Text only

Holi Sam...

Sam



Coginio



Dwi wedi cael digon o goginio twrci, mae’r cig wastad yn sych. Beth arall alla i ei gael i ginio Nadolig?

Mae yna sawl dewis ar gyfer cinio Nadolig traddodiadol. Beth am roi cynnig ar ŵydd neu hwyaden, neu hyd yn oed gyw iâr os ydych chi’n coginio i ychydig o bobl yn unig? Fel arfer, mae’r adar hyn yn llai na thwrci felly maen nhw’n coginio’n gyflymach ac mae hi’n haws cadw’r cig yn llaith.

Dyma rai awgrymiadau defnyddiol i’ch helpu chi i gynllunio’ch amserau coginio, ond cofiwch wneud yn siŵr bod yr aderyn wedi’i goginio’n gywir cyn ei weini, oherwydd gall bwyta dofednod heb eu coginio’n iawn achosi gwenwyn bwyd.

Dyma’r tair ffordd orau o wybod a yw dofednod wedi’u coginio:
  • dylai’r cig fod yn chwilboeth ym mhob rhan o’r aderyn

  • pan fyddwch chi’n torri trwy ran fwyaf trwchus y cig, ni ddylai’r cig fod yn binc

  • os bydd sudd yn llifo allan pan fyddwch chi’n torri’r twrci neu’n gwasgu’r glun, dylai fod yn glir
Cofiwch hwyrach y bydd rhai poptai, fel popty â chymorth ffan, yn coginio’r aderyn yn gyflymach – edrychwch ar lawlyfr gwneuthurwr y popty os allwch chi.

Mewn popty confensiynol

Fel canllaw cyffredinol:

  • Dylid coginio cyw iâr mewn popty wedi’i gynhesu ymlaen llaw ar dymheredd o 180ºC/350ºF/Marc Nwy 4 am 45 munud am bob cilogram ac 20 munud ar ben hynny.
  • Dylid coginio gŵydd mewn popty wedi’i gynhesu ymlaen llaw ar dymheredd o 220ºC/425ºF/Marc Nwy 7 am 35 munud am bob cilogram.
  • Dylid coginio hwyaden am 45 am bob cilogram ar dymheredd o 200ºC/400ºF/Marc Nwy 6.

Mewn popty â chymorth ffan

Fel canllaw cyffredinol:


  • Dylid coginio cyw iâr mewn popty â chymorth ffan wedi’i gynhesu ymlaen llaw ar dymheredd o 180ºC am 50 munud am bob cilogram a 40 munud ar ben hynny.

  • Awgrym: Gorchuddiwch y cyw iâr â ffoil tan y 30 munud olaf, a brasterwch bob 30 munud.
  • Dylid coginio gŵydd mewn popty â chymorth ffan wedi’i gynhesu ymlaen llaw ar dymheredd o 200ºC/400ºF/Marc Nwy 6 am 35 munud am bob cilogram ac 20 munud.

  • Awgrym: Rhowch gyllell drwy’r croen cyn coginio i helpu i ddraenio’r braster ac arllwyswch unrhyw fraster dros ben i ffwrdd hanner ffordd trwy’r coginio. Gorchuddiwch yr ŵydd â ffoil i atal y cig rhag sychu a’i dynnu am y 30 munud olaf.
  • Dylid coginio hwyaden am 35 munud am bob cilogram mewn popty â chymorth ffan wedi’i gynhesu ymlaen llaw ar dymheredd o 200ºC/400ºF/Marc Nwy 6.
    Awgrym: Rhowch gyllell drwy’r croen cyn coginio a draeniwch unrhyw fraster dros ben hanner ffordd trwy’r coginio. Nid oes angen gorchuddio hwyaden â ffoil.
Wrth goginio hwyaden a gŵydd, mae’n rhaid i’r popty fod yn boethach er mwyn toddi’r braster o dan y croen. Mae hi hefyd yn bwysig rhoi cyllell drwy’r croen cyn coginio a draenio unrhyw fraster dros ben hanner ffordd trwy’r coginio.


Rydw i wedi clywed y gall ailgynhesu reis achosi gwenwyn bwyd. Ydy hyn yn wir?

Mae’n bosibl cael gwenwyn bwyd trwy fwyta reis wedi’i ailgynhesu. Ond nid yr ailgynhesu ei hun yw’r broblem mewn gwirionedd – y ffordd y cafodd y reis ei storio cyn ei ailgynhesu sy’n achosi’r gwenwyn bwyd.

Gall reis heb ei goginio gynnwys sborau Bacillus cereus, bacteria sy’n gallu achosi gwenwyn bwyd. Pan fo reis yn cael ei goginio, gall yr sborau oroesi. Yna, os cedwir y reis ar dymheredd ystafell, bydd y sborau’n datblygu’n facteria. Bydd y bacteria hyn yn lluosi a gallant gynhyrchu tocsinau (gwenwynau) sy’n achosi chwydu neu ddolur rhydd. Ni fydd ailgynhesu’r reis yn cael gwared ar y tocsinau hyn.

Felly, po hiraf y byddwch chi’n cadw reis wedi’i goginio ar dymheredd ystafell, y mwyaf tebygol y gallai bacteria, neu’r tocsinau a gynhyrchir, wneud y reis yn beryglus i’w fwyta.

Y peth gorau i’w wneud yw bwyta reis yn syth ar ôl iddo gael ei goginio. Os nad yw hynny’n bosibl, dylech oeri’r reis cyn gynted â phosibl (yn ddelfrydol o fewn awr) a’i gadw yn yr oergell am hyd at ddiwrnod cyn ei ailgynhesu.

Wrth ailgynhesu unrhyw fwyd, cofiwch wneud yn siŵr bod pob rhan o’r bwyd yn chwilboeth, a cheisiwch osgoi ailgynhesu fwy nag unwaith.


Sut alla i wneud yn siŵr bod bwyd yn cael ei goginio’n iawn ar y barbeciw?

Mae sawl peth y gelli eu gwneud i sicrhau fod bwyd yn cael ei goginio’n iawn ar y barbeciw:
  • Rho gyfle i'r golosg (charcoal) troi'n goch, gydag arwyneb llwyd fel powdr, cyn dechrau coginio.
  • Gwna'n siŵr bod bwyd sydd wedi’i rewi yn cael ei ddadmer yn iawn cyn ei goginio.
  • Cofia droi'r bwyd yn rheolaidd a'i symud o gwmpas y barbeciw i sicrhau fod pob rhan ohono’n cael ei goginio’n drylwyr.
Cofia - efallai na fydd cig sy’n edrych fel ei fod wedi’i goginio ar y tu allan wedi’i goginio yn y canol. Paid â chymryd risg! Gall bwyta cig heb ei goginio ddigon achosi gwenwyn bwyd.

Gwna'n siŵr bod pob rhan o’r bwyd yn chwilboeth trwyddo, nad oes unrhyw gig pinc ar ôl mewn cyw iâr, byrgyrs, selsig a chebabs a bod unrhyw sudd yn llifo’n glir.

Mae hefyd yn bwysig cadw cig amrwd ar wahân i gig wedi’i goginio a bwydydd parod, fel salad a rholiau, i atal bacteria rhag lledaenu. Dyma rai awgrymiadau diogelwch i’w cofio:
  • Golcha dy ddwylo’n drylwyr ar ôl trin cig amrwd.
  • Defnyddia offer gwahanol ar gyfer cig amrwd a chig wedi’i goginio.
  • Paid â rhoi cig wedi’i goginio ar blât neu arwyneb sydd wedi’i ddefnyddio ar gyfer cig amrwd (oni bai ei fod wedi’i olchi’n drylwyr).
  • Paid â rhoi cynhyrchion cig amrwd wrth ymyl cig wedi’i goginio neu sydd wedi dechrau coginio ar y barbeciw.
  • Paid ag ychwanegu saws neu farinâd at fwyd wedi’i goginio os yw eisoes wedi’i ddefnyddio gyda chig amrwd.


Pam fod labeli rhai bwydydd wedi’u rhewi’n dweud ‘coginio’n syth o’r rhewgell’ (cook from frozen) ac eraill yn dweud ‘dadrewi cyn coginio’ (defrost then cook)?

Rhoddir cyfarwyddiadau coginio ar labeli bwyd am ddau brif reswm – i helpu i sicrhau bod y bwyd yn cael ei goginio’n gywir a’ch bod chi yn gallu ei fwynhau.

Nid yw rhewi’n effeithio ar ddiogelwch bwyd gan na all bacteria dyfu ar dymheredd oer iawn. Os bydd label yn nodi bod bwyd yn addas i’w goginio’n syth o’r rhewgell, bydd hi’n ddiogel gwneud hyn cyn belled â’ch bod yn dilyn y cyfarwyddiadau ac yn gofalu bod pob rhan o’r bwyd yn chwilboeth cyn ei weini.

Fodd bynnag, gall rhewi effeithio ar ansawdd bwyd, er enghraifft, ei ymddangosiad, ei ansawdd a’i flas. Bydd yr effeithiau hyn yn amrywio’n dibynnu ar y bwyd ac am ba hyd y cafodd ei rewi. Gyda rhai cynhyrchion, gall cynhyrchydd benderfynu y bydd y bwyd yn well os caiff ei ddadrewi cyn ei goginio. Hwyrach y bydd cynhyrchion eraill cystal, neu hyd yn oed yn well, i’w bwyta os cânt eu coginio’n syth o’r rhewgell. Felly, ansawdd fydd y brif ystyriaeth i gynhyrchwyr fel arfer wrth benderfynu a ddylai gynghori’r defnyddiwr i ddadrewi cyn coginio ai peidio.

Mae hi’n bwysig dilyn y cyfarwyddiadau dadrewi a choginio ar becynnau gan eu bod yno i sicrhau bod y bwyd yn cael ei goginio’n drylwyr. Er enghraifft, os yw’r label yn nodi amser coginio ar gyfer bwyd wedi’i ddadrewi a’ch bod yn ei goginio’n syth o’r rhewgell, ni fyddwch yn gwybod am faint o amser i’w goginio i wneud yn siŵr ei fod yn cael ei goginio’n drylwyr.

Os byddwch chi’n gadael bwyd i ddadrewi am amser hir ar dymheredd ystafell, gallai hyn alluogi i facteria dyfu yn y bwyd. Fel arfer, gellir lladd y bacteria hyn trwy goginio’r bwyd yn gywir ond, os na chaiff y bwyd ei goginio ddigon, gallai’r bacteria oroesi a’ch gwneud chi’n sâl. Oherwydd hyn, dylech wastad sicrhau bod pob rhan o’r bwyd yn chwilboeth cyn i chi ei fwyta.


Yw hi’n ddiogel bwyta tofu heb ei goginio?

Mae’r tofu sydd ar gael mewn siopau eisoes wedi’i goginio wrth ei gynhyrchu, a ddylai fod wedi lladd unrhyw facteria a oedd yn bresennol yn y ffa soia a ddefnyddiwyd i wneud y tofu.

Felly, dylai fod yn ddiogel bwyta tofu a brynwch mewn siop heb ei goginio, cyn belled â’ch bod yn dilyn y cyfarwyddiadau ar y pecyn.


A oes unrhyw ganllawiau penodol ar gyfer coginio gyda phopty microdon?

Wrth goginio gyda phopty microdon, neu drwy unrhyw ddull arall, y peth pwysicaf yw gwneud yn siŵr bod y bwyd yn cael ei goginio’n drylwyr, gan ddinistrio unrhyw facteria gwenwyn bwyd a all fod yn bresennol.

Wrth goginio neu ailgynhesu prydau yn eich popty microdon, dilynwch y canllawiau ar y pecyn, gan gynnwys unrhyw gyngor ar droi’r bwyd neu ei adael i sefyll. Os na ddarperir canllawiau i goginio mewn popty microdon, dylech ddarllen cyfarwyddiadau cynhyrchydd y microdon.

Wrth ailgynhesu bwyd, cofiwch fod angen i chi wneud yn siŵr bod pob rhan ohono’n chwilboeth. Peidiwch ag ailgynhesu bwyd fwy nag unwaith.


Holi cwestiwn i Sam

Os nad wyt ti'n gallu dod o hyd i'r ateb i dy gwestiwn di, anfona gwestiwn newydd drwy glicio ac y ddolen isod.

 

Nid oes modd i ni ateb pob cwestiwn, ond rydym yn cyhoeddi atebion ar amrywiaeth o bynciau yn rheolaidd.