Pa fathau o fraster sy’n cael eu cysylltu â chanser?
Mae'r math o fraster yn dy ddeiet yn bwysig i dy iechyd yn gyffredinol yn enwedig iechyd dy galon. Ond nid oes unrhyw dystiolaeth bod un math penodol o fraster – dirlawn, aml-annirlawn na mono-annirlawn – yn well neu’n waeth na’r llall o ran atal canser.
Fodd bynnag, mae pobl sy'n dueddol o fwyta deiet sy’n gymharol isel mewn braster gyda llawer o ffrwythau a llysiau, bwydydd â starts grawn cyflawn a chodlysiau yn dueddol o ddangos cyfraddau is o ganser na phobl sy'n bwyta deiet sy’n uchel mewn braster. Ond mae'n ymddangos mai manteision bwyta deiet iach a chytbwys gyda digon o ffrwythau a llysiau a bwydydd grawn cyflawn sy'n gyfrifol am hyn, yn hytrach na’r diffyg braster yn eu deiet.
Ond mae bwyta llai o fwydydd llawn braster dal i fod yn syniad da gan y gallai’r pethau hyn arwain at fagu pwysau, a gall bod dros bwysau neu’n ordew gynyddu’r perygl o ddatblygu rhai mathau o ganser. Mae’n arbennig o bwysig ein bod ni’n bwyta llai o fraster dirlawn gan y gallai hyn helpu i ostwng lefelau colesterol, a hynny'n ei dro'n gallu helpu i leihau’r perygl o ddatblygu clefyd y galon.
A fydd bwyta brocoli a bresych yn fy atal rhag datblygu canser?
Mae peth tystiolaeth fod llysiau yn nheulu'r brassica (brocoli, bresych, blodfresych, ysgewyll Brwsel) a theulu'r allium (nionod/winwns, garlleg) yn effeithiol am atal canser rhag datblygu. Fodd bynnag, mae’r math hwn o ymchwil yn cael ei gynnal yn barhaus, felly mae’n rhy gynnar i ddweud p’un a yw bwyta bresych y dydd yn lleihau’r perygl o ddatblygu canser.
Un peth yr ydym ni’n ei wybod serch hynny yw bod bwyta pum dogn neu fwy o ffrwythau a llysiau bob dydd yn gallu helpu i leihau'r perygl o ddatblygu rhai mathau o ganser. Mae hefyd yn bwysig bwyta amrywiaeth eang o wahanol fathau o ffrwythau a llysiau, er mwyn sicrhau ein bod ni’n cael cyfuniad o fitaminau a mwynau.
Mae llysiau yn nheulu'r brassica yn ffynonellau da o fitamin C a ffolad (ffurf naturiol asid ffolig). Felly hyd yn oed os nad ydynt yn fwydydd sy'n trechu canser, rho gynnig arall arnynt. Efallai dy fod fel plentyn wedi troi dy drwyn ar fresych wedi'i or-goginio, ond mae bresych wedi’i stemio’n ysgafn sy’n dal yn grensiog, yn blasu fel llysieuyn hollol wahanol!
A ddylwn i gymryd atchwanegiadau i osgoi datblygu canser?
Mae llawer o ddiddordeb wedi bod yn nodweddion gwrth-ganser rhai mathau o fitaminau a mwynau fel fitamin C, fitamin E, asid ffolig a seleniwm. Fodd bynnag, cymysg yw’r dystiolaeth ac nid oes modd bod yn siŵr a fyddai cymryd atchwanegiadau fitamin neu fwyta bwydydd sy’n uchel mewn fitaminau neu fwynau penodol yn atal canser. Mae'n bwysig peidio cymryd atchwanegiadau beta-carotin os wyt ti’n ysmygu gan y gallai dognau uchel ohono gynyddu’r perygl o ddatblygu canser.
Yr un yw'r stori gyda chyfansoddion naturiol eraill mewn bwyd, fel lycopen mewn tomatos, polyffenolau mewn te, fflafonoidau mewn ffrwythau, llysiau a gwin coch. Does gennym dim prawf fod gan y cyfansoddion 'bioactif' hyn unrhyw nodweddion gwrth-ganser ar ôl eu tynnu allan o fwydydd a'u cynhyrchu ar ffurf tabledi neu bowdwr.
Yr hyn yr ydym yn ei wybod yw y gall bwyta digon o ffrwythau a llysiau ein helpu rhag datblygu rhai mathau o ganser, gan eu bod yn darparu cyfuniad o fitaminau, mwynau a chyfansoddion bioactif eraill mewn ffordd naturiol.
Mae llus yn ogystal â bwydydd eraill fel te gwyrdd, afocados, brocoli, garlleg, moron, grawnwin, bresych, mafon, gwin coch ac orennau yn aml yn cael eu galw yn 'fwydydd llawn lles' (super foods). Y rheswm am hyn yw eu bod yn llawn gwrthocsidyddion neu gyfansoddion bwyd eraill y mae gwyddonwyr wedi canfod, mewn labordy, eu bod yn gallu lleihau twf celloedd canser. Ond mae bwlch mawr rhwng yr hyn sy'n gweithio mewn tiwb profi a'r hyn sy'n gweithio yn ein cyrff, ac mae’n rhy gynnar o lawer i ddweud bod bwyta llond llaw o fwydydd o’r rhestr hon yn ddigon i gadw canser draw.
Ffrwythau a llysiau yw'r rhan fwyaf o'r 'bwydydd llawn lles' hyn ac fe wyddom fod bwyta digon o ffrwythau a llysiau yn gallu helpu i atal rhai mathau o ganser. Ond mae’n debyg mai’r cyfuniad o’r holl wahanol gyfansoddion yn y ffrwythau a’r llysiau sydd â’r effaith warchodol yn hytrach nag un cyfansoddyn penodol yn y bwyd. Felly ceisia ddewis amrywiaeth o ffrwythau a llysiau a phaid ag anghofio rhai wedi’u rhewi, rhai mewn tun, rhai wedi’u sychu neu sudd.
Beth ddylai rhywun sydd â diabetes Math 2 ei fwyta?
Dylai pobl sydd â diabetes Math 2 ddilyn cyngor cyffredinol ar fwyta'n iach. Mae hyn yn golygu bwyta deiet cytbwys sy'n:
isel mewn braster (yn enwedig braster dirlawn)
isel mewn siwgr
isel mewn halen
uchel mewn ffrwythau a llysiau (o leiaf pum dogn y dydd)
uchel mewn bwydydd carbohydrad â starts, fel bara, chapatti, reis, pasta a iams
Fodd bynnag, dylai pobl sydd â diabetes osgoi yfed gormod o sudd ffrwythau gan fod siwgr y ffrwyth (ffrwctos) yn gallu achosi problemau gyda rheoli siwgr yn y gwaed.
Yn gyffredinol, dylai dy fam gyfyngu ar faint o fwyd llawn siwgr (fel melysion neu gacennau) y mae hi’n eu bwyta gan fod y corff yn amsugno’r siwgrau o’r bwydydd hyn yn rhy gyflym a gallai hyn amharu ar ei gallu i reoli ei siwgr gwaed. Mae’n well bwyta carbohydradau mewn ffurf sy’n rhyddhau siwgrau’n arafach, er enghraifft bara cyflawn.
Os yw hi’n dueddol o fod â siwgr gwaed isel (hypoglycaemia), mae’n bosib bod angen iddi weithiau godi ei siwgr gwaed yn gyflym. Os yn bosib, mae’n well bwyta rhywbeth a fydd yn cynyddu ei siwgr gwaed yn raddol, fel tafell o dost. Gall ei meddyg teulu neu ei hymarferydd nyrsio roi cyngor iddi am sut i fod yn barod ar gyfer hypoglycaemia a sut i’w reoli.
Nid yw’r Asiantaeth Safonau Bwyd na Diabetes UK (Cymdeithas Diabetes Prydain, gynt) yn argymell cynhyrchion sydd â label ‘diabetig’ penodol. Nid yw’r bwydydd hyn, o reidrwydd, yn iachach nac yn fwy addas ar gyfer pobl sydd â diabetes na bwydydd eraill. Ac maent yn dueddol o fod yn ddrutach na chynhyrchion eraill.
Yn fwy na dim, mae’n bwysig bod dy fam yn cynnal pwysau iach, yn enwedig wrth iddi fynd yn hŷn.
A fydd bwyta llawer o fwydydd wedi'u prosesu yn rhoi canser i mi?
Mae peth tystiolaeth fod pobl sy'n bwyta llawer o gig wedi'i brosesu (fel cig moch, ham, selsig a salami) yn fwy tebygol o ddatblygu canser y perfedd (sy’n effeithio ar y colon a'r rhefr).
Yn gyffredinol, mae cyfraddau rhai mathau o ganser yn is mewn pobl sy'n bwyta deiet cytbwys sy’n cynnwys ffrwythau a llysiau, bwydydd â starts grawn cyflawn a pheth pysgod yn eu deiet.
Does dim o'i le ar fwyta bwyd wedi'i brosesu weithiau, ond ceisia gael y cydbwysedd cywir drwy ddarllen y label a dewis bwydydd sy'n isel mewn braster, braster dirlawn, halen a mathau o siwgr. I gael rhagor o wybodaeth am fwyta deiet cytbwys iach, cofia edrych ar y plât bwyta'n iach.
Pa fwydydd alla’i eu bwyta i leihau’r perygl o ddatblygu canser?
Mae nifer o adroddiadau yn cael eu cyhoeddi bob dydd yn honni bod gwahanol fwydydd yn gallu atal canser, ond nid oes digon o dystiolaeth ar hyn o bryd i gefnogi hyn. Y peth gorau y gelli di ei wneud yw bwyta deiet iach a chytbwys gyda digon o ffrwythau a llysiau, digon o fwydydd â starts, rhai bwydydd llawn protein megis cig, pysgod, wyau a ffa a rhai bwydydd cynnyrch llaeth. Ceisia fwyta llai o gig coch a chig sydd wedi’i brosesu os wyt ti’n bwyta llawer o’r pethau hyn, a cheisia fwyta llai o fwydydd sy’n uchel mewn braster, siwgr a halen. A chofia ei bod yn bwysig peidio ag yfed gormod o alcohol.
Mae cadw’n heini a chynnal pwysau iach hefyd yn helpu i leihau’r perygl o ddatblygu rhai mathau o ganser yn ogystal â chlefyd y galon.
I gael rhagor o wybodaeth am fwyta deiet cytbwys ac iach, defnyddia'r plât bwyta'n iach.
Yr ydym yn aml yn darllen mewn papurau newydd neu ar y we sut mae rhai bwydydd neu ddeietau penodol yn gallu gwella rhai cyflyrau meddygol.
Gwnaed rhywfaint o ymchwil ynglŷn â buddiannau bwydydd unigol i iechyd, ond yn gyffredinol, mae angen i ni fwyta amrywiol fathau o fwyd i wneud yn siŵr ein bod yn cael yr ystod o faetholion y mae ein cyrff eu hangen.
Dylai’r rhan fwyaf o bobl fwyta deiet gytbwys, sy’n golygu un sy’n llawn o fwydydd â startsh (fel bara, pasta a reis) a dylem ddewis bwydydd grawn cyflawn pryd bynnag y bo hynny’n bosib. Dylem hefyd fod yn bwyta:
llawer o ffrwythau a llysiau (o leiaf pum dogn y dydd)
lefel gymedrol o gig, pysgod neu amrywiadau (fel wyau, ffa a lentilau)
lefel gymedrol o laeth a chynnyrch llaeth
ychydig o fwydydd â braster neu fwydydd a diodydd siwgraidd
Os oes gennych chi broblemau iechyd, ewch i weld eich Meddyg Teulu, a cheisiwch gyngor proffesiynol bob amser cyn newid eich deiet yn sylweddol. Peidiwch â rhoi’r gorau i fwyta rhai grwpiau bwyd penodol neu fwyta llawer iawn o unrhyw fwydydd, gan y gallai hyn gael effaith andwyol ar eich iechyd.
Mae llawer o wybodaeth am fwyd ar gael, ond dylech geisio gwneud yn siŵr bod unrhyw gyngor a ddilynwch yn dod o ffynhonnell ddibynadwy.
Os oes gennych chi gyflwr meddygol penodol, a’ch bod eisiau cyngor personol, cysylltwch â Deietegydd Cofrestredig drwy eich ysbyty neu’ch meddygfa leol.
A fydd atchwanegiadau olew iau penfras yn fy amddiffyn rhag osteoarthritis?
Mae ataliad yn allweddol mewn osteoarthritis. Y peth gorau y gelli ei wneud yw cynnal pwysau iach trwy fwyta deiet amrywiol a chytbwys a thrwy gadw’n actif yn gorfforol. Dylet anelu at fwyta deiet sy’n llawn bwydydd startshlyd, fel reis a bara gwenith cyflawn, a meintiau cymhedrol o gig a chynnyrch llaeth, gydag o leiaf pum darn o ffrwythau a llysiau amrywiol bob dydd.
Mae’n bwysig hefyd bwyta dau ddarn o bysgod bob wythnos. Dylai un o’r rhain fod yn bysgod olewog, fel eog, macrell neu sardîns. Gall hyn helpu pobl sy’n dioddef o grydcymalau gwynegol oherwydd efallai fod y brasterau a geir mewn pysgod olewog yn cael effaith gwrthlidiol.
Pan fydd gan rywun osteoarthritis, mae’r cartilag llyfn sy’n cymryd y straen mewn cymal arferol yn mynd yn arw, yn frau ac yn wan. I wneud yn iawn am hyn, mae’r asgwrn oddi tano yn tewhau ac yn lledaenu, gan ffurfio alldyfiannau cnotiog. Mae hyn yn achosi anystwythedd a phoen.
Mae’r math hwn o arthritis yn fwy cyffredin ymysg pobl hŷn ac nid yw’n digwydd yn aml iawn mewn pobl o dan 40 oed. Mae menywod yn fwy tebygol o ddioddof na dynion, ac mae pobl sydd dros bwysau neu’n ordew yn fwy tebygol o gael y clefyd, yn enwedig yn eu pengliniau. Mae cymalau sydd wedi dioddef anafiadau yn fwy tueddol o gael osteoarthritis hefyd.
Bu ymchwil i’r defnydd o atchwanegiadau olew pysgod wrth drin ffurfiau amrywiol o arthritis, er bod y ffocws fel arfer ar grydcymalau gwynegol yn hytrach nag osteoarthritis. Achosir crydcymalau gwynegol gan system imiwnedd y corff yn ymosod ar y cymalau ac yn achosi llid.
Mae brasterau yn gysylltiedig â’r llid hwn a gall y rheiny a geir mewn pysgod effeithio ar y broses a helpu i leihau’r llid. Mae rhai astudiaethau sy’n profi’r ddamcaniaeth hon ar bobl â chrydcymalau gwynegol wedi dangos buddion, ond mae astudiaethau eraill heb ddangos unrhyw fuddion o gwbl. Mae’r ymchwil yn parhau.
Mae peth ymchwil yn awgrymu y gall cael mwy na’r cyfartaledd o 1.5mg y dydd o fitamin A dros sawl blwyddyn effeithio ar ein hesgyrn a’u gwneud yn fwy tebygol o dorri pan fyddwn yn hŷn. Mae hyn yn ogystal â’r perygl o osteoporosis y mae pobl hŷn, yn enwedig menywod, yn ei wynebu.
Mae atchwanegiadau olew iau pysgod (yn ogystal â llawer o atchwanegiadau lluosfitaminau) yn uchel mewn fitamin A. Felly os wyt yn cymryd atchwanegiadau yn cynnwys fitamin A, gwna’n siwr nad wyt yn cael mwy na chyfanswm o 1.5mg y dydd o dy fwyd ac atchwanegiadau. Os wyt yn bwyta iau neu gynnyrch iau fel pâtè bob wythnos, dylet osgoi cymryd unrhyw atchwanegiadau sy’n cynnwys fitamin A, gan fod iau yn llawn o fitamin A.
Dylai menywod sydd wedi mynd trwy’r menopos a dynion hŷn, sydd â mwy o berygl o gael osteoporosis, osgoi bwyta iau neu gynnyrch iau fwy nag unwaith yr wythnos, neu fwyta darnau bach o iau yn unig. Dylai pobl sydd mewn perygl o gael osteoporosis sy’n bwyta iau neu gynnyrch iau fel pâtè bob wythnos, osgoi cymryd atchwanegiadau sy’n cynnwys fitamin A hefyd, am fod y rhain yn cynnwys olewau iau pysgod.
Felly os wyt eisiau cymryd atchwanegiad pysgod, efallai y dylet ddewis cymryd atchwanegiadau olew pysgod yn hytrach nag olew iau penfras neu atchwanegiadau olew iau pysgod eraill.
Sut gallaf ddod o hyd i faethegydd neu ddeietegydd achrededig?
Mae nifer o wahanol ffyrdd i ddod o hyd i weithiwr proffesiynol cymwysedig i’ch cynghori ynglŷn â’ch deiet. Gallech ymgynghori â naill ai ddeietegydd neu faethegydd, a dibynnu sut fath o gyngor rydych chi ei eisiau.
Mae deietegwyr cofrestredig yn arbenigwyr ar ddeiet a maeth, felly gallant roi cyngor am bopeth sy’n ymwneud â bwyta a deiet, gan gynnwys deietau arbennig ar gyfer cyflyrau meddygol. Mae’r teitl ‘deietegydd’ wedi’i warchod gan Gyngor y Gweithwyr Proffesiynol Iechyd. Golyga hyn nad yw rhywun yn gallu galw’i hun yn ddeietegydd heblaw eu bod wedi eu cymhwyso a’u cofrestru’n briodol gyda’r Cyngor. Rheolir deietegwyr cofrestredig gan y Llywodraeth. Cymdeithas broffesiynol y deietegwyr yw Cymdeithas Ddeieteg Prydain.
Gallwch gysylltu â deietegydd cofrestredig drwy eich ysbyty neu feddygfa leol. Gallwch hefyd chwilio am ddeietegydd ar-lein yn Dieticians Unlimited, a redir gan Grŵp Deietegwyr Llawrydd Cymdeithas Ddeieteg Prydain. Mae Cyngor y Gweithwyr Proffesiynol Iechyd yn cyhoeddi ei gofrestr ar-lein, felly gallwch fynd i’r wefan i weld a yw deietegydd yn gofrestredig ai peidio.
Mae maethegwyr wedi’u cymhwyso i roi gwybodaeth am fwyd a bwyta’n iach, ond nid am ddeietau therapiwtig arbennig. Mae gan y Gymdeithas Faeth gofrestr o faethegwyr (R Nutr), maethegwyr cysylltiol (A Nutr) a maethegwyr iechyd cyhoeddus (R PH Nutr). Pwrpas y gofrestr hon yw rhoi rhestr o faethegwyr sydd wedi’u hyfforddi at lefel gymeradwy.
Ceir rhestr o faethegwyr cofrestredig ar wefan y Gymdeithas Faetheg.
A yw’r bwyd rwy’n ei fwyta yn effeithio ar iechyd fy esgyrn?
Mae deiet yn bwysig iawn er mwyn cadw ein hesgyrn yn iach, ac mae’r un peth yn wir am ymarfer corff. Mae gweithgareddau sy’n rhoi pwysau ar y coesau yn arbennig o bwysig i gadw esgyrn yn gryf, er enghraifft cerdded, dringo grisiau, rhedeg a chwarae pêl-droed.
Mae esgyrn yn organau byw cymhleth sy’n newid ac yn gwella’n barhaus. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwybod bod angen calsiwm ar esgyrn. Llaeth a chynnyrch llaeth yw’r ffynonellau gorau o galsiwm. Mae ffa soia, tofu a physgod lle'r ydych yn bwyta’u hesgyrn (fel sardinau, silod mân a phenwaig Mair) yn ffynonellau da hefyd. Ond mae arnom hefyd angen fitamin D fel bod y calsiwm yn cael ei amsugno i mewn i’r esgyrn i’w gwneud nhw’n gryf.
Rydym yn cael y rhan fwyaf o’n fitamin D gan effaith golau’r haul ar ein croen. Felly, mae’n bwysig ein bod yn treulio ychydig o amser yn yr awyr agored (gan ofalu i beidio â llosgi). Rydym yn cael gweddill ein fitamin D o’n bwyd. Mae i’w gael mewn pysgod olewog fel eog, mecryll a sardinau, ac mewn wyau, rhai grawnfwydydd brecwast a margarin.
Mae peth ymchwil yn awgrymu bod cael mwy na chyfartaledd o 1.5mg y dydd o fitamin A dros nifer o flynyddoedd yn gallu effeithio ar ein hesgyrn a’u gwneud yn fwy tebygol o dorri pan rydyn ni’n hŷn. Os rydych chi’n bwyta iau (sy’n llawn fitamin A), neu gynhyrchion iau fel paté bob wythnos, rydych chi’n fwy tebygol o fod yn cael cyfartaledd o 1.5mg o fitamin A y dydd.
Os nad wyt ti'n cael digon o fitamin D, gelli fod yn fwy agored i effeithiau niweidiol gormodedd o fitamin A. Mae pobl a allai fod yn arbennig o brin o fitamin yn cynnwys menywod o dras Asiaidd, pobl sy’n gorchuddio’u croen i gyd yn yr awyr agored a phobl hŷn sydd prin yn mentro allan, neu bobl nad ydynt yn bwyta cig na physgod olewog . Felly os wyt ti'n brin o fitamin D, gallai fod yn syniad da cael mwy ohono. Efallai y dylet ystyried cymryd atchwanegiad 10mg o fitamin D bob dydd.
Mae yna nifer o faethynnau eraill sy’n bwysig ar gyfer cynnal esgyrn iach. Mae llawer o’r rhain i’w canfod mewn ffrwythau a llysiau.
Felly, i gadw dy esgyrn yn iach, y cyngor gorau yw ymarfer corff yn yr awyr agored a bwyta deiet cytbwys, sy'n cynnwys o leiaf pum dogn o ffrwythau a llysiau amrywiol bob dydd, swm cymhedrol o laeth a chynnyrch llaeth, ac o leiaf dau ddogn o bysgod (dylai un fod yn olewog) bob wythnos.