Text only

Holi Sam...

Sam



Bwyd a chyflyrau meddygol



Beth ddylai rhywun sydd â diabetes Math 2 ei fwyta?

Dylai pobl sydd â diabetes Math 2 ddilyn cyngor cyffredinol ynglŷn â bwyta'n iach. Mae hyn yn golygu bwyta deiet gytbwys sydd ag:
  • ychydig o fraster (yn enwedig braster annirlawn)
  • ychydig o siwgr
  • ychydig o halen
  • llawer o ffrwythau a llysiau (o leiaf pum dogn y dydd)
  • llawer o fwydydd carbohydrad â startsh, fel bara, chapatti, reis, pasta a iamau
  • Fodd bynnag, dylai pobl sydd â diabetes osgoi yfed gormod o sudd ffrwythau oherwydd mae siwgr y ffrwyth (ffrwctos) yn gallu achosi problemau gyda rheoli siwgr gwaed.

    Yn gyffredinol, dylai eich mam gyfyngu ar faint o fwyd siwgraidd (fel losin neu gacennau) y mae hi’n eu bwyta oherwydd bod y corff yn amsugno’r siwgrau o’r bwydydd hyn yn rhy gyflym a gallai hyn amharu ar reolaeth ei siwgr gwaed. Mae’n well bwyta carbohydradau mewn ffurf sy’n rhyddhau siwgrau’n arafach, er enghraifft bara cyflawn.

    Os yw hi’n dueddol o fod â siwgr gwaed isel (hypoglycaemia), mae’n bosib bod angen iddi weithiau godi ei siwgr gwaed yn gyflym. Os yn bosib, mae’n well bwyta rhywbeth a fydd yn cynyddu ei siwgr gwaed yn raddol, fel tafell o dost. Gall ei meddyg neu ei hymarferydd nyrsio roi cyngor iddi am sut i fod yn barod ar gyfer hypoglycaemia a sut i’w reoli.

    Nid yw’r Asiantaeth Safonau Bwyd na Diabetes UK (Cymdeithas Diabetes Prydain, gynt) yn argymell cynhyrchion sydd â label ‘diabetig’ penodol. Nid yw’r bwydydd hyn, o reidrwydd, yn iachach nac yn fwy addas ar gyfer pobl sydd â diabetes na bwydydd eraill. Ac maent yn dueddol o fod yn ddrutach na chynhyrchion eraill.

    Yn fwy na dim, mae’n bwysig bod eich mam yn cynnal pwysau iach, yn enwedig wrth iddi fynd yn hŷn.


Ydy bwyd yn gallu gwella cyflyrau meddygol?

Yr ydym yn aml yn darllen mewn papurau newydd neu ar y we sut mae rhai bwydydd neu ddeietau penodol yn gallu gwella rhai cyflyrau meddygol.

Gwnaed rhywfaint o ymchwil ynglŷn â buddiannau bwydydd unigol i iechyd, ond yn gyffredinol, mae angen i ni fwyta amrywiol fathau o fwyd i wneud yn siŵr ein bod yn cael yr ystod o faetholion y mae ein cyrff eu hangen.

Dylai’r rhan fwyaf o bobl fwyta deiet gytbwys, sy’n golygu un sy’n llawn o fwydydd â startsh (fel bara, pasta a reis) a dylem ddewis bwydydd grawn cyflawn pryd bynnag y bo hynny’n bosib. Dylem hefyd fod yn bwyta:
  • llawer o ffrwythau a llysiau (o leiaf pum dogn y dydd)
  • lefel gymedrol o gig, pysgod neu amrywiadau (fel wyau, ffa a lentilau)
  • lefel gymedrol o laeth a chynnyrch llaeth
  • ychydig o fwydydd â braster neu fwydydd a diodydd siwgraidd

Os oes gennych chi broblemau iechyd, ewch i weld eich Meddyg Teulu, a cheisiwch gyngor proffesiynol bob amser cyn newid eich deiet yn sylweddol. Peidiwch â rhoi’r gorau i fwyta rhai grwpiau bwyd penodol neu fwyta llawer iawn o unrhyw fwydydd, gan y gallai hyn gael effaith andwyol ar eich iechyd.


Mae llawer o wybodaeth am fwyd ar gael, ond dylech geisio gwneud yn siŵr bod unrhyw gyngor a ddilynwch yn dod o ffynhonnell ddibynadwy.


Os oes gennych chi gyflwr meddygol penodol, a’ch bod eisiau cyngor personol, cysylltwch â Deietegydd Cofrestredig drwy eich ysbyty neu’ch meddygfa leol.

Gallwch hefyd ddod o hyd i ddeietegydd ar wefan Dietitians Unlimited.


A fydd atchwanegiadau olew iau penfras yn fy amddiffyn rhag osteoarthritis?

Mae ataliad yn allweddol mewn osteoarthritis. Y peth gorau y gelli ei wneud yw cynnal pwysau iach trwy fwyta deiet amrywiol a chytbwys a thrwy gadw’n actif yn gorfforol. Dylet anelu at fwyta deiet sy’n llawn bwydydd startshlyd, fel reis a bara gwenith cyflawn, a meintiau cymhedrol o gig a chynnyrch llaeth, gydag o leiaf pum darn o ffrwythau a llysiau amrywiol bob dydd.

Mae’n bwysig hefyd bwyta dau ddarn o bysgod bob wythnos. Dylai un o’r rhain fod yn bysgod olewog, fel eog, macrell neu sardîns. Gall hyn helpu pobl sy’n dioddef o grydcymalau gwynegol oherwydd efallai fod y brasterau a geir mewn pysgod olewog yn cael effaith gwrthlidiol.

Pan fydd gan rywun osteoarthritis, mae’r cartilag llyfn sy’n cymryd y straen mewn cymal arferol yn mynd yn arw, yn frau ac yn wan. I wneud yn iawn am hyn, mae’r asgwrn oddi tano yn tewhau ac yn lledaenu, gan ffurfio alldyfiannau cnotiog. Mae hyn yn achosi anystwythedd a phoen.

Mae’r math hwn o arthritis yn fwy cyffredin ymysg pobl hŷn ac nid yw’n digwydd yn aml iawn mewn pobl o dan 40 oed. Mae menywod yn fwy tebygol o ddioddof na dynion, ac mae pobl sydd dros bwysau neu’n ordew yn fwy tebygol o gael y clefyd, yn enwedig yn eu pengliniau. Mae cymalau sydd wedi dioddef anafiadau yn fwy tueddol o gael osteoarthritis hefyd.

Bu ymchwil i’r defnydd o atchwanegiadau olew pysgod wrth drin ffurfiau amrywiol o arthritis, er bod y ffocws fel arfer ar grydcymalau gwynegol yn hytrach nag osteoarthritis. Achosir crydcymalau gwynegol gan system imiwnedd y corff yn ymosod ar y cymalau ac yn achosi llid.

Mae brasterau yn gysylltiedig â’r llid hwn a gall y rheiny a geir mewn pysgod effeithio ar y broses a helpu i leihau’r llid. Mae rhai astudiaethau sy’n profi’r ddamcaniaeth hon ar bobl â chrydcymalau gwynegol wedi dangos buddion, ond mae astudiaethau eraill heb ddangos unrhyw fuddion o gwbl. Mae’r ymchwil yn parhau.

Mae peth ymchwil yn awgrymu y gall cael mwy na’r cyfartaledd o 1.5mg y dydd o fitamin A dros sawl blwyddyn effeithio ar ein hesgyrn a’u gwneud yn fwy tebygol o dorri pan fyddwn yn hŷn. Mae hyn yn ogystal â’r perygl o osteoporosis y mae pobl hŷn, yn enwedig menywod, yn ei wynebu.

Mae atchwanegiadau olew iau pysgod (yn ogystal â llawer o atchwanegiadau lluosfitaminau) yn uchel mewn fitamin A. Felly os wyt yn cymryd atchwanegiadau yn cynnwys fitamin A, gwna’n siwr nad wyt yn cael mwy na chyfanswm o 1.5mg y dydd o dy fwyd ac atchwanegiadau. Os wyt yn bwyta iau neu gynnyrch iau fel pâtè bob wythnos, dylet osgoi cymryd unrhyw atchwanegiadau sy’n cynnwys fitamin A, gan fod iau yn llawn o fitamin A.

Dylai menywod sydd wedi mynd trwy’r menopos a dynion hŷn, sydd â mwy o berygl o gael osteoporosis, osgoi bwyta iau neu gynnyrch iau fwy nag unwaith yr wythnos, neu fwyta darnau bach o iau yn unig. Dylai pobl sydd mewn perygl o gael osteoporosis sy’n bwyta iau neu gynnyrch iau fel pâtè bob wythnos, osgoi cymryd atchwanegiadau sy’n cynnwys fitamin A hefyd, am fod y rhain yn cynnwys olewau iau pysgod.

Felly os wyt eisiau cymryd atchwanegiad pysgod, efallai y dylet ddewis cymryd atchwanegiadau olew pysgod yn hytrach nag olew iau penfras neu atchwanegiadau olew iau pysgod eraill.


Sut gallaf ddod o hyd i faethegydd neu ddeietegydd achrededig?

Mae nifer o wahanol ffyrdd i ddod o hyd i weithiwr proffesiynol cymwysedig i’ch cynghori ynglŷn â’ch deiet. Gallech ymgynghori â naill ai ddeietegydd neu faethegydd, a dibynnu sut fath o gyngor rydych chi ei eisiau.


Mae deietegwyr cofrestredig yn arbenigwyr ar ddeiet a maeth, felly gallant roi cyngor am bopeth sy’n ymwneud â bwyta a deiet, gan gynnwys deietau arbennig ar gyfer cyflyrau meddygol. Mae’r teitl ‘deietegydd’ wedi’i warchod gan Gyngor y Gweithwyr Proffesiynol Iechyd. Golyga hyn nad yw rhywun yn gallu galw’i hun yn ddeietegydd heblaw eu bod wedi eu cymhwyso a’u cofrestru’n briodol gyda’r Cyngor. Rheolir deietegwyr cofrestredig gan y Llywodraeth. Cymdeithas broffesiynol y deietegwyr yw Cymdeithas Ddeieteg Prydain.


Gallwch gysylltu â deietegydd cofrestredig drwy eich ysbyty neu feddygfa leol. Gallwch hefyd chwilio am ddeietegydd ar-lein yn Dieticians Unlimited, a redir gan Grŵp Deietegwyr Llawrydd Cymdeithas Ddeieteg Prydain. Mae Cyngor y Gweithwyr Proffesiynol Iechyd yn cyhoeddi ei gofrestr ar-lein, felly gallwch fynd i’r wefan i weld a yw deietegydd yn gofrestredig ai peidio.


Mae maethegwyr wedi’u cymhwyso i roi gwybodaeth am fwyd a bwyta’n iach, ond nid am ddeietau therapiwtig arbennig. Mae gan y Gymdeithas Faeth gofrestr o faethegwyr (R Nutr), maethegwyr cysylltiol (A Nutr) a maethegwyr iechyd cyhoeddus (R PH Nutr). Pwrpas y gofrestr hon yw rhoi rhestr o faethegwyr sydd wedi’u hyfforddi at lefel gymeradwy.


Ceir rhestr o faethegwyr cofrestredig ar wefan y Gymdeithas Faetheg.


A yw’r bwyd rwy’n ei fwyta yn effeithio ar iechyd fy esgyrn?

Mae deiet yn bwysig iawn er mwyn cadw ein hesgyrn yn iach, ac mae’r un peth yn wir am ymarfer corff. Mae gweithgareddau sy’n rhoi pwysau ar y coesau yn arbennig o bwysig i gadw esgyrn yn gryf, er enghraifft cerdded, dringo grisiau, rhedeg a chwarae pêl-droed.

Mae esgyrn yn organau byw cymhleth sy’n newid ac yn gwella’n barhaus. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwybod bod angen calsiwm ar esgyrn. Llaeth a chynnyrch llaeth yw’r ffynonellau gorau o galsiwm. Mae ffa soia, tofu a physgod lle'r ydych yn bwyta’u hesgyrn (fel sardinau, silod mân a phenwaig Mair) yn ffynonellau da hefyd. Ond mae arnom hefyd angen fitamin D fel bod y calsiwm yn cael ei amsugno i mewn i’r esgyrn i’w gwneud nhw’n gryf.

Rydym yn cael y rhan fwyaf o’n fitamin D gan effaith golau’r haul ar ein croen. Felly, mae’n bwysig ein bod yn treulio ychydig o amser yn yr awyr agored (gan ofalu i beidio â llosgi). Rydym yn cael gweddill ein fitamin D o’n bwyd. Mae i’w gael mewn pysgod olewog fel eog, mecryll a sardinau, ac mewn wyau, rhai grawnfwydydd brecwast a margarin.

Mae peth ymchwil yn awgrymu bod cael mwy na chyfartaledd o 1.5mg y dydd o fitamin A dros nifer o flynyddoedd yn gallu effeithio ar ein hesgyrn a’u gwneud yn fwy tebygol o dorri pan rydyn ni’n hŷn. Os rydych chi’n bwyta iau (sy’n llawn fitamin A), neu gynhyrchion iau fel paté bob wythnos, rydych chi’n fwy tebygol o fod yn cael cyfartaledd o 1.5mg o fitamin A y dydd.

Os nad wyt ti'n cael digon o fitamin D, gelli fod yn fwy agored i effeithiau niweidiol gormodedd o fitamin A. Mae pobl a allai fod yn arbennig o brin o fitamin yn cynnwys menywod o dras Asiaidd, pobl sy’n gorchuddio’u croen i gyd yn yr awyr agored a phobl hŷn sydd prin yn mentro allan, neu bobl nad ydynt yn bwyta cig na physgod olewog . Felly os wyt ti'n brin o fitamin D, gallai fod yn syniad da cael mwy ohono. Efallai y dylet ystyried cymryd atchwanegiad 10mg o fitamin D bob dydd.

Mae yna nifer o faethynnau eraill sy’n bwysig ar gyfer cynnal esgyrn iach. Mae llawer o’r rhain i’w canfod mewn ffrwythau a llysiau.

Felly, i gadw dy esgyrn yn iach, y cyngor gorau yw ymarfer corff yn yr awyr agored a bwyta deiet cytbwys, sy'n cynnwys o leiaf pum dogn o ffrwythau a llysiau amrywiol bob dydd, swm cymhedrol o laeth a chynnyrch llaeth, ac o leiaf dau ddogn o bysgod (dylai un fod yn olewog) bob wythnos.


Holi cwestiwn i Sam

Os nad wyt ti'n gallu dod o hyd i'r ateb i dy gwestiwn di, anfona gwestiwn newydd drwy glicio ac y ddolen isod.

 

Nid oes modd i ni ateb pob cwestiwn, ond rydym yn cyhoeddi atebion ar amrywiaeth o bynciau yn rheolaidd.