Holi Sam...![]() Diodydd![]() ![]() Ydy hi'n bosibl cael fy nognau dyddiol o ffrwythau a llysiau i gyd o sudd?Nid yw yfed sudd ar ei ben ei hun yn ddigon i gael y pum dogn dyddiol o ffrwythau a llysiau y dylen ni anelu amdanyn nhw. Mae gwydriad o sudd ffrwythau a/neu sudd llysiau (150ml) yn cyfrif fel dogn o ffrwythau a llysiau, ond ni all sudd gyfrif mwy nag un dogn bob dydd, dim ots faint rydych chi'n ei yfed.Mae hyn oherwydd nad ydych chi'n cael yr un buddion maethol o sudd ag o ffrwythau a llysiau cyfan. Pan gaiff sudd ei gymryd o ffrwythau a llysiau, mae’r cynnwys ffeibr yn lleihau ac yn rhyddhau math o siwgr o'r ffrwyth neu lysieuyn sy'n gallu difetha dannedd, yn enwedig os ydych chi'n ei yfed yn aml. Dyna pam ei bod hi’n well, yn enwedig i blant, i gael sudd ffrwythau gyda phrydau a chadw at laeth neu ddŵr rhwng prydau. Amrywiaeth yw un o'r ffactorau allweddol i sicrhau deiet iach cytbwys, ac mae hyn yr un mor wir gyda’r ffrwythau a llysiau rydych chi'n eu bwyta. Po fwyaf o fathau o ffrwythau a llysiau rydych chi'n eu bwyta, yna'r mwyaf o fuddion fyddwch yn eu cael oherwydd mae pob ffrwyth a llysieuyn gwahanol yn cynnwys gwahanol faetholion. Gall bwyta lliwiau, blasau ac ansawdd amrywiol helpu i wneud bwyd yn fwy diddorol a phleserus. Dylen ni gyd geisio bwyta o leiaf pum dogn o ffrwythau a llysiau gwahanol bob dydd. Mae mathau ffres, wedi rhewi, tun a sych i gyd yn cyfrif tuag at eich dognau dyddiol. Cofiwch fod sudd dim ond yn cyfrif fel dogn ffrwythau a llysiau os yw'n 100% sudd. Mae dal yn cyfrif os yw’n grynodedig, wedi’i basteureiddio neu'n hir oes. Ond nid yw diodydd ffrwythau sydd angen eu gwanedu yn cyfrif gan eu bod yn cynnwys dŵr a siwgr ychwanegol hefyd. Pam ei bod hi’n bwysig yfed llawer o ddŵr a faint ddylai oedolyn ei yfed bob dydd?Mae dŵr yn bwysig iawn i’n cyrff weithio’n iawn. Mae hyn oherwydd bod dŵr yn gyfrifol am symud maetholion o gwmpas y corff ac mae mwyafrif yr adweithiau cemegol yn ein celloedd yn digwydd mewn dŵr.Wrth i’ch corff weithio mae’n cynhyrchu cynhyrchion gwastraff. Mae rhai o’r cynhyrchion gwastraff hyn yn wenwynig ac mae’r corff yn cael gwared arnyn nhw drwy’r arennau mewn wrin, sy’n cynnwys dŵr yn bennaf. Rydyn ni hefyd yn colli dŵr drwy anweddiad wrth i ni anadlu a chwysu. Mae ein cyrff yn colli mwy o ddŵr wrth i’r tymheredd godi ac wrth i ni wneud mwy o ymarfer corff. I gadw’n iach, mae angen i chi roi’r hylifau rydych chi’n eu colli yn ôl yn y corff. Mewn hinsoddau cymedrol, fel y DU, dylem yfed o leiaf 6 i 8 cwpan/gwydraid o ddŵr (neu hylif arall) i atal diffyg hylif. Bydd eich corff angen mwy o hylifau mewn hinsoddau poethach. Gall diodydd sy’n cynnwys caffein (fel te, coffi a cola) weithredu fel diwretigion, sy’n golygu eu bod yn gallu gwneud i’ch corff golli mwy o ddŵr na’r arfer. Felly gall y diodydd hyn olygu bod eich corff angen mwy o ddŵr neu hylifau eraill nad ydyn nhw’n cael effaith diwretig. Ni ddylid yfed gormod o ddiodydd sy’n cynnwys siwgr, fel sudd ffrwythau, rhai diodydd ffrwythau a diodydd swigod, oherwydd eu bod yn gallu cyfrannu at bydru’ch dannedd. Fodd bynnag, gall un gwydraid o ddiod ffrwythau gyfrif tuag at y pum dogn o ffrwythau a llysiau y dylem eu bwyta bob dydd. Alla i yfed te yn lle dŵr i gael yr hylif sydd ei angen arna i bob dydd?Mae’n bwysig iawn i bawb yfed llawer o hylif bob dydd i gadw’n iach. Fel brasamcan, argymhellir oddeutu chwech i wyth cwpan, myg neu wydraid o hylif y dydd. Gallwch gael yr hylif o ffynonellau amrywiol, nid o ddŵr yn unig. Mae hoffter personol a’r dewis sydd ar gael yn cyfrannu’n bwysig at yr hyn y gallech ei ddewis i’w yfed.Wrth gwrs, mae’n haws yfed y swm cywir o hylif os ydych chi’n hoffi blas y ddiod, ac mae llawer o bobl yn hoffi blas te ac yn ei fwynhau. Mae’n well i bobl nad ydyn nhw’n hoffi blas dŵr ar ei ben ei hun yfed te na pheidio ag yfed o gwbl. Fodd bynnag, mae te hefyd yn ddiwretig. Mae hyn yn golygu y bydd yn gwneud i chi basio dŵr. Dylid osgoi yfed gormodedd o de oherwydd ei fod hefyd yn cynnwys caffein, sy’n eich adfywio’n ormodol. Gall yfed te gyda phrydau ostwng faint o haearn y gall y corff ei amsugno o’ch bwyd. Felly mae’n bwysig iawn i blant osgoi yfed te, yn enwedig gyda phrydau. Os nad ydych chi’n hoffi blas dŵr, rhowch gynnig ar ddŵr pefriog o botel, neu ychwanegwch rywfaint o ddiod ffrwythau neu sudd ffrwythau ato i ychwanegu mwy o flas. Gallech hefyd ychwanegu sleisen o lemwn neu leim i’w fywiogi. Osgowch yfed gormod o ddiodydd siwgr gan eu bod yn gallu pydru dannedd, yn enwedig dannedd plant. Holi cwestiwn i SamOs nad wyt ti'n gallu dod o hyd i'r ateb i dy gwestiwn di, anfona gwestiwn newydd drwy glicio ac y ddolen isod. Nid oes modd i ni ateb pob cwestiwn, ond rydym yn cyhoeddi atebion ar amrywiaeth o bynciau yn rheolaidd.
|
|||||
|
|