Holi Sam...![]() Ffrwythau a llysiau![]() ![]() A yw salad mewn bag yn ddiogel i’w fwyta? Rydw i wedi clywed y gall arwain at wenwyn bwyd.Mae salad a ffrwythau a llysiau eraill yn rhan bwysig o’n deiet a dylem wneud ein gorau i fwyta ‘5 y dydd’.Gallai unrhyw fwyd amrwd gynnwys germau ar y tu allan ond mae plicio neu goginio ffrwythau a llysiau yn cael gwared ar y germau hynny. Ond nid oes angen i ti wneud hyn gyda salad sydd wedi’i baratoi ymlaen llaw a’i werthu mewn bag sydd wedi’i labelu fel cynnyrch sy’n ‘barod i’w fwyta’. Mae’r rhain yn ddiogel i’w bwyta yn syth o’r paced. Mae pobl sy’n tyfu salad yn dilyn safonau llym i wneud yn siŵr mai prin iawn yw’r tebygolrwydd y bydd germau ar y salad wrth iddynt eu tyfu a’u cynaeafu. Cyn i’r salad gael ei roi mewn bag, caiff ei olchi’n ofalus hefyd i gael gwared ar unrhyw halogiad a allai fod arno. Dylet gadw’r salad yn yr oergell a dilyn y cyfarwyddiadau sydd ar y label bwyd er mwyn helpu i gadw’r salad yn ffres. Fe ddarllenais yn ddiweddar bod rhai gwartheg wedi marw ar ôl bwyta tatws melys oedd wedi'u difrodi. Ydyn nhw'n niweidiol i bobl?Roedd y tatws melys wnaethoch chi ddarllen amdanyn nhw wedi'u difrodi a llwydni wedi tyfu arnyn nhw. Doedd dim pryder amdanyn nhw’n cyrraedd ein cadwyn fwyd ni, oherwydd nad oedden nhw’n cael eu hystyried o ansawdd digon uchel ar gyfer pobl.Mae tatws melys yn cael eu defnyddio'n aml fel bwyd i anifeiliaid, ond ni ddylid eu rhoi i wartheg os ydyn nhw wedi llwydo, oherwydd mae'r cemegau yn y llwydni yn gallu achosi clefyd ar yr ysgyfaint. Gall llwydni dyfu ar y rhan fwyaf o fwydydd os yw'r amodau'n addas ac maen nhw’n tyfu’n gynt mewn amodau cynnes a llaith. Wrth dyfu mae llwydni'n gallu cynhyrchu cemegau niweidiol o'r enw mycotocsinau. Ni fedrwch weld y cemegau hyn felly'r peth gorau yw rhoi unrhyw fwyd sydd wedi llwydo yn y bin. Dylech hefyd geisio osgoi bwyta darnau gwyrdd neu ddarnau sy'n egino ar datws. Mae hyn yn cynnwys tatws melys, oherwydd maen nhw'n gallu cynnwys lefelau uchel o gemegau niweidiol o'r enw glycoalcaloidau. Gallwch ganfod mwy drwy glicio ar y ddolen isod. Rwyf i’n bwyta ffa gwyrdd, ffa menyn a ffa Ffrengig tun bob dydd bron iawn, sy’n fwydydd wedi’u prosesu yn ôl pob tebyg. Rwyf i wedi clywed bod bwydydd wedi’u prosesu’n cynnwys llawer o halen, felly a ddylwn i roi’r gorau i fwyta llysiau a ffa tun?Mae’n wir fod llysiau a ffa tun wedi’u prosesu, ond nid yw hynny’n golygu nad ydyn nhw’n dda i chi.Yn aml, mae pobl yn defnyddio’r term ‘bwyd wedi’i brosesu’ fel ffordd gryno o ddisgrifio bwyd afiach o ansawdd isel ac mae llawer o fwydydd wedi’u brosesu’n cynnwys llawer o fraster, siwgr a halen a dim llawer o fitaminau a mwynau. Ond cofiwch fod y mwyafrif o fwydydd rydyn ni’n eu bwyta wedi’u prosesu mewn rhyw ffordd - er enghraifft, prosesir gwenith i mewn i flawd, a phrosesir llaeth i mewn i gaws. Felly dyw’r ffaith bod bwyd wedi’i brosesu ddim yn golygu ei fod yn ddewis afiach o reidrwydd. Mae corbys tun, fel ffa menyn a ffa Ffrengig, yn cynnwys protein, ffeibr, haearn, calsiwm a thiamin (a elwir hefyd yn fitamin AB1). Maen nhw’n llawer mwy cyfleus na chorbys sych, sydd angen eu mwydo a’u coginio am amser maith. Dewiswch duniau o gorbys a llysiau sy’n dweud ‘dim halen ychwanegol’, pryd bynnag bosibl. Os nad oes opsiwn dim halen ar gael, ceisiwch ddewis y brand gyda’r lleiaf o halen. Gallwch hefyd leihau cynnwys halen corbys a llysiau tun drwy eu diferu a’u rinsio dan ddŵr. Cofiwch y gall ffa pob gynnwys llawer o halen (ac ni allwch eu diferu), felly dewiswch fersiynau gyda chyn lleied o halen â phosibl. Mae llysiau tun fel ffa gwyrdd, moron a phys hefyd yn gyfleus oherwydd eu bod yn para am amser maith. Mae llysiau tun yn cynnwys lefelau is o fitamin C na llysiau ffres neu wedi rhewi, ond maen nhw’n cynnwys mwy o feta-caroten, haearn a chalsiwm na llysiau wedi’u berwi’n ffres. Mae corbys a ffrwythau tun yn cyfrif tuag at y pum dogn o ffrwythau a llysiau y dylai pawb geisio’u bwyta bob dydd. Mae tair llwy fwrdd dda yn un dogn. Ceisiwch fwyta amrywiaeth o ffrwythau a llysiau, gan gynnwys rhai ffres ac wedi rhewi. Peidiwch â bwyta ffrwythau a llysiau tun neu sych yn unig, gan eu bod yn cynnwys llai o fitaminau penodol, gan gynnwys fitamin C. Oes angen i mi olchi neu dynnu croen ffrwythau a llysiau?Mae'n syniad da i olchi ffrwythau a llysiau cyn eu bwyta i sicrhau eu bod yn lân ac i gael gwared â bacteria sydd efallai ar y tu allan.Os yw llysieuyn neu ddarn o ffrwyth yn arbennig o fudr, efallai nad yw ei olchi yn ddigon ac felly gall fod yn syniad i dynnu'r croen. Er enghraifft, mae weithiau angen crafu neu blicio moron i gael gwared â'r pridd. A yw madarch yn cyfrif tuag at fy nognau o ffrwythau a llysiau? Os felly, faint sydd mewn dogn?Mae madarch yn cyfrif tuag at eich dognau dyddiol o ffrwythau a llysiau. Mae tua 3 llwy fwrdd llawn o fadarch yn cyfrif fel un dogn.Fel y rhan fwyaf o ffrwythau a llysiau, nid yw madarch yn cynnwys llawer o fraster. Ond maen nhw'n amsugno llawer o olew wrth gael eu ffrio, felly ceisiwch ddefnyddio ychydig o olew. Gallwch ychwanegu fadarch at gaserol, cyri neu saws pasta. Ceisiwch grilio madarch y maes mawr gydag ychydig iawn o olew olifau a garlleg, neu ychwanegu madarch amrwd at salad. Cofiwch geisio bwyta o leiaf pum dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd. Mae'n bwysig bwyta amrywiaeth o wahanol fathau, i helpu i gael yr amrywiaeth o faetholion sydd eu hangen arnom i fod yn iach. A yw afocado yn ffrwyth neu’n lysieuyn? Pa faetholion sydd ynddo?Mae afocados yn cael eu hystyried yn ffrwythau, ond maen nhw'n cael eu bwyta mewn bwydydd sawrus fel arfer. Mae afocados yn cynnwys llawer o fitaminau a mwynau, yn cynnwys fitamin E, potasiwm a fitamin B6.Maen nhw hefyd yn llawn asidau brasterog monoddirlawn, sy'n gallu helpu i ostwng lefelau colesterol yn y gwaed. Fel rhan o ddeiet iach mae'n bwysig lleihau faint o fraster dirlawn rydym yn ei fwyta a bwyta braster annirlawn yn lle, yn ogystal â lleihau cyfanswm y braster rydym yn ei fwyta. Felly, mae afocados yn ddewis iach, ond peidiwch â bwyta gormod oherwydd maen nhw’n cynnwys mwy o fraster na'r rhan fwyaf o ffrwythau a llysiau,. Gall bwyta gormod o unrhyw fwyd sy'n cynnwys braster wneud i ni fagu pwysau os nad ydyn ni'n defnyddio'r egni drwy ymarfer corff. Mae hanner afocado yn cyfrif fel un o'r pum dogn o ffrwythau a llysiau amrywiol y dylen ni geisio eu bwyta bob dydd. A yw ffrwythau wedi'u pobi yn cyfrif tuag at fy nognau dyddiol o ffrwythau a llysiau, hyd yn oed gyda siwgr wedi'i ychwanegu a brandi?Gall ffrwythau wedi'u coginio gyfrif tuag at dy bum dogn o ffrwythau a llysiau, p'un a wyt ti'n eu pobi, eu potsio neu eu stiwio. Mae afal wedi'i bobi, gellygen wedi'i photsio a thair llwy fwrdd llawn o ffrwythau wedi'u stiwio yn cyfrif fel un dogn.Rwyt ti dal i gael y maethynnau o’r ffrwyth os wyt ti'n ychwanegu siwgr a brandi, ond cofia, er mwyn bwyta deiet iach, ni ddylet ti fwyta gormod o siwgr nac alcohol. Mae ffrwythau a llysiau ffres, rhai wedi'u rhewi neu eu sychu a rhai mewn tun yn cyfrif tuag at dy bum dogn y dydd. Mae sudd ffrwythau a llysiau yn cyfrif fel uchafswm o un dogn y dydd. I gael y gorau o'th ddognau dyddiol, dylet fwyta amrywiaeth mor eang â phosibl o ffrwythau a llysiau. Pa faethynnau sydd i'w cael mewn planhigyn wy (aubergine)?Mae planhigyn wy (aubergine) yn cynnwys amrywiaeth o fitaminau B, yn ogystal â photasiwm, haearn a sinc. Mae hefyd yn ffynhonnell eithaf da o ffeibr.Mae planhigyn wy wedi'i bobi yn ddewis iach gan ei fod yn isel mewn braster a chalorïau. Ond mae planhigion wy yn gallu amsugno llawer o olew wrth eu coginio sy’n eu gwneud yn llawer uwch mewn braster a chalorïau. Ond wrth ffrio planhigyn wy, cofia ddewis olew annirlawn, fel olew blodyn yr haul neu olew olewydd, yn hytrach na menyn neu ghee, a dim ond mymryn bach sydd ei angen. Mae un rhan o dair o blanhigyn wy yn cyfrif fel un o'r pum dogn o ffrwythau a llysiau y dylai pawb fod yn eu bwyta bob dydd. A chofia ei bod hi'n well bwyta amrywiaeth o rai gwahanol. A yw cnau coco yn cyfrif tuag at fy nognau ffrwythau a llysiau?Mewn gwirionedd mae cnau coco yn rhan o ffrwyth, ond yn faethol maen nhw'n cael eu hystyried yn gnau oherwydd y ffordd maen nhw’n cael eu bwyta, a hefyd oherwydd eu bod yn cynnwys maetholion tebyg i gnau. Felly nid yw cnau coco’n cyfrif tuag at eich dognau ffrwythau a llysiau.Mae cnau coco yn ffynhonnell dda o brotein a rhai fitaminau a mwynau, ac mae'n iawn ei fwyta fel rhan o ddeiet iach cytbwys. Ond, mae llaeth cnau coco a hufen cnau coco yn llawn braster dirlawn, felly mae'n well bwyta bwyd sy'n cynnwys ychydig o'r rhain yn unig. Mae dilyn deiet sy’n llawn braster dirlawn yn gallu codi lefel colesterol y gwaed a chynyddu’r perygl o ddatblygu clefyd y galon. Dylen ni gyd geisio bwyta o leiaf pum dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd i fod yn iach. Mae ffrwythau a llysiau ffres, wedi rhewi, tun, sych ac mewn sudd yn cyfrif. Ond mae sudd yn cyfrif fel uchafswm o un dogn y dydd. O ble ddaeth yr argymhelliad o fwyta o leiaf pum dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd?Yn wreiddiol, daeth y cyngor am fwyta swm penodol o ffrwythau a llysiau bob dydd gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), sy'n asiantaeth o'r Cenhedloedd Unedig sy'n arbenigo mewn iechyd.Yn 1991, dechreuodd y WHO argymell bwyta o leiaf 400g o ffrwythau a llysiau bob dydd. Mae un dogn o ffrwythau a llysiau yn 80g, felly mae pum dogn yn 400g. Mae cyngor y WHO yn seiliedig ar nifer o wahanol astudiaethau. Mae'r rhain wedi dangos yn gyson bod llai o achosion o glefyd y galon, rhai mathau o ganser a phroblemau eraill yn ymwneud ag iechyd mewn ardaloedd lle mae pobl yn bwyta llawer o ffrwythau a llysiau. Mae argymhelliad y WHO yn cael ei fabwysiadu gan lawer o grwpiau arbenigol cenedlaethol a rhyngwladol. Yn 1994, archwiliodd y Pwyllgor ar Agweddau Meddygol ar Bolisi Bwyd a Maetheg, sy'n cynghori Llywodraeth y DU, y cysylltiadau rhwng deiet a chlefyd y galon. Mae'r Pwyllgor wedi dod i'r casgliad bod ffrwythau a llysiau yn helpu i amddiffyn rhag clefyd y galon, a dylai pobl yn y DU fwyta o leiaf pum dogn y dydd. Yn y DU, dim ond tri dogn o ffrwythau a llysiau rydym yn ei fwyta ar gyfartaledd bob dydd. Felly fe ddylen ni geisio bwyta mwy o ffrwythau a llysiau i helpu ein hiechyd. A yw ffrwyth mewn jeli yn cyfrif fel dogn o ffrwythau a llysiau?Gall ffrwyth mewn jeli gyfrif tuag at y pum dogn o ffrwythau a llysiau y dylen ni fod yn ceisio eu bwyta bob dydd. Ar gyfer dogn cyfan, mae angen i chi gynnwys digon o ffrwyth, er enghraifft:ul> A yw corbys a ffa pob yn cyfrif tuag at fy nognau dyddiol o ffrwythau a llysiau?Gall ffa a chorbys gyfrif tuag at y pum dogn o ffrwythau a llysiau y dylen ni fod yn ceisio eu bwyta bob dydd, ond fel uchafswm o un dogn y diwrnod yn unig.Mae angen i chi fwyta tair llwy fwrdd lawn o gorbys neu ffa i gael un dogn. Mae corbys a ffa yn ffynonellau da o brotein ac yn llawn ffeibr. Maen nhw hefyd yn cynnwys haearn, ond nid oes llawer o fitaminau A, C nac E ynddyn nhw. Mae angen i ni fwyta amrywiaeth o ffrwythau a llysiau i sicrhau ein bod yn cael y rhain a maetholion pwysig eraill. Gall ffa pob tun gynnwys llawer o siwgr a halen, felly ceisiwch ddewis mathau sydd â llai o siwgr a halen lle bo'n bosibl. Os ydych chi'n prynu corbys tun, dewiswch rai heb halen ychwanegol os yw hynny'n bosibl. Ydy hi'n bosibl cael fy nognau dyddiol o ffrwythau a llysiau i gyd o sudd?Nid yw yfed sudd ar ei ben ei hun yn ddigon i gael y pum dogn dyddiol o ffrwythau a llysiau y dylen ni anelu amdanyn nhw. Mae gwydriad o sudd ffrwythau a/neu sudd llysiau (150ml) yn cyfrif fel dogn o ffrwythau a llysiau, ond ni all sudd gyfrif mwy nag un dogn bob dydd, dim ots faint rydych chi'n ei yfed.Mae hyn oherwydd nad ydych chi'n cael yr un buddion maethol o sudd ag o ffrwythau a llysiau cyfan. Pan gaiff sudd ei gymryd o ffrwythau a llysiau, mae’r cynnwys ffeibr yn lleihau ac yn rhyddhau math o siwgr o'r ffrwyth neu lysieuyn sy'n gallu difetha dannedd, yn enwedig os ydych chi'n ei yfed yn aml. Dyna pam ei bod hi’n well, yn enwedig i blant, i gael sudd ffrwythau gyda phrydau a chadw at laeth neu ddŵr rhwng prydau. Amrywiaeth yw un o'r ffactorau allweddol i sicrhau deiet iach cytbwys, ac mae hyn yr un mor wir gyda’r ffrwythau a llysiau rydych chi'n eu bwyta. Po fwyaf o fathau o ffrwythau a llysiau rydych chi'n eu bwyta, yna'r mwyaf o fuddion fyddwch yn eu cael oherwydd mae pob ffrwyth a llysieuyn gwahanol yn cynnwys gwahanol faetholion. Gall bwyta lliwiau, blasau ac ansawdd amrywiol helpu i wneud bwyd yn fwy diddorol a phleserus. Dylen ni gyd geisio bwyta o leiaf pum dogn o ffrwythau a llysiau gwahanol bob dydd. Mae mathau ffres, wedi rhewi, tun a sych i gyd yn cyfrif tuag at eich dognau dyddiol. Cofiwch fod sudd dim ond yn cyfrif fel dogn ffrwythau a llysiau os yw'n 100% sudd. Mae dal yn cyfrif os yw’n grynodedig, wedi’i basteureiddio neu'n hir oes. Ond nid yw diodydd ffrwythau sydd angen eu gwanedu yn cyfrif gan eu bod yn cynnwys dŵr a siwgr ychwanegol hefyd. A yw olewydd yn cyfrif tuag at y pum dogn o ffrwythau a llysiau y dylen ni eu bwyta bob dydd?Mae pob math o ffrwythau a llysiau yn cyfrif tuag at ein dognau dyddiol, pa un ai bod nhw'n ffres, oer, wedi rhewi, mewn tun, mewn potel neu'n sych.Mae dogn tua 80 gram o ffrwythau neu lysiau, wedi i chi gael gwared â'r darnau na allwch eu bwyta fel croen anfwytadwy neu garreg. Ffrwyth y goeden olewydd yw olewydd ac maen nhw'n cynnwys ffeibr yn ogystal â rhai fitaminau a mwynau. Ond, oherwydd bod olewydd yn fach ac yn pwyso ychydig iawn, byddai angen i chi fwyta tua 30 i gael dogn! Mae'n well bwyta ychydig o olewydd ar y tro gan eu bod yn llawn halen fel arfer. Dylen ni gyd osgoi bwyta gormod o halen. Mae hyn oherwydd bod halen yn cynnwys sodiwm, ac mae gormod o sodiwm yn gallu codi'r perygl o bwysedd gwaed uchel, sy'n gallu cynyddu'r perygl o glefyd y galon a strôc. Felly gall olewydd gyfrif tuag at ddogn. Er enghraifft, gallwch fwyta olewydd fel rhan o salad cymysg mewn powlen bwdin - a fyddai’n cyfrif fel un dogn. Neu os ydych chi'n eu bwyta nhw ar bizza gyda dwy neu dair llwy fwrdd o lysiau - fel madarch, pupurau a thomatos - byddai hyn yn cyfrif fel dogn hefyd. A yw rhesins yn fyrbryd iach neu ydyn nhw'n cynnwys gormod o siwgr?Mae ffrwythau sych, yn cynnwys rhesins, yn ddewis iach os ydych chi eisiau byrbryd oherwydd maen nhw’n llawn ffeibr a fitaminau ac yn cyfrif tuag at eich dognau dyddiol o ffrwythau a llysiau. Mae prŵns a bricyll sych yn cynnwys beta-caroten, tra bod ffigys, prŵns, rhesins, syltanas a bricyll sych yn ffynonellau da o haearn. Ond ni cheir fitamin C mewn ffrwythau sych.Mae pob ffrwyth yn cynnwys siwgr, ond mae'r math o siwgr mewn ffrwythau yn llai niweidiol na'r siwgr ychwanegol sydd mewn melysion, cacennau, bisgedi, hufen iâ, mêl, sudd ffrwythau a bwydydd wedi’u prosesu. Os ydych chi'n poeni am faint o siwgr sy'n eich deiet, efallai byddai'n syniad i chi fwyta llai o'r mathau hyn o fwyd. Mae'n well i'ch dannedd i gael y rhain adeg prydau yn hytrach na rhyngddyn nhw. Mae faint o siwgr yn amrywio ac yn dibynnu ar y math o ffrwyth. Mae ffrwyth sych yn cynnwys mwy o siwgr na’r un pwysau o ffrwyth heb ei sychu gan fod y dŵr wedi cael ei . Am yr un rheswm, mae dogn o ffrwythau sych yn llai na dogn o ffrwythau ffres. Mae hanner i un llwy fwrdd o resins yn cyfrif fel un dogn o ffrwythau a llysiau. Mae byrbrydau iach eraill yn cynnwys ffrwythau ffres fel bananas, orennau ac afalau; llysiau amrwd fel darnau o foron, seleri a chiwcymbr; iogwrt sy’n isel mewn braster neu fromage frais; bynsen cyrens heb eisin, sgon neu gacen de. Rwy’n hoffi eirin a gellyg. Ydyn nhw’n dda i mi?Mae pob ffrwyth a llysieuyn yn dda i chi, felly mae’n iawn bwyta eich hoff fathau. Dylen ni gyd geisio bwyta o leiaf pum dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd, pa un ai bod nhw’n ffres, mewn tun, wedi rhewi, yn sych neu mewn sudd (mae sudd yn cyfrif fel un dogn y dydd yn unig). Gall bwyta digonedd o ffrwythau a llysiau leihau eich perygl o ddatblygu clefyd coronaidd y galon a rhai mathau o ganser.Mae pob gellygen, banana neu afal yn cyfrif fel un dogn. Gan fod eirin yn llai, mae angen dwy i wneud dogn. Mae gellyg ac eirin yn rhoi amrywiaeth o fitaminau a mwynau fel potasiwm, fitamin E a charoten. Mae gellyg hefyd yn ffynhonnell dda o ffeibr deietegol. Mae’n well bwyta amrywiaeth mor eang â phosibl o ffrwythau a llysiau. Yn ddelfrydol, dylai’ch pum dogn fod yn bum math gwahanol o ffrwythau a llysiau. (Ond cofiwch mai bwyd â starts yw tatws, felly nid ydyn nhw’n cyfrif tuag at eich pum dogn). Felly, gallwch chi barhau i fwyta eich hoff fathau, ond mae’n syniad da i arbrofi gyda phethau newydd. Dyma ambell i awgrym syml ynglŷn â sut i fwyta mwy o ffrwythau a llysiau:
A fedrwch chi gael calsiwm o sudd moron?Medrwch, mae moron yn cynnwys ychydig o galsiwm, ond mae yna ffynonellau llawer gwell ohono. Byddai gwydraid o sudd moron (150ml) yn cynnwys tua 24 miligram o galsiwm (pan nad oes dŵr na suddion eraill wedi’u hychwanegu).Mae gwydraid o sudd moron yn cyfrif fel un dogn o ffrwythau a llysiau. Dylen ni gyd geisio cael o leiaf pum dogn o ffrwythau a llysiau amrywiol bob dydd i wella ein hiechyd. Ond cofiwch fod suddion ffrwythau a llysiau yn cyfrif fel un dogn yn unig, dim ots faint rydych chi’n ei yfed. Y ffynonellau llysiau gorau o galsiwm yw bresych crych, ocra, marchryddugl a berwr y dŵr. Gallwch hefyd gael llawer o galsiwm o ffa coch, ffa soia, petit pois, brocoli, bresych, seleri a phannas. Mae ffynonellau da eraill o galsiwm yn cynnwys llaeth a chynnyrch llaeth, sardinau ac eog tun (o fwyta’r esgyrn hefyd), syltanas, bara a tofu. Gallwch brynu diodydd soia sy’n llawn calsiwm ac ambell i rawnfwyd brecwast sydd â chalsiwm ychwanegol. Mae calsiwm yn hanfodol ar gyfer esgyrn a dannedd iach. Mae’r cyhyrau (yn cynnwys cyhyr y galon) ei angen hefyd i gyfangu ac ymlacio’n iawn, ac i’r nerfau weithio’n dda. Mae hefyd yn hanfodol i waed allu ceulo’n iawn. A yw darnau gwyrdd tomatos yn wenwynig?Mae bwyd yn cynnwys llawer o gemegau naturiol sy’n hanfodol i’n iechyd, fel fitaminau a mwynau. Ond mae rhai bwydydd yn cynnwys sylweddau sy’n gallu bod yn niweidiol o’r enw tocsinau naturiol (gwenwynau).Gall tomatos gwyrdd anaeddfed gynnwys glycoalcaloidau, sy’n docsinau naturiol sy’n gallu amharu ar y bibell gastroberfeddol. Gall hyn achosi symptomau fel chwydu a dolur rhydd. Os oes lefelau uchel o glycoalcaloidau mewn tomatos bydd y blas yn chwerw. Felly, os nad yw tomato yn edrych yn aeddfed neu ei fod yn blasu’n arbennig o chwerw, mae’n well peidio â’i fwyta. Nid yw’r tocsinau hyn i’w cael mewn tomatos coch aeddfed. Ydy e’n wir nad yw tatws yn cyfrif tuag at fy nognau dyddiol o ffrwythau a llysiau?Mae tatws yn llysieuyn wrth gwrs, ond dydyn nhw ddim yn cyfrif tuag at ein dognau dyddiol o ffrwythau a llysiau.Mae hyn oherwydd mai’r prif faetholyn sydd mewn tatws yw carbohydrad (starts). Hefyd, pan rydyn ni’n eu bwyta fel rhan o bryd, maen nhw fel arfer yn lle math arall o garbohydrad/starts, fel bara, pasta neu reis. Felly maen nhw’n cael eu hystyried yn fwyd â starts yn hytrach na llysieuyn. Llysiau eraill nad ydyn nhw’n cyfrif tuag at ein pump y dydd yw iamau, casafa a llyriad, pan maen nhw’n cael eu bwyta fel bwyd â starts. Ond mae gwreiddlysiau eraill fel pannas, rwdan a maip, yn cael eu bwyta yn ogystal â bwyd â starts mewn pryd. Felly maen nhw’n cyfrif tuag at ein dognau o ffrwythau a llysiau. Mae tair llwy fwrdd lawn o wreiddlysiau yn un dogn. Dylen ni gyd geisio bwyta o leiaf pum dogn o ffrwythau a llysiau amrywiol bob dydd. Pam fod llysiau gwyrdd yn dda i mi?Mae yna lawer o wahanol fathau o lysiau gwyrdd. Yn ogystal â llysiau gwyrdd y gwanwyn a sbinaets, mae’r llysiau deiliog gwyrdd i gyd hefyd fel:ul> Mae llysiau gwyrdd yn llawn fitamin C, ffoladau, caroteinodau, fitamin K a chalsiwm, a hefyd yn rhoi ychydig o haearn. (Nid yw sbinaets yn ffynhonnell dda o galsiwm oherwydd mae’n cynnwys sylwedd sy’n atal ein corff rhag ei amsugno). Gall bwyta digon o ffrwythau a llysiau helpu i’n hamddiffyn rhag clefyd y galon a chanser, yn ogystal â chynnal ein cyrff. Felly, dylen ni geisio bwyta o leiaf pum dogn o ffrwythau a llysiau amrywiol bob dydd. A yw darnau gwyrdd ar datws yn ddrwg i ni?Mae’n well osgoi bwyta unrhyw ddarnau gwyrdd ar datws, gan eu bod yn cynnwys lefelau uchel o docsinau naturiol o’r enw glycoalcaloidau.Mae lefelau isel o glycoalcaloidau i’w cael mewn tatws fel arfer. Ond mae lefelau yn gallu bod yn uwch mewn:
Cofia storio tatws mewn lle tywyll, oer a sych i atal glycoalcaloidau rhag datblygu ynddyn nhw. Paid â bwyta darnau gwyrdd, darnau sydd wedi difetha neu droi'n ddrwg na darnau sy’n egino. Os yw'r tatws yn dal i flasu’n chwerw ar ôl i ti gael gwared ar y darnau hyn, mae’n well i ti beidio â’u bwyta, gan ei bod hi'n bosibl eu bod yn cynnwys lefelau uchel o glycoalcaloidau. Yn ddiweddar gwelais restr o flodau bwytadwy oedd yn cynnwys Banadl yr Alban. Roeddwn i o dan yr argraff bod y llwyn hwn yn wenwynig. A fyddai hi’n ddiogel i ddefnyddio ei betalau melyn mewn salad?Mae planhigion o deulu’r banadl yn cynnwys nifer o docsinau naturiol sy’n wenwynig. Mae rhai o’r tocsinau hyn yn glycoalcaloidau, sy’n achosi symptomau o salwch gastroberfeddol. Mae glycoalcaloidau i’w canfod mewn brigau, dail a hadau planhigion banadl a ni ddylid eu bwyta.Ychydig iawn o wybodaeth sydd ar gael i ddweud a yw blodau banadl yn wenwynig neu beidio. Ond, gan fod darnau eraill o’r llwyn yn wenwynig, byddai’n syniad da osgoi bwyta’r blodau. Gwyddom fod nifer o blanhigion sy’n blodeuo yn cynnwys nifer o docsinau naturiol, ond prin yw’r wybodaeth wyddonol am flodau bwytadwy, felly ni allwn roi cyngor penodol ar ba flodau gellir eu bwyta. Cofiwch, ni ddylech fwyta blodau o siop flodau, planhigfa na chanolfan arddio, oherwydd mae’n bosibl eu bod yn cael eu gorchuddio â phlaleiddiaid a fyddai’n gallu achosi niwed i bobl. Holi cwestiwn i SamOs nad wyt ti'n gallu dod o hyd i'r ateb i dy gwestiwn di, anfona gwestiwn newydd drwy glicio ac y ddolen isod. Nid oes modd i ni ateb pob cwestiwn, ond rydym yn cyhoeddi atebion ar amrywiaeth o bynciau yn rheolaidd.
|
|||||
|
|