Text only

Holi Sam...

Sam



Cig



Rwyf wedi clywed bod gweddillion nitroffwran wedi’u canfod mewn cyw iâr – beth yw nitroffwran?

Meddyginiaethau milfeddygol yw nitroffwran a ddefnyddiwyd i drin rhai heintiau mewn anifeiliaid. Fodd bynnag, maen nhw wedi’u gwahardd rhag cael eu defnyddio mewn anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd yn yr Undeb Ewropeaidd ers 1995. Cyflwynwyd y gwaharddiad oherwydd pryderon y gallai pobl fod mewn mwy o berygl o ddatblygu canser pe baen nhw’n bwyta bwyd a oedd yn cynnwys nitroffwran dros gyfnod maith. Mae’n rhaid i wledydd sydd am fewnforio cynhyrchion anifeiliaid i’r UE roi sicrwydd nad ydyn nhw’n cynnwys nitroffwran, neu’n cynnwys lefelau is na therfyn profi yr UE y cytunwyd arno.

Yn y ddwy flynedd ddiwethaf, mae nitroffwran wedi’i ganfod o bryd i’w gilydd mewn rhai bwydydd, gan gynnwys cyw iâr, ac mae’r bwydydd yr effeithiwyd arnyn nhw wedi’u tynnu oddi ar y silffoedd. O ganlyniad i hyn, cyflwynodd yr UE brofion gorfodol dros dro ar y cynhyrchion hyn o’r gwledydd y daeth y bwydydd yr effeithiwyd arnyn nhw, tan i’r broblem gael ei datrys.


Faint o brotein sydd ei angen arna i bob dydd?

Mae protein yn hollbwysig i’r corff dyfu a gwella ei hun, a dylai 15% o’r calorïau yr ydym ni’n eu bwyta bob dydd ddod o brotein. Rwyt ti’n debygol o fod yn cael digon o brotein os wyt ti'n bwyta deiet cytbwys.

Mae dynion angen oddeutu 44 i 55g o brotein y dydd ac mae menywod angen oddeutu 36 i 45g o brotein y dydd.

Mae plant hefyd angen digon o brotein i’w helpu i dyfu, ac mae faint maen nhw ei angen yn dibynnu ar eu pwysau. Fel canllaw cyffredinol:
  • mae plant 4 i 6 oed angen oddeutu 15 i 20g o brotein y dydd
  • mae plant 7 i 10 oed angen oddeutu 23 i 28g o brotein y dydd
Mae’r rhan fwyaf o blant yn y DU yn cael mwy o brotein na’r hyn sydd ei angen arnyn nhw.

Mae’r bwydydd canlynol yn ffynonellau da o brotein:
  • dofednod (mae darn cyffredin o frest cyw iâr wedi’i rostio yn cynnwys 27g o brotein)
  • cig heb lawer o fraster (mae dogn cyffredin o saws bolognese yn cynnwys 28g o brotein)
  • pysgod (mae tun bach o diwna a dogn cyffredin o ffiled penfras wedi’i botsio yn cynnwys 24g o brotein yr un)
  • caws (mae brechdan gaws gyffredin ar fara gwyn yn cynnwys tua 17g o brotein)
  • wyau (mae wy iâr maint cyffredin wedi’i ferwi’n cynnwys tua 6g o brotein)
  • llaeth (mae gwydraid 150ml o laeth hanner sgim yn cynnwys tua 5g o brotein)
  • codlysiau (mae tair llwy fwrdd o gorbys coch wedi’u berwi’n cynnwys tua 9g o brotein)
  • tofu (mae 100g o tofu yn cynnwys tua 23.5g o brotein)
  • bara (mae tafell o fara cyflawn yn cynnwys tua 3g o brotein)
Cofia dy fod angen deiet iach a chytbwys sy’n cynnwys:
  • prydau sy’n seiliedig ar fwydydd â starts, fel bara, reis, pasta a thatws – dylai dy ddeiet gynnwys tua thraean o’r bwydydd hyn
  • llawer o ffrwythau a llysiau, hefyd yn cyfrif am tua thraean o’th ddeiet – ceisia fwyta o leiaf pum dogn o amrywiaeth o ffrwythau a llysiau bob dydd
  • rhywfaint o gig, pysgod, wyau neu godlysiau
  • rhywfaint o laeth a chynhyrchion llaeth, fel iogwrt a chaws, gan ddewis opsiwn braster is os yw hynny’n bosibl
Gall fod yn anoddach i lysieuwyr, a figaniaid yn enwedig, gael digon o brotein. Felly os wyt ti'n llysieuwr, ceisia fwyta cymysgedd o fwydydd sy’n cynnwys llawer o brotein bob dydd, a dewisa fathau amrywiol. Er enghraifft, gelli fwyta:
  • codlysiau, fel corbys, ffa a ffacbys
  • cnau a hadau
  • wyau
  • cynhyrchion soia, fel tofu, miso a diodydd soia
  • mycoprotein, a werthir fel QuornTM
  • proteinau gwenith, fel grawnfwydydd, bara, reis ac indrawn
  • llaeth a chynhyrchion llaeth


A yw cig wedi’i orgoginio neu ei losgi yn garsinogenaidd?

Wrth orgoginio neu losgi cig neu gynhyrchion cig, fel selsig, gall llawer o gemegau, fel hydrocarbon aromatig amlgylchredol (PAHs) ac aminau heterosylig (HAs) ffurfio.

Mae PAHs hefyd i’w canfod yn yr amgylchedd oherwydd eu bod yn cael eu cynhyrchu wrth losgi tanwyddau ffosil neu sbwriel. Maen nhw hefyd mewn mwg baco a gollyngiadau o bibell gwacáu cerbydau. Ar ôl i’r cemegau hyn gael eu ffurfio, mae’n anodd i’w dadelfennu ac mae rhywfaint ohonyn nhw yn bresennol yn y mwyafrif o fwydydd. Felly, mae pobl yn bwyta rhywfaint o PAHs yn eu deiet arferol.

Mae PAHs a HAs yn cael eu ffurfio wrth i fwyd gael ei goginio mewn tymheredd uchel (dros 150°C), er enghraifft, wrth grilio, ffrio neu goginio ar farbiciw. Dim ond mewn cig, dofednod a physgod y mae HAs yn ffurfio, ond gellir canfod PAHs mewn bwydydd eraill hefyd.

Mae rhai PAHs a HAs yn achosi canser mewn anifeiliaid, a chredir eu bod yn gwneud hyn drwy ryngweithio â DNA (deunydd genetig sylfaenol). Gelwir cemegau sy’n adweithio fel hyn yn genotocsinau. Mae rhai PAHs hefyd yn achosi canser mewn pobl. Ar hyn o bryd, nid ydym yn gwybod a yw HAs yn achosi canser mewn pobl, ond credir eu bod yn gallu cyfrannu at achosi canser.

Mae’n amhosibl pennu lefel ddiogel o gymeriant genotocsinau, ond mae arbenigwyr annibynnol yn cynghori y dylai cymeriant fod mor isel â phosibl.

Gallwch leihau’r swm o PAHs a HAs a ffurfir wrth i chi goginio cig drwy wneud y canlynol:
  • dewis cig a physgod heb lawer o fraster
  • peidio â gadael i fflamau gyffwrdd bwyd wrth i chi ddefnyddio’r barbiciw neu wrth grilio
  • coginio ar dymheredd is am fwy o amser
Er y gall gorgoginio cig gynhyrchu cemegau niweidiol, mae’n bwysig iawn sicrhau eich bod yn coginio cig yn iawn. Fel arall, gallai unrhyw facteria yn y cig oroesi ac achosi gwenwyn bwyd. Mae’n bwysig iawn sicrhau bod cyw iâr a chynhyrchion briwgig, fel byrgyrs a selsig, yn chwilboeth drwyddyn nhw ac nad oes cig pinc ar ôl. Dylai unrhyw suddion lifo’n glir.

Wrth ddefnyddio’r barbiciw, rydych chi’n fwy tebygol o goginio bwyd yn iawn os ydych chi’n ei goginio’n wastad dros wres sefydlog. Os ydych chi’n ei goginio dros fflamau, gallai losgi ar y tu allan a bod yn amrwd yn y canol. Disgwyliwch tan i’r siarcol gochi, gydag arwyneb llwyd powdrog, cyn i chi ddechrau coginio.


Sut ddylwn i ddadmer twrci'r Nadolig?

Mae’n bwysig iawn dadmer y twrci’n iawn cyn i ti ddechrau coginio. Gelli sicrhau ei fod wedi dadmer yn iawn drwy:
  • chwilio am ddarnau o rew y tu mewn i’r twrci
  • profi rhannau fwyaf trwchus y twrci gyda fforc i weld a yw wedi rhewi o hyd
Tynna'r twrci o'r pecyn a'i roi mewn dysgl fawr i ddal yr hylif wrth iddo ddadmer. Bydd tynnu’r giblets a’r gwddf yn cyflymu’r broses. Wrth i’r twrci ddadmer, tollta'r hylif i ffwrdd yn rheolaidd fel nad yw’n gorlifo ac yn lledaenu bacteria. Ond bydda'n ofalus nad wyt ti'n ei dasgu ar fwyd arall, arwynebeddau ac ati.

Gelli ddadmer twrci drwy roi’r ddysgl mewn lle oer, glân (yr oergell yn ddelfrydol) lle na fydd y twrci yn cyffwrdd â bwydydd eraill. Os nad yw’n bosibl dadmer y twrci yn yr oergell, gelli ei ddadmer mewn ystafell oer.

Cofia y bydd tymheredd y lle’r wyt ti'n dewis cadw'r twrci yn effeithio ar yr amseroedd dadmer. Os wyt ti'n dadmer y twrci mewn lle oer, fel garej, cofia gadw llygad barcud ar unrhyw newid eithafol yn y tymheredd. Os yw’n oer iawn, gallai hyn olygu na fydd y twrci’n dadmer yn iawn. Gorchuddia'r twrci gan wneud yn siŵr nad oes anifeiliaid anwes a phlant yn mynd yn agos ato.

Gelli hefyd ddadmer y twrci ar dymheredd yr ystafell, ond gofala nad yw’n cyffwrdd neu’n diferu ar fwydydd eraill (a gwna'n siŵr dy fod yn ei goginio’n iawn).

Canllawiau dadmer bras
Fesul cilogram, cofia ganiatáu tua:
10 i 12 awr mewn oergell ar 4°C/39°F
3 i 4 awr mewn ystafell oer (is na 17.5°C/60°F)
2 awr ar dymheredd yr ystafell (tua 20°C/68°F)

A chofia olchi dy ddwylo yn drylwyr cyn ac ar ôl trin twrci amrwd er mwyn sicrhau nad yw bacteria’n lledaenu i fwydydd eraill yr wyt ti'n eu paratoi.


A yw hi'n iawn i rewi cig ffres? A oes gwahanol gyngor ar gyfer mathau gwahanol o gig?

Mae’n iawn rhewi cig ffres os wyt ti'n gwneud y pethau canlynol:
  • ei rewi cyn y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ (‘use by’)
  • dilyn unrhyw gyfarwyddiadau rhewi neu ddadmer ar y label
  • ei ddadmer mewn microdon os wyt ti'n bwriadu ei goginio’n syth ar ôl ei ddadmer, fel arall gad iddo ddadmer mewn oergell er mwyn sicrhau nad yw’n cynhesu ormod
  • ceisia ddefnyddio’r cig o fewn deuddydd i’w ddadmer – bydd yn difetha yr un fath â chig ffres
  • coginia'r bwyd tan ei fod yn chwilboeth drwyddo
Coginia gyw iâr a chynhyrchion briwgig megis selsig a byrgyrs tan i’r suddion lifo’n glir ac nad oes cig pinc ar ôl.

Mae llawer o hylif yn dod o gig wrth iddo ddadmer. Bydd yr hylif hwn yn lledaenu bacteria i unrhyw fwyd, platiau ac arwynebedd coginio y bydd yn ei gyffwrdd. Cofia gadw'r cig mewn cynhwysydd wedi’i selio ar waelod yr oergell fel nad yw’n gallu cyffwrdd neu ddiferu ar fwydydd eraill.

Golcha blatiau, llestri, arwynebeddau a dwylo’n drylwyr ar ôl iddynt ddod i gysylltiad â chig amrwd neu gig sy’n dadmer.

Os wyt ti'n dadmer cig amrwd yna cofia ei goginio’n drylwyr. Gelli ei rewi eto, ond cofia, paid byth ag ailgynhesu bwyd fwy nag unwaith.

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i bob math o gig a dofednod.


Sut ddylwn i goginio estrys a chig carw?

Dylid coginio cig sydd wedi’i friwio, cig ar sgiwer neu gig sydd wedi’i rolio tan ei fod yn chwilboeth drwyddo ac nad oes unrhyw ran o’r cig yn binc, pa bynnag fath o gig ydyw.

Gellir gweini cig carw yn binc yn y canol, os yw’n doriad cyfan. Ni ddylid gweini estrys yn amrwd oherwydd ei fod fel dofednod. Sicrhewch ei fod yn chwilboeth drwyddo ac nad oes cig pinc ar ôl.

Os ydych chi’n coginio unrhyw gig ac nad ydych chi’n sicr a yw’n iawn ei weini’n amrwd, peidiwch â mentro a choginiwch y cig yn iawn.


Ydy’n iawn bwyta stecen amrwd a chig oen sy’n binc y tu mewn?

Gall cig gael ei halogi â bacteria wrth ei ladd a’i brosesu. Gyda thoriadau cyfan o gig, fel stêcs, cytledi (cutlets) a darnau mawr o gig (joints), mae unrhyw facteria fel arfer ar y tu allan i’r cig. Os yw’r tu allan wedi’i goginio, dylai hyn ladd unrhyw facteria, hyd yn oed os yw canol y cig yn binc. Mae hyn yn golygu y gelli di fwyta toriadau cyfan o gig eidion a chig oen os ydyn nhw’n binc neu’n amrwd, os mai dyna dy ddymuniad.

Ond mae bacteria i'w ganfod ym mhob rhan o gynhyrchion briwgig, fel byrgyrs a selsig, a hynny o ganlyniad i'r ffordd y maen nhw’n cael eu gwneud. Dyna pam ei bod yn bwysig coginio selsig a byrgyrs tan i'r suddion lifo’n glir ac nad oes unrhyw gig pinc ar ôl.

Gall dofednod a chig hela, fel cyw iâr, twrci, hwyaden a gŵydd, hefyd gynnwys bacteria, felly dylid eu coginio tan nad oes unrhyw gig pinc ar ôl a than i'r suddion lifo’n glir.


Holi cwestiwn i Sam

Os nad wyt ti'n gallu dod o hyd i'r ateb i dy gwestiwn di, anfona gwestiwn newydd drwy glicio ac y ddolen isod.

 

Nid oes modd i ni ateb pob cwestiwn, ond rydym yn cyhoeddi atebion ar amrywiaeth o bynciau yn rheolaidd.