymffurfio â deddfwriaeth diogelwch a hylendid bwyd, hyd yn oed os nad wyt ti’n gwneud elw o’r lluniaeth.

Nid yw gwbl glir pa glybiau sy'n cael eu trafod yn y rheoliadau gan fod hyn yn dibynnu ar yr amgylchiadau penodol. Os wyt ti’n gweini lluniaeth i rai ffrindiau yn dy gartref, mae’n debyg na fydd y rheoliadau’n berthnasol, gan fod bwyd a baratoir gartref at ddibenion domestig yn cael ei eithrio.

Er enghraifft, os caiff dy glwb ei drefnu’n fwy ffurfiol, hwyrach y bydd y ddeddfwriaeth diogelwch a hylendid bwyd yn berthnasol i ti. Awdurdodau lleol sy’n gwybod orau a yw’r ddeddfwriaeth yn berthnasol i glybiau, yn ôl amgylchiadau unigol.

Mae'n bosibl y bydd gofyn i ti gofrestru gyda dy awdurdod lleol os yw’r grŵp yn cyfarfod yn aml ac yn gweini bwyd yn y cyfarfodydd hyn.

Mae'n annhebygol y bydd gofyn i ti gofrestru digwyddiad unigryw neu flynyddol nac ychwaith y bydd y rheoliadau hylendid bwyd yn berthnasol i ti. Ond mae'n rhaid i ti wneud yn siŵr bod y bwyd yr wyt ti'n ei weini yn ddiogel i'w fwyta.

I ddod i wybod mwy am y rheoliadau yng nghyd-destun dy sefyllfa di, cysyllta ag adran iechyd y cyhoedd dy awdurdod lleol.

Waeth a yw’r rheoliadau’n berthnasol i’th glwb ai peidio, dylet ddilyn arferion hylendid da bob amser wrth baratoi bwyd ar dy gyfer dy hun neu eraill. Er enghraifft, dylet wneud y pethau canlynol:
  • Golchi dy ddwylo cyn paratoi bwyd.
  • Cadw bwydydd sy’n barod i’w bwyta, fel cacennau a bisgedi, i ffwrdd oddi wrth fwyd amrwd, yn enwedig cig amrwd.
  • Cadw cacennau a phwdinau yn yr oergell os ydyn nhw’n cynnwys hufen ffres neu eisin hufen menyn. Paid â’u cadw ar dymheredd ystafell.
  • Defnyddio tongs glân neu dorrwr cacennau i weini cacennau.


Mae’r gymdeithas rhieni ac athrawon yn ysgol fy mhlant yn dymuno cael stondin sy'n gwerthu cacennau cartref yn ffair yr ysgol. Ond mae rhai pobl yn poeni am hylendid. Ydy’r math yma o stondin yn iawn?

Dylai cacennau cartref fod yn ddiogel i’w bwyta, cyn belled â bod y bobl sy’n eu gwneud nhw’n dilyn arferion hylendid bwyd da a bod y cacennau’n cael eu storio a’u cludo’n ddiogel.

Gartref, dylai pobl sy’n gwneud cacennau ddilyn yr awgrymiadau canlynol:
  • Golchi dwylo cyn paratoi bwyd.
  • Gofalu bod arwynebau, powlenni, offer ac ati yn lân.
  • Peidio â defnyddio wyau amrwd mewn unrhyw beth na chaiff ei goginio’n drylwyr, fel eisin neu mousse.
  • Cadw cacennau caws ac unrhyw gacennau neu bwdinau sy’n cynnwys hufen neu eising menyn yn yr oergell.
  • Cadw cacennau mewn cynhwysyddion glân y gellir eu selio i ffwrdd o fwydydd amrwd, yn enwedig cig amrwd.
Ar y diwrnod, dylai pobl sy’n dod â chacennau o gartref neu’n cynnal y stondin ddilyn yr awgrymiadau canlynol:
  • Cludo cacennau mewn cynhwysyddion glân y gellir eu selio.
  • Gwneud yn siŵr bod cacennau caws ac unrhyw gacennau neu bwdinau sy’n cynnwys hufen neu eisin menyn yn cael eu gadael allan am yr amser byrraf posibl.
  • Ceisio osgoi cyffwrdd â chacennau. Defnyddiwch tongs neu dorrwr cacennau.
Am ragor o gyngor, cysylltwch ag adran iechyd yr amgylchedd eich awdurdod lleol.


Pa mor hir alla'i adael bwyd allan mewn bwffe?

Yn gyffredinol, dylai bwydydd sydd angen eu hoeri (gan gynnwys y rhan fwyaf o’r bwydydd y mae pobl yn tueddu i’w gweini mewn bwffe a’r rhan fwyaf o'r pethau sy'n cael eu rhoi mewn brechdanau) gael eu gadael allan am gyn lleied o amser â phosibl. Os cânt eu gadael ar dymheredd ystafell am amser hir, gall bacteria dyfu neu docsinau ffurfio, a gallai’r ddau beth hyn achosi gwenwyn bwyd.

Os wyt ti'n paratoi bwffe i dy ffrindiau neu’r teulu yn dy gartref, nid oes unrhyw reoliadau sy’n nodi am ba mor hir y gelli adael bwyd allan ond, er mwyn sicrhau dy fod yn bod yn ddiogel, dylet ei adael allan am gyn lleied o amser â phosibl (heb fod yn fwy na dwy awr). Yna, dylai unrhyw fwyd sy’n weddill gael ei daflu neu ei roi yn ôl yn yr oergell. Os wyt ti'n cadw bwyd sydd dros ben yn yr oergell, paid â gadael iddo sefyll ar dymheredd ystafell y tro nesaf y byddi di'n ei weini.

Fodd bynnag, os wyt ti'n paratoi bwffe (neu unrhyw fwyd arall) fel rhan o fusnes a allai, o dan rai amgylchiadau, gynnwys digwyddiadau elusennol neu gymunedol, bydd rhaid i ti ddilyn rheoliadau diogelwch bwyd. Mae’r gyfraith yn ei gwneud hi’n ofynnol i arlwywyr gadw rhai bwydydd ar dymereddau penodol am resymau diogelwch bwyd. Dylai bwydydd sydd i fod yn oer gael eu cadw ar dymheredd o 8ºC neu lai, a dylid cadw bwydydd sy’n cael eu cadw’n boeth cyn eu gweini ar dymheredd o 63ºC neu uwch. i gael rhagor o wybodaeth am ba reoliadau sy’n berthnasol i ti, cysyllta ag adran iechyd yr amgylchedd dy awdurdod lleol.

Mae’r gyfraith yn caniatáu i fwyd gael ei gadw ar dymheredd ystafell am gyfnodau cyfyngedig wrth weini neu os yw’n cael ei arddangos. Gall tymheredd bwydydd sydd i fod yn oer fod yn fwy na 8ºC am hyd at bedair awr, a gall tymheredd bwydydd sydd i fod i gael eu gweini’n boeth fod yn llai na 63ºC am hyd at ddwy awr. Fodd bynnag, dim ond unwaith y gellir defnyddio’r hyblygrwydd hwn ar gyfer pob bwyd. Mewn geiriau eraill, ni ellir gadael yr un bwyd ar dymheredd ystafell am fwy nag un cyfnod, hyd yn oed os yw’r cyfnodau ar wahân yn rhoi cyfanswm o bedair (neu ddwy) awr. Ar ôl un cyfnod ar dymheredd ystafell, dylai bwyd gael ei daflu neu ei oeri tan ei fod yn cael ei ddefnyddio am y tro olaf.


Oes angen i mi labelu cacennau a jam a werthir i godi arian ar gyfer elusen?

Os wyt ti’n gwerthu bwyd i godi arian ar gyfer elusen, hwyrach y bydd yn rhaid i ti ddilyn canllawiau labelu bwyd. Ni ellir bod yn sicr a fydd y rheoliadau’n berthnasol i ti gan y bydd hyn yn dibynnu ar sut y gwerthir y bwyd a’r sefydliad neu’r elusen sy’n ei werthu.

Yn gyffredinol, nid yw Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 yn berthnasol i fwyd nad yw wedi’i baratoi fel rhan o fusnes. Mae hyn yn golygu na fydd angen labelu’r rhan fwyaf o fwydydd a werthir i godi arian ar gyfer elusen, gan gynnwys bwyd a werthir mewn digwyddiadau unigol fel ffeiriau eglwys ac ysgol.

Ond os wyt ti’n gwerthu bwyd wedi’i becynnu i godi arian ar gyfer elusen yn rheolaidd (er enghraifft, jariau o jam neu gacennau mewn bocs), hwyrach y bydd yn rhaid i ti ddilyn y rheoliadau. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os nad wyt ti’n gwneud elw.

Nid oes angen labelu bwydydd a werthir yn rhydd. Felly, os wyt ti’n gwerthu cacennau a byns heb eu pecynnu, nid oes angen i ti eu labelu, hyd yn oed os wyt ti’n eu gwerthu’n rheolaidd. Fodd bynnag, pe bai unrhyw rai o’r cynhwysion wedi’u harbelydru neu eu haddasu’n enetig, byddai angen i ti nodi hynny.

I gael rhagor o wybodaeth am ba reoliadau sy’n berthnasol i’th sefyllfa di, cysyllta ag adran safonau masnach dy awdurdod lleol. Hwyrach y bydd angen i ti ddilyn rheoliadau hylendid bwyd hefyd – gofynna i adran iechyd yr amgylchedd dy awdurdod lleol am ragor o wybodaeth.

Os nad yw hi’n ofynnol i ti labelu bwyd, gallet wneud hynny’n wirfoddol, gan roi enw’r cynnyrch, rhestr o gynhwysion (yn nhrefn ddisgynnol pwysau) a manylion unrhyw gynhwysion a allai achosi alergedd, fel cnau. Os wyt ti’n labelu bwyd, mae’n rhaid i ti wneud yn siŵr bod yr wybodaeth yr wyt yn ei darparu yn gywir.


Holi cwestiwn i Sam

Os nad wyt ti'n gallu dod o hyd i'r ateb i dy gwestiwn di, anfona gwestiwn newydd drwy glicio ac y ddolen isod.

 

Nid oes modd i ni ateb pob cwestiwn, ond rydym yn cyhoeddi atebion ar amrywiaeth o bynciau yn rheolaidd.