Holi Sam...![]() Wyau a chorbys![]() ![]() Ydy hi’n wir bod wyau’n cynnwys colesterol? A faint o wyau gaf i eu bwyta bob wythnos?Mae wyau’n cynnwys math o golesterol sydd i’w ganfod mewn llawer o fwydydd, sef colesterol deietegol. Mae corgimychiaid, wyau, iau ac arennau yn cynnwys mwy o golesterol deietegol na bwydydd eraill.Ond mae’r colesterol rydyn ni’n ei gael o’n bwyd yn cael llawer llai o effaith ar lefel y colesterol yn ein gwaed na’r swm o fraster dirlawn rydyn ni’n ei fwyta. Os ydych chi’n bwyta deiet cytbwys, does dim rhaid i chi fwyta llai o wyau (neu arennau neu gorgimychiaid), heblaw bod eich meddyg teulu neu ddeietegydd yn eich cynghori i wneud hynny. Fodd bynnag, mae iau hefyd yn cynnwys llawer o fitamin A, sy’n gallu bod yn niweidiol os ydych chi’n bwyta llawer ohono. Felly os ydych chi’n bwyta iau bob wythnos efallai y dylech chi beidio â’i fwyta mor aml gan fod y corff yn storio fitamin A a gall lefelau gynyddu dros y blynyddoedd. Os ydych chi angen gostwng lefel y colesterol yn eich gwaed, y peth pwysicaf yw bwyta llai o fraster dirlawn. Mae hefyd yn syniad da bwyta mwy o ffrwythau, llysiau a bwydydd sy’n cynnwys llawer o ffeibr fel ceirch a chorbys. Mae bwydydd sy’n cynnwys llawer o fraster dirlawn yn cynnwys cig brasterog, pasteiod cig, caws caled, menyn a lard, toes, cacennau a bisgedi, hufen, hufen sur a crème fraiche, olew cnau coco, hufen coco a hufen palmwydd. Mae llawer o bobl yn credu y dylech fwyta dim ond nifer penodol o wyau’r wythnos. Ond, nid oes rhaid i’r mwyafrif o bobl gyfyngu ar y nifer o wyau maen nhw’n ei fwyta os ydyn nhw’n bwyta deiet cytbwys sy’n cynnwys digon o ffrwythau a llysiau, yn seilio’u prydau ar fwydydd â startsh, yn bwyta nifer cymedrol o gynhyrchion llaeth a nifer cymedrol o fwydydd sy’n ffynonellau protein da, fel cig, pysgod, wyau, ffa a ffacbys. Cofiwch y dylech geisio bwyta amrywiaeth eang o fwydydd i gael yr holl faetholion sydd eu hangen arnoch chi. Mae wyau’n ffynhonnell dda o brotein, iodin a fitaminau fel D a B2. Mae wyau wedi’u potsio neu eu berwi’n ddewis iachach nag wyau wedi’u ffrïo, gan nad oes angen i chi ddefnyddio braster wrth goginio. I wneud wy wedi’i sgramblo iachach, gallech ddefnyddio llaeth sgim neu hanner-sgim yn hytrach na llaeth cyflawn, ac os ydych chi’n arfer ychwanegu menyn, defnyddiwch ychydig o sbred braster isel yn ei le neu rywfaint o olew llysiau fel olew blodau haul. A yw corbys a ffa pob yn cyfrif tuag at fy nognau dyddiol o ffrwythau a llysiau?Gall ffa a chorbys gyfrif tuag at y pum dogn o ffrwythau a llysiau y dylen ni fod yn ceisio eu bwyta bob dydd, ond fel uchafswm o un dogn y diwrnod yn unig.Mae angen i chi fwyta tair llwy fwrdd lawn o gorbys neu ffa i gael un dogn. Mae corbys a ffa yn ffynonellau da o brotein ac yn llawn ffeibr. Maen nhw hefyd yn cynnwys haearn, ond nid oes llawer o fitaminau A, C nac E ynddyn nhw. Mae angen i ni fwyta amrywiaeth o ffrwythau a llysiau i sicrhau ein bod yn cael y rhain a maetholion pwysig eraill. Gall ffa pob tun gynnwys llawer o siwgr a halen, felly ceisiwch ddewis mathau sydd â llai o siwgr a halen lle bo'n bosibl. Os ydych chi'n prynu corbys tun, dewiswch rai heb halen ychwanegol os yw hynny'n bosibl. Rwyf wedi clywed y gall cnau, cnau daear a ffrwythau sych gynnwys afflatocsinau. Beth yw’r rhain ac a ddylwn i beidio â bwyta’r mathau hyn o fwyd?Math o docsin yw afflatocsinau sydd i’w canfod yn naturiol mewn rhai bwydydd, fel:
Fodd bynnag, yn y DU a gweddill yr UE mae cyfyngiadau cyfreithiol ar gyfer afflatocsinau mewn bwydydd, i sicrhau bod pobl yn bwyta cyn lleied ohonyn nhw â phosibl. Mae awdurdodau iechyd porthladdoedd ac awdurdodau lleol yn profi samplau bwyd yn rheolaidd i sicrhau nad yw’r lefelau o afflatocsinau yn uwch na’r cyfyngiadau cyfreithiol hyn. Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd hefyd yn cynnal arolygon i fonitro lefelau afflatocsinau mewn bwydydd sy’n fwy tebygol o gynnwys lefelau uwch, ac yn cynghori gwneuthurwyr ar sut i gadw lefelau mor isel â phosibl. Does dim rhaid i chi beidio â bwyta cnau, pysgnau a ffrwythau sych. Maen nhw’n cynnwys maetholion pwysig ac felly gellir eu cynnwys fel rhan o ddeiet iach, cytbwys. Faint o brotein sydd ei angen arna i bob dydd?Mae protein yn hollbwysig i’r corff dyfu a gwella ei hun, a dylai 15% o’r calorïau yr ydym ni’n eu bwyta bob dydd ddod o brotein. Rwyt ti’n debygol o fod yn cael digon o brotein os wyt ti'n bwyta deiet cytbwys.Mae dynion angen oddeutu 44 i 55g o brotein y dydd ac mae menywod angen oddeutu 36 i 45g o brotein y dydd. Mae plant hefyd angen digon o brotein i’w helpu i dyfu, ac mae faint maen nhw ei angen yn dibynnu ar eu pwysau. Fel canllaw cyffredinol:
Mae’r bwydydd canlynol yn ffynonellau da o brotein:
A yw cnau yn fyrbryd iach i rywun â cholesterol uchel?Mae cnau yn ddewis da o fyrbryd am eu bod yn llawn amrywiaeth eang o faethynnau a maent yn uchel mewn ffeibr. Maent hefyd yn ffynhonnell dda o fraster annirlawn, a all helpu i leiahu lefelau colesterol yn y gwaed.Felly mae’n iawn bwyta cnau fel byrbryd, fel rhan o ddeiet cytbwys, iach. Ond cofia, mae cnau yn llawn braster, felly ceisia beidio bwyta gormod ohonynt. Ac mae’n syniad da osgoi cnau hallt am eu bod yn uchel iawn mewn halen, sy’n gallu codi pwysedd gwaed. Fel colesterol uchel, gall cael pwysedd gwaed uchel gynyddu dy siawns o ddatblygu clefyd y galon. Gall bwyta bwydydd sy’n uchel mewn braster dirlawn godi lefelau colesterol yn y gwaed. Felly ceisia gwtogi ar fwydydd fel bisgedi, cacennau, crwst, pastai cig, selsig, caws caled, menyn a bwydydd sy’n cynnwys olew cnau coco neu olew palmwydd. Dewis fwydydd sy’n llawn brasterau annirlawn yn lle hynny, fel pysgod olewog, afocados ac olew blodyn haul, had rêp ac olewydd. Gall cnau fod yn ddewis amgen da i fyrbrydau sy’n llawn braster dirlawn. A phaid anghofio y dylem hefyd geisio lleihau cyfanswm y braster yr ydym yn ei fwyta. Mae amrywiaeth yn rhan bwysig o ddeiet iach, ac mae hyn yn cynnwys byrbrydau hefyd. Mae rhai byrbrydau iach yn cynnwys ffrwythau ffres neu wedi’u sychu, iogwrt braster isel, llysiau amrwd, torth ffrwythau, taeniadau braster isel, a thorthenni cyrens (heb eisin). Holi cwestiwn i SamOs nad wyt ti'n gallu dod o hyd i'r ateb i dy gwestiwn di, anfona gwestiwn newydd drwy glicio ac y ddolen isod. Nid oes modd i ni ateb pob cwestiwn, ond rydym yn cyhoeddi atebion ar amrywiaeth o bynciau yn rheolaidd.
|
|||||
|
|