Holi Sam...![]() Pysgod a physgod cregyn![]() ![]() Rwy’n ymwybodol bod angen i mi fwyta mwy o bysgod gan eu bod yn iach – a yw sgampi yn cyfrif?Gall sgampi fod yn ddewis iach. Mae sgampi (fel pysgod cregyn eraill) yn ffynhonnell dda o faethynnau megis calsiwm, ïodin a phrotein felly mae’n hawdd eu cynnwys yn rhan o ddeiet iach.Cimwch bach yw scampi mewn gwirioendd, a elwir hefyd yn ‘langoustine’ neu 'cimwch Norwy'. Fodd bynnag, y pryd y mae’r rhan fwyaf ohonom yn ei adnabod fel sgampi yw cynffonau langoustine sy’n aml yn cael eu ffrio’n ddwfn mewn cytew neu eu pobi mewn briwsion bara. Gall hyn wneud y sgampi yn uchel mewn braster a halen. Gall dogn 150g o sgampi wedi'i bobi mewn briwsion bara gynnwys tua 20.4g o fraster a tua 2.5g o halen (sef dros draean o'r uchafswm o halen y dylem ei fwyta mewn diwrnod) felly mae’n well mwynhau’r rhain fel trît o bryd i’w gilydd. Gall lefel y braster a’r halen amrywio eithaf tipyn gan ddibynnu ar y rysáit neu’r brand felly mae’n bwysig darllen y label i ddewis opsiwn iachach er mwyn i ti allu cymharu cynhyrchion tebyg. Ffordd arall o’i wneud hyd yn oed yn iachach yw paratoi dy sgampi dy hun, ac os yw ‘langoustines’ yn anodd cael gafael arnynt o gwmpas dy ardal di, mae hi wastad yn bosibl defnyddio pysgodyn arall. Mae’n bosibl i ti eu gwneud yn iachach drwy eu pobi yn hytrach na’u ffrio, gan ddefnyddio llwy de fach o olew annirlawn fel olew olewydd, olew blodyn yr haul neu olew hadau rêp a defnyddio briwsion bara yn hytrach na chytew. Mae hefyd yn bosibl lleihau lefel yr halen drwy beidio ag ychwanegu halen at dy friwsion bara. Beth am eu gweini gyda salad mawr ffres a thaten bob? A oes unrhyw ffynonellau llysieuol o'r asidau brasterog omega 3 sydd i’w canfod mewn pysgod?Mae rhai asidau brasterog omega 3 i’w canfod mewn rhai olewau llysiau, fel had llin, cnau Ffrengig a had rêp, ond dydyn nhw ddim yr un math o asidau brasterog â’r rhai sydd mewn pysgod.Mae’r asidau brasterog omega 3 mewn pysgod yn helpu i ddiogelu rhag clefyd coronaidd y galon. Ond mae tystiolaeth ddiweddar yn awgrymu efallai nad oes gan y math o asidau brasterog sydd mewn ffynonellau llysiau’r un manteision â'r rhai sydd mewn pysgod. Rwyf wedi clywed y dylai merched sy’n feichiog ac yn bwydo ar y fron osgoi rhai mathau o bysgod. Pam?Gallwch fwyta’r rhan fwyaf o fathau o bysgod pan ydych yn feichiog neu’n bwydo ar y fron. Mae bwyta pysgod yn dda i’ch iechyd ac i ddatblygiad eich babi. Ond dylech osgoi rhai mathau o bysgod a chyfyngu ar faint yr ydych yn ei fwyta o rai mathau eraill.Pan ydych yn feichiog neu’n cynllunio beichiogrwydd, ni ddylech fwyta siarc, cleddbysgod neu farlyn. Dylech hefyd gyfyngu ar faint o diwna yr ydych yn ei fwyta i ddim mwy na dwy stêc o diwna yr wythnos (sy’n pwyso tua 140g wedi’u coginio, neu 170g yn amrwd) neu bedwar tun maint canolig o diwna yr wythnos (gyda’r tun yn pwyso tua 140g ar ôl ei ddraenio). Y rheswm am hyn yw fod pysgod o’r fath yn cynnwys mwy o fercwri na mathau eraill o bysgod. Nid yw faint o fercwri a gawn o fwyd yn niweidiol i’r mwyafrif o bobl, ond os cymrwch i mewn lefelau uchel o fercwri pan ydych yn feichiog, gall hyn effeithio datblygiad system nerfol eich babi. Pan ydych yn bwydo ar y fron, nid oes raid i chi osgoi siarc, cleddbysgod neu farlyn, na chyfyngu ar faint o diwna tun yr ydych yn ei fwyta. Yn gyffredinol, pan ydych yn feichiog, dylech osgoi cael mwy na dau ddogn o bysgod seimllyd yr wythnos, fel samwn, brithyll, macrell a phennog, oherwydd y gallant gynnwys llygrwyr fel deuocsinau a biffenyliaid polyclorinedig (PCBs). Cofiwch fod tiwna ffres yn bysgodyn seimllyd, felly os bwytewch ddwy stêc o diwna ffres mewn un wythnos, ni ddylech fwyta unrhyw bysgod seimllyd eraill yr wythnos honno. Nid yw tiwna mewn tun yn cyfrif fel pysgodyn seimllyd, felly gallwch fwyta hwn yn ogystal â’r uchafswm o ddau ddogn o bysgod seimllyd (os nad yw’n diwna ffres neu’n gleddbysgod). Ond cofiwch beidio â bwyta mwy na phedwar tun canolig eu maint o diwna tun yr wythnos pan ydych yn feichiog neu’n ceisio beichiogi. Nid oes angen cyfyngu ar faint o bysgod gwyn yr ydych yn eu bwyta pan ydych yn feichiog neu’n bwydo ar y fron, ar wahân i siarc a marlyn. Rwyf wedi darllen bod eogiaid yn cael eu bwydo â rhywbeth i wneud eu cig yn fwy coch. Beth yw hwn, ac a yw'n ddiogel?Er mwyn cael mwy o liw ar bysgod, ychwanegir yr adchwanegyn canthacsanthin (E161g) at fwyd pysgod eog a brithyll a ffermir.Mae canthacsanthin ar gael yn naturiol ac yn perthyn i grŵp o sylweddau o'r enw carotenoidau. Mae'r sylweddau hyn yn perthyn i beta caroten, y pigment coch/oren sy'n bresennol mewn moron; ac mae beta caroten ei hun yn perthyn i fitamin A. Gellir defnyddio canthacsanthin mewn bwyd brithyll, eog a dofednod (i ychwanegu lliw at felynwy). Ym 1999, ystyriodd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd a Phwyllgor Gwenwyndra Cemegau mewn Bwyd, Cynhyrchion Defnyddwyr a'r Amgylchedd y DU y defnydd o ganthacsanthin mewn bwydydd anifeiliaid gan gytuno nad oedd y defnydd hwn o'r sylwedd yn codi unrhyw bryderon diogelwch bwyd. Yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr 2001, ystyriodd Pwyllgor Sefydlog y Comisiwn Ewropeaidd ar Fwyd a ddylid cynnwys cynhwysion a ddefnyddir mewn bwyd anifeiliaid i liwio'r cynnyrch terfynol ar labeli bwyd. Cefnogodd mwyafrif yr Aelod-wladwriaethau, yn cynnwys y DU, y safbwynt y dylai hyn fod yn ofynnol ac mae'r Comisiwn wedi cytuno i sefydlu grŵp arbenigol i drafod y materion yn fwy manwl. Mae rheolau newydd a gyflwynwyd ledled Ewrop ar 1 Ionawr 2002 yn ei gwneud hi’n ofynnol i labelu rhai pysgod a chynhyrchion pysgod, yn cynnwys eog, gyda gwybodaeth am y dull cynhyrchu (e.e. a yw'r pysgodyn wedi cael ei ddal yn y môr neu mewn dyfroedd mewndirol, neu wedi'i ffermio) a'r ardal lle cawsant eu dal. Faint o brotein sydd ei angen arna i bob dydd?Mae protein yn hollbwysig i’r corff dyfu a gwella ei hun, a dylai 15% o’r calorïau yr ydym ni’n eu bwyta bob dydd ddod o brotein. Rwyt ti’n debygol o fod yn cael digon o brotein os wyt ti'n bwyta deiet cytbwys.Mae dynion angen oddeutu 44 i 55g o brotein y dydd ac mae menywod angen oddeutu 36 i 45g o brotein y dydd. Mae plant hefyd angen digon o brotein i’w helpu i dyfu, ac mae faint maen nhw ei angen yn dibynnu ar eu pwysau. Fel canllaw cyffredinol:
Mae’r bwydydd canlynol yn ffynonellau da o brotein:
Pam ddylai menywod gyfyngu ar faint o bysgod olewog maen nhw'n ei fwyta nawr os ydyn nhw'n credu y byddan nhw'n cael babi rhyw ddydd?Gall pysgod olewog, fel eog, brithyll, macrell, penwaig, llysywen a silod mân, gynnwys llygryddion o'r enw diocsinau a PCBs (biffenylau polyclorinedig). Gall y rhain gronni yn ein cyrff dros gyfnod hir o amser.Ni ddylai menywod fwyta mwy na dau ddogn o bysgod olewog yr wythnos, os ydyn nhw'n credu y byddan nhw'n cael babi rhyw ddydd. Mae hyn er mwyn atal lefelau uchel o ddiocsinau y PCBs rhag casglu yn eu cyrff, gan y gallai'r rhain amharu ar ddatblygiad y babi os bydd y fenyw'n beichiogi yn y dyfodol. Os bydd menyw'n newid ei deiet pan mae'n feichiog, neu pan mae'n dechrau ceisio beichiogi, ni fydd hyn yn newid lefelau'r diocsinau a'r PCBs sydd yn ei chorff eisoes. Mae pysgod yn ffynhonnell brotein wych ac yn cynnwys fitaminau a mwynau hanfodol, felly mae'n dal i fod yn bwysig i fenywod fwyta digon o bysgod, cyn belled nad ydyn nhw'n bwyta gormod o bysgod olewog. Gall menywod nad ydyn nhw'n mynd i gael plant fwyta hyd at bedwar dogn o bysgod olewog yr wythnos. Gall dynion a bechgyn fwyta hyd at bedwar dogn hefyd. 140g yw dogn. Mae arolygon diweddar wedi dangos y gallai rhai mathau eraill o bysgod a chrancod gynnwys lefelau tebyg o ddiocsinau a PCBs i bysgod olewog. Merfog, torbwt, lleden Ffrengig, morgi a draenog y môr yw'r pysgod hyn. Dylai unrhyw un sy'n bwyta llawer o bysgod yn rheolaidd ystyried dewis amrywiaeth ehangach - bwyta llai o grancod a'r pum rhywogaeth uchod, a mwy sy'n cynnwys lefelau is o lygryddion, fel snaper coch, corbenfras, celog neu gegddu. A yw sardinau a phenwaig Mair tun yn cynnwys llawer o asidau brasterog omega 3, ac a yw penwaig Mair yn cynnwys mwy na sardinau?Mae sardinau a phenwaig Mair yn bysgod olewog, felly maen nhw'n ffynonellau da o asidau brasterog omega 3, sy'n gallu helpu i atal clefyd y galon.Mae penwaig Mair a sardinau'n bysgod bach yn nheulu'r penwaig. Gan mae'r un pysgodyn ydyn nhw yn y bôn, mae ganddyn nhw gynnwys omega 3 tebyg. Nid yw'r broses dunio'n lleihau faint o omega 3 sydd mewn sardinau na phenwaig Mair, felly mae sardinau a phenwaig Mair tun a ffres yn cyfrif fel pysgod olewog. Nid yw tiwna tun yn cyfrif fel pysgod olewog gan fod y rhan fwyaf o'i olewau yn cael eu colli yn ystod y broses dunio. Mae'n dweud ar duniau rhai mathau o sardinau a phenwaig Mair eu bod yn cynnwys asidau brasterog omega 3. Ond bydd pob math o sardinau a phenwaig Mair tun yn cynnwys omega 3, p'un ai yw dweud hynny ar y tun ai peidio. Mae byrbryd o sardinau neu benwaig Mair ar dost yn ffordd gyflym a hawdd i fwyta pryd o bysgod olewog. Dylai pob un ohonom ni fwyta dau ddogn o bysgod yr wythnos, yn cynnwys un dogn o bysgod olewog. Ni ddylai merched a menywod a allai gael babi rhyw ddydd, a menywod sy'n feichiog neu'n bwydo ar y fron fwyta mwy na dau ddogn o bysgod olewog yr wythnos. Gall menywod eraill, bechgyn a dynion fwyta hyd at bedwar dogn yr wythnos. A yw pysgod tun, fel tiwna ac eog, yn cyfrif fel pysgod olewog?Mae eog, sardinau, macrell, brithyll a phenwaig Mair tun a ffres yn cyfrif fel pysgod olewog. Mae hyn am nad yw'r broses dunio'n lleihau cynnwys braster y pysgod yn sylweddol.Mae tiwna ffres yn bysgodyn olewog sy’n cynnwys llawer o asidau brasterog. Ond mae'r asidau brasterog hyn yn gostwng i lefelau tebyg i bysgod gwyn wrth eu tunio. Felly, er bod tiwna tun yn ddewis iachus i'r rhan fwyaf o bobl, nid yw'n cyfrif fel pysgod olewog. Dylai pob un ohonom ni fwyta dau ddogn o bysgod yr wythnos, yn cynnwys un dogn o bysgod olewog. Ni ddylai merched a menywod a allai gael babi rhyw ddydd, a menywod sy'n feichiog neu'n bwydo ar y fron fwyta mwy na dau ddogn o bysgod olewog yr wythnos. Gall menywod eraill, bechgyn a dynion fwyta hyd at bedwar dogn yr wythnos. Gall pobl fwyta cymaint o diwna tun ag y maen nhw'n dymuno, ac eithrio menywod sy'n feichiog neu sy'n bwriadu beichiogi yn ystod y flwyddyn nesaf. Ni ddylai menywod hyn fwyta mwy na phedwar tun maint canolig o diwna yr wythnos (sy'n pwyso tua 140g y tun ar ôl eu draenio), neu ddwy stêc diwna (sy'n pwyso tua 140g ar ôl eu coginio neu 170g yn amrwd). Os yw pysgodyn wedi cael ei ffermio, oes rhaid dweud hynny ar y label?Mae’n rhaid i’r label ar bysgodyn wedi’i becynnu ymlaen llaw ddangos sut y cafodd ei gynhyrchu, er enghraifft, 'wedi’i ffermio' (farmed), 'wedi’i amaethu' (cultivated) , 'wedi’i ddal' (caught), neu 'wedi’i ddal mewn dŵr ffres' (caught in fresh water). Dylai’r label hefyd nodi:
Pan fo pysgodyn yn cael ei werthu’n rhydd ar gownter pysgod, mae’r un rheolau’n berthnasol. Ar y cyfan, dangosir y wybodaeth ar arwydd yn ymyl y pysgodyn. A yw ciperiaid yn bysgod olewog?Penwaig sydd wedi’u rhannu, eu diberfeddu, eu halltu a'u cochi yw ciperiaid. A chan fod penwaig yn bysgod olewog, mae ciperiaid yn bysgod olewog hefyd.Mae ciperiaid yn cael eu cochi mewn odyn ar dymheredd sy'n ddigon isel i osgoi coginio'r cnawd (is na 33°C). Felly, coginiwch giperiaid tan eu bod yn chwilboeth drwyddyn nhw cyn i chi eu bwyta bob amser. Dylai pob un ohonom ni geisio bwyta o leiaf dau ddogn o bysgod yr wythnos, yn cynnwys un dogn o bysgod olewog fel penwaig, sardinau, macrell, brithyll ac eog (ffres neu mewn tun). Mae pysgod yn ffynhonnell brotein wych ac yn cynnwys fitaminau a mwynau hanfodol. Mae pysgod olewog yn llawn asidau brasterog omega 3, sy'n gallu atal clefyd y galon. Yn draddodiadol, gweinir ciperiaid, wedi'u pobi neu eu grilio, i frecwast. Ond gallech eu bwyta gyda bara a salad gwyrdd i ginio neu swper hefyd. A allwch chi ail-rewi corgimychiaid sydd wedi'u dadrewi?Mae'n well osgoi dadrewi ac ail-rewi corgimychiaid. Pan fyddwch chi'n dadrewi bwyd, mae siawns y gallai rhywbeth fynd o'i le a fyddai'n caniatáu i facteria gwenwyn bwyd dyfu a lluosi.Mae corgimychiaid yn hynod ddarfodus ac yn tueddu i bara am gyfnod byr iawn ar ôl eu dadrewi. Dyma pam mae'n arbennig o bwysig dilyn unrhyw gyfarwyddiadau dadrewi neu storio ar y label. Pan fyddwch chi'n prynu corgimychiaid o archfarchnad neu gan werthwr pysgod, efallai eu bod wedi cael eu rhewi o'r blaen, hyd yn oed os nad ydyn nhw wedi rhewi pan fyddwch chi'n eu prynu. Edrychwch ar y label neu gofynnwch i'r unigolyn sy'n eich gweini os nad ydych chi'n siŵr. Ni ddylech chi rewi corgimychiaid sydd wedi'u dadrewi eisoes. Dylech ddadrewi corgimychiaid yn yr oergell gan eu cadw oddi wrth fwydydd eraill, a’u defnyddio'n gyflym. Pan fyddwch chi'n coginio neu'n ail-goginio corgimychiaid, dylech sicrhau bob amser eu bod yn chwilboeth drwyddyn nhw. A all wystrys achosi gwenwyn bwyd?Mae wystrys yn llawn maeth - maen nhw'n cynnwys mwynau fel calsiwm a haearn, a fitaminau - ac maen nhw’n isel mewn colesterol hefyd. Maen nhw'n enwog am eu nodweddion affrodisaidd tybiedig hefyd wrth gwrs, ac efallai mai dyma pam y bwyteir llawer ohonyn nhw adeg Diwrnod Santes Dwynwen.Ond gallai bwyta wystrys amrwd achosi gwenwyn bwyd neu hepatitis. Mae hyn am fod wystrys yn hidlo llawer iawn o ddŵr i gael eu bwyd a gallai unrhyw facteria a firysau a allai fod yn y dŵr gasglu yn yr wystrys. Os ydych chi'n poeni am hyn, gallech goginio'ch wystrys - byddan nhw'n dal i flasu'n hyfryd. Nid oes rheswm i feddwl chwaith y bydd eu coginio'n lleihau unrhyw nodweddion affrodisaidd! Os ydych chi am fwyta wystrys yn ddiogel, dilynwch y cyngor hwn:
A fydd bwyta pysgod sy'n cynnwys mwydod yn niweidio fy iechyd?Pan fydd pysgodyn yn cael ei goginio'n drylwyr, fel ei fod yn chwilboeth yr holl ffordd drwyddo, bydd unrhyw fwydod yn y pysgodyn yn cael eu lladd. Ni ddylai bwyta pysgod sydd â mwydyn marw ynddo achosi unrhyw niwed i chi. Gall bwyta pysgod sydd â mwydod byw ynddyn nhw achosi llid yn y stumog neu'r coluddyn bach. Mae achosion o hyn yn brin iawn yn y DU ond fe all arwain at salwch difrifol.Mae rhewi pysgod amrwd yn lladd mwydod. Os yw siop neu fwyty'n prynu pysgod gan brosesydd pysgod i'w bwyta'n amrwd neu bron yn amrwd (sushi neu benwaig amrwd er enghraifft) mae'n rhaid ei fod wedi'i rewi ar dymheredd o -20°C am 24 awr o leiaf. Os yw siop neu fwyty'n paratoi ei sushi ei hun ar y safle, neu'n derbyn pysgod sydd wedi’u dal yn ffres gan gwmni pysgota, efallai na fydd y pysgod wedi'u rhewi. Gofynnwch i'r staff os byddwch chi'n poeni am hyn. Holi cwestiwn i SamOs nad wyt ti'n gallu dod o hyd i'r ateb i dy gwestiwn di, anfona gwestiwn newydd drwy glicio ac y ddolen isod. Nid oes modd i ni ateb pob cwestiwn, ond rydym yn cyhoeddi atebion ar amrywiaeth o bynciau yn rheolaidd.
|
|||||
|
|