Holi Sam...![]() Gwenwyn bwyd![]() ![]() Rydw i wedi clywed fod salwch a achosir gan listeria yn cynyddu. Beth alla’i wneud i osgoi’r salwch hwn?Mae Listeria yn achosi math eithaf prin o wenwyn bwyd, sydd anaml iawn yn effeithio ar bobl iach, ond sy’n achosi salwch difrifol mewn rhai grwpiau penodol, megis merched beichiog, babanod yn y groth, babanod newydd anedig a phobl sydd ag imiwnedd isel. Mae salwch o ganlyniad i listeria wedi’i gysylltu â bwyta rhai bwydydd wedi’u hoeri sy’n barod i’w bwyta.Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae’r achosion o salwch o ganlyniad i listeria wedi cynyddu, yn bennaf mewn pobl dros 60 oed sydd â system imiwnedd wan. Mae’n bosibl bod y bobl hyn:
Mae’n bosibl atal listeria rhag tyfu ar fwyd drwy gadw bwydydd wedi’u hoeri allan o’r oergell am gyn lleied o amser â phosibl a pheidio â defnyddio bwyd ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’. Hefyd, gwna’n siŵr dy fod yn dilyn y cyfarwyddiadau storio ar labeli bwyd. Ond paid ag anghofio, dylet bob amser olchi dy ddwylo a glanhau arwynebau gwaith, offer cegin a byrddau torri, cyn cyffwrdd â bwyd. Bydd hyn yn dy warchod rhag listeria a germau niweidiol eraill. Am ba hyd y gall bacteria gwenwyn bwyd fyw ar offer cegin?Os yw cyllell sy’n cael ei defnyddio i agor paced sy'n cynnwys cyw iâr yn cael ei rhoi nôl yn y drôr yn syth a allai'r bacteria ledaenu ar offer cegin eraill?Mae'r amser y gall bacteria gwenwyn bwyd fyw ar offer cegin yn amrywio yn ol nifer o ffactorau. Yr unig ffordd i fod yn siŵr bod offer cegin yn ddiogel yw ei olchi’n dda mewn dŵr cynnes bob tro ar ol ei ddefnyddio. Ni ddylech roi cyllell yn ol yn y drôr os yw wedi bod mewn cysylltiad â bwyd, yn enwedig cig amrwd, heb ei olchi'n gyntaf. Fel arall, fe allai'r bacteria ledaenu i eitemau eraill yn y drôr, neu fyw ar y gyllell a mynd ar y bwyd y tro nesaf y byddwch yn ei ddefnyddio. A alla i gael salmonela o fwyta mayonnaise?Mae’n bosib bod bwydydd fel hufen iâ, cymysgedd teisen, mousses a mayonnaise cartref yn cynnwys wyau amrwd ac felly’n cynyddu'r perygl o salmonela.Mae cynnyrch masnachol yn cael eu gwneud ag wyau wedi’u pasteureiddio, sef wyau sydd wedi cael eu trin â gwres i ladd bacteria, yn cynnwys salmonela. Fe all cynnyrch masnachol hefyd gynnwys cynhwysyn asideiddio sydd hefyd yn lladd bacteria. Mae symptomau heintiad salmonela yn cynnwys dolur rhydd, taflu i fyny a phone stumog drwg. Fe allwch fod yn sâl am hyd at dair wythnos ac mae rhai pobl yn dal i gario'r organeb yn eu cyrff am hyd at 12 wythnos neu fwy ar ôl i'r symptomau dawelu. Fel rheol, mae angen nifer fawr o facteria i achosi salwch mewn oedolion iach, ond gellir heintio grwpiau mwy bregus, fel plant ifanc iawn, yr henoed a rhai sydd ag imiwnedd gwan, gan niferoedd llai. Cyngor yr Asiantaeth Safonau Bwyd yw y dylai pobl osgoi bwyta wyau amrwd, neu fwyd heb ei goginio sydd wedi’u gwneud o wyau amrwd, ac y dylai pobl hŷn, babanod, plant bach, menywod beichiog a phobl sydd eisoes yn sâl fwyta wyau sydd wedi eu coginio nes bod y gwyn a'r melynwy yn galed. Gallwch leihau'r perygl o wenwyn bwyd o fwyta wyau trwy wneud y canlynol:
Holi cwestiwn i SamOs nad wyt ti'n gallu dod o hyd i'r ateb i dy gwestiwn di, anfona gwestiwn newydd drwy glicio ac y ddolen isod. Nid oes modd i ni ateb pob cwestiwn, ond rydym yn cyhoeddi atebion ar amrywiaeth o bynciau yn rheolaidd.
|
|||||
|
|